'Doedd e ddim yn teimlo'n dda mod i ddim yn gallu siarad Cymraeg gyda enw fel Rhianydd'

Rhianydd yn derbyn ei thystysgrif ganolradd am ddysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
"Pam dwyt ti ddim yn gallu siarad Cymraeg, gydag enw fel Rhianydd ac yn byw yng Nghymru?"
Dyma'r cwestiwn oedd Rhianydd Webb yn ei glywed o hyd. Ac er gwaetha'r ffaith ei bod hi heb siarad na dysgu Cymraeg ers iddi fod yn yr ysgol, dechreuodd y gwneuthurwr cacennau o Bontypridd deimlo'r ysfa i ddysgu fel oedolyn.
Bu'n rhannu ei phrofiad o ddysgu Cymraeg a'r gefnogaeth sy'n dod gan y gymuned gref o ddysgwyr yn Rhondda Cynon Taf gyda Cymru Fyw yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.
Meddai: "Doedd neb yn fy nheulu neu ffrindiau'n siarad Cymraeg.
"Do'n i dim ond yn cael gwersi Cymraeg yn yr ysgol unwaith yr wythnos. Dwi ddim wedi neud Lefel O yn y Gymraeg oherwydd 'nes i Ffrangeg yn lle.
"Ac roedd hiraeth ar gyfer yr iaith a doedd e ddim yn teimlo'n dda mod i ddim yn gallu siarad Cymraeg gyda enw fel Rhianydd, wrth gwrs."
Felly aeth Rhianydd ati i ddysgu'r iaith ar Duolingo yn 2022 ac erbyn hyn mae'n cael gwersi bob wythnos gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg yn ogystal â dilyn cwrs gloywi iaith gyda Helen Prosser o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Meddai: "Dwi wedi sefyll yr arholiadau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd ac wedi cael mwy na 90% ar gyfer bob un. So, dwi'n hapus iawn."
Mae gyrfa Rhianydd yn creu cacennau wedi ei chymryd i bedwar ban y byd ond erbyn hyn mae hi'n feirniad mewn sioeau cacennau yn ogystal â gweithio gyda Busnes mewn Ffocws yn cefnogi busnesau.
Mae dysgu'r iaith wedi trawsnewid ei gwaith, meddai: "Gyda Busnes mewn Ffocws, nawr dwi'n defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith hefyd bron bob dydd.
"Dwi wedi cyflwyno webinar yn Gymraeg."

Rhianydd gyda un o'i chacennau
Cymuned
Mae Rhianydd yn canmol y gymuned sy' wedi ei helpu yn ei thaith i fod yn siaradwr rhugl: "Mae'n gymuned amyneddgar, a dyna pam o'n i'n hapus i ddechrau siarad.
"Es i i'r Eisteddfod ym Mhontypridd i weithio ar stondin fy lle gwaith a dros pedwar diwrnod, roedd rhaid i fi siarad Cymraeg yr holl tro.
"Ac erbyn diwrnod tri, dw i wedi sylweddoli ro'n i'n gallu meddwl yn Gymraeg tipyn bach, dim ond ar gyfer y safon dw i wedi cyrraedd ond dal yn meddwl yn Gymraeg yn lle meddwl, 'O be' ydy'r gair?'
"Nawr, os dw i'n meddwl am y gair, dim ond oherwydd mae diddordeb mawr gyda fi i ddysgu'r gair. Os dw i'n siarad gyda chwsmer, dw i ddim yn meddwl am y gair o gwbl, jest yn defnyddio Saesneg os dwi ddim yn gwybod.
"Ond, ie, mae e wedi newid popeth jest oherwydd roedd y cwsmeriaid i'r stondin yn yr eisteddfod yn amyneddgar i siarad Cymraeg.
"A chydweithwyr hefyd, dwi'n lwcus iawn i gael pobl o ledled Cymru yn y cwmni. Maen nhw'n helpu fi cymaint."
Ac mae ymuno â'r gymuned o ddysgwyr wedi trawsnewid bywyd, meddai: "Dwi yn y gymuned nawr. So, dwi'n mynd i gigiau, dwi'n mynd i'r Eisteddfod ac wedi aros trwy'r holl wythnos yn Eisteddfod eleni.
"Dwi yng nghôr dysgwyr y Cymoedd ac wedi cystadlu gyda nhw. Felly mae'n berffaith."
Ac mae Rhianydd am fynd i wylio sioe mewn theatr yng nghwmni ei grŵp gloywi iaith, meddai: "Pedair mlynedd yn ôl baswn i byth yn meddwl gwylio sioe yn Gymraeg."

Cacen y ddraig gan Rhianydd
Cacennau
Natur sydd wedi ysbrydoli cacennau Rhianydd yn ei gyrfa ac mae wedi creu cacennau ar gyfer priodasau, ac ar gyfer digwyddiadau fel y Jiwbili ym Mhalas Buckingham ac ar gyfer cyfres Pobol y Cwm.
Erbyn hyn mae hi wedi ymddeol o greu cacennau ac yn hytrach wedi bod yn beirniadu mewn cystadlaethau ar draws y byd ynglŷn â gwaith crefft siwgr, mewn gwledydd fel China ac India. Mae hi hefyd yn cynnal dosbarthiadau gwneud cacennau.
Dywedodd: "Y byd naturiol ac hefyd rhywbeth hudol sy'n ysbrydoli y cacennau. Mae pobl yn dwlu ar dylwyth teg ac am gacennau naturiol fel planhigion a choed."

Cacen flodau gan Rhianydd - y byd naturiol yw ei hysbrydoliaeth pennaf
Felly beth yw cyngor Rhianydd i ddysgwyr eraill?
Peidiwch â bod ofn siarad Cymraeg a gwneud camgymeriadau.
Ewch amdani - mae'n gymuned mor amyneddgar a mor garedig achos, i ddweud y gwir, maen nhw jest yn hapus bod ti eisiau dechrau dysgu Cymraeg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
