Heddlu heb ddod o hyd i droseddwr wedi 'bygythiad i fywyd' AS Reform

Cai Parry-Jones: "Ni fydd yn fy atal rhag dweud yr hyn rwy'n ei gredu"
- Cyhoeddwyd
Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i droseddwr wedi i aelod Reform yn Senedd Cymru, Cai Parry-Jones ddweud iddo dderbyn bygythiad i'w fywyd.
Dechreuodd swyddogion Heddlu De Cymru ymchwilio yn dilyn y bygythiad honedig yn ei erbyn ef a'i deulu ym mis Mehefin.
Mewn diweddariad dywedodd yr heddlu wrth BBC Cymru: "Mae'r mater wedi'i ymchwilio ac nid oes rhagor o lwybrau ymchwilio ar gael i nodi'r troseddwr."
Wrth ymateb, dywedodd AS Caerdydd Ffynnon Taf wrth y BBC: "Dylai gwleidyddion allu cynrychioli eu hetholwyr heb wynebu bygythiadau marwolaeth.
"Mae hyn yn digwydd i bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol cyfan.
"Ni fydd yn fy atal rhag dweud yr hyn rwy'n ei gredu, ond mae'n debygol iawn o atal ymgeiswyr da rhag sefyll dros eu cymunedau.
"Yn anffodus, mae'r sefyllfa hon yn rhy gyfarwydd yng Nghymru.
"Pan fydd troseddwyr yn meddwl y gallant ddianc rhag cosb am drosedd, maent yn cyflawni mwy ohoni."
'Fframwaith ddiogelwch gynhwysfawr'
Mae diogelwch Aelodau o'r Senedd yn fater sydd wedi cael ei godi sawl gwaith eleni.
Dywedodd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, yn ystod yr haf bod "fframwaith ddiogelwch gynhwysfawr" i gefnogi aelodau yn eu gwaith.
Dywedodd bod hynny yn cynnwys diogelwch ar ystad y Senedd, cyngor wedi ei deilwra, modd o gofnodi digwyddiadau, a mesurau diogelwch yng nghartrefi aelodau a swyddfeydd etholaethol.
Ychwanegodd bod cynlluniau diogelwch yn cael eu hadolygu'n flynyddol, tra bod asesiadau risg parhaus yn cael eu cynnal gan swyddogion diogelwch y Senedd, yr heddlu a phartneriaid diogelwch drwy'r DU.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.