Cyhuddo dyn o lofruddio ei dad yng Nghaergybi

Llys Watling, Caergybi
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed o Gaergybi wedi'i gyhuddo o lofruddio ei dad, 53 oed, mewn fflat yn y dref.

Cafodd Martin Joseph Ward, o Ffordd Kingsland, ei arestio ar ôl i gorff ei dad, Michael Ward gael ei ddarganfod yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd Michael Ward ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno, a barodd tua munud, cadarnhaodd Martin Joseph Ward ei enw, ei ddyddiad geni a'i fod yn deall bod ei achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron.

Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones y byddai'n aros yn y ddalfa.

Mae disgwyl i Martin Joseph Ward ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, 20 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig