Ystyried cynlluniau i wneud Bro Dur yn ysgol Gymraeg annibynnol erbyn 2028

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd campws Bro Dur ger Aberafan yn 2018 ac mae tua 500 o ddisgyblion uwchradd yn cael eu haddysg yno

GanEllis Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i wneud Bro Dur yn ysgol Gymraeg annibynnol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu hystyried, wrth i'r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal gynyddu.

Wyth mlynedd ar ôl agor campws Bro Dur ger Aberafan, mae adroddiad yn argymell y dylai'r safle ddod yn ysgol ar wahân i Ysgol Gyfun Ystalyfera o fis Medi 2028.

Agorodd campws Bro Dur ger Aberafan yn 2018, ac mae tua 500 o ddisgyblion uwchradd yn cael eu haddysg yno ar hyn o bryd, gyda'r nifer yn debygol o godi i fwy na 700 erbyn y degawd nesaf.

Bydd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod yr argymhelliad yr wythnos hon ond mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn dweud bod angen i'r ysgol gael ei chweched dosbarth ei hun hefyd.

Heini Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd Dyfodol i'r Iaith yn croesawu'r posibilrwydd o wneud Bro Dur yn ysgol annibynnol, ond yn dweud bod angen chweched dosbarth hefyd

Mae Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ehangu addysg Gymraeg ers degawdau, yn credu bod sefydlu ysgol annibynnol yn gam naturiol yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion.

"Mae'r trefniant o gael yr ysgol wedi llwyddo, mae niferoedd y disgyblion yn cynyddu, ond erbyn hyn maen nhw wedi cynyddu digon i gael ysgol annibynnol a dyna'r ffordd ymlaen fel bod yr ysgol yn gallu datblygu ei phersonoliaeth ei hun."

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Bro Dur yn gysylltiedig ag Ysgol Gyfun Ystalyfera ar hyn o bryd

Ychwanegodd ei fod yn pryderu na fydd yr ysgol yn cynnig addysg ôl-16, gan olygu y byddai'n rhaid i rai disgyblion deithio i Ystalyfera i gwblhau eu haddysg.

"Ond rydyn ni'n pryderu mai ysgol 11 i 16 fydd hi, nid ysgol 11 i 18," meddai.

"Mae angen i'r ysgol gael ei chweched dosbarth ei hun, fel arall mae'r plant yn gorfod mynd i Ystalyfera, teithio 18 milltir, ac mae hynny'n rhy bell."

Mae'r BBC wedi cysylltu â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn am ymateb i'r pryderon ynghylch darparu chweched dosbarth ym Mro Dur.

Cassius Walker-Hunt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cassius Walker-Hunt yn credu y gall Bro Dur "sefyll ar ei phen ei hun"

Mae Cassius Walker-Hunt, sy'n rhedeg siop goffi yng nghanolfan siopa Aberafan, yn gyfarwydd â'r ddau safle, gan fod ei chwiorydd wedi mynd i Fro Dur ac yntau wedi mynychu Ysgol Gyfun Ystalyfera.

"O'n i 'di mynd i Ystalyfera ac o'n i'n credu bod yr ysgol yn gallu gwneud hyn ers y flwyddyn gynta', ond dwi'n credu ei bod hi'n gallu sefyll ar ei phen ei hun," meddai.

Os bydd y cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i wahanu'r ddau safle, bydd cyfnod ymgynghori yn dilyn, a disgwylir iddo ddod i ben yng nghanol mis Rhagfyr.

Gallai Bro Dur felly ddod yn ysgol annibynnol yn 2028, ddeng mlynedd ar ôl i'r addysgu ddechrau yno.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol