Dros chwarter plant 4 a 5 Cymru dros bwysau neu'n ordew - data newydd

cinio ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dros chwarter o blant pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew - y gyfradd uchaf sydd erioed wedi'i chofnodi.

Roedd 27.3% o blant oed dosbarth Derbyn dros eu pwysau neu'n ordew yn ôl Rhaglen Mesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dyma'r gyfradd uchaf a gofnodwyd ers i'r rhaglen ddechrau yn 2014-15.

Mae'r data hefyd yn dangos bod cyfraddau gordewdra yn llawer uwch mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mesur 95% o blant

Mae'r rhaglen yn cofnodi taldra a phwysau plant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru.

Roedd adroddiad eleni'n cynnwys 28,512 o blant, sef 94.7% o blant pedair a phump oed yng Nghymru.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dyma'r lefel cyfranogiad uchaf erioed yn y rhaglen.

Roedd cyfran y plant oedd yn ordew yn 12.8%, sy'n uwch na'r ffigyrau cyfatebol yn Lloegr a'r Alban.

Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, roedd 15.6% o blant yn ordew, o'i gymharu ag 8.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae'r canfyddiadau'n dangos "pa mor bwysig yw'r blynyddoedd cynnar" i iechyd plant, meddai Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd Blynyddoedd Cynnar yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ychwanegodd fod y "sylfeini ar gyfer pwysau iach a dyfodol iach yn cael eu gosod o feichiogrwydd drwodd i ddechrau yn yr ysgol".

"Mae cefnogi twf iach yn gynnar ym mywyd plentyn yn cynnig un o'n cyfleoedd cryfaf i leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau, yn enwedig i blant sy'n tyfu i fyny mewn cymunedau mwy difreintiedig."

Dywedodd hefyd nad yw "hyn yn ymwneud â rhieni sydd â diffyg gwybodaeth na chymhelliant".

Dywedodd bod llawer o deuluoedd eisiau "gwneud eu gorau dros eu babanod a'u plant bach, ond gall yr amgylcheddau o'u cwmpas wneud dewisiadau iach yn anoddach i'w cyflawni".

"Mae creu'r amodau lle mae'r dewis iach yn ddewis hawdd yn gofyn am gamau cydgysylltiedig ar draws iechyd, bwyd, gofal plant, manwerthu, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud ei fod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu camau ymarferol i gefnogi iechyd plant yn y blynyddoedd cynnar.

Mae hynny'n cynnwys adolygu'r ddarpariaeth bwyd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gweithio gyda manwerthwyr i annog dewisiadau iachach.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.