Diogelwch tomenni glo yn 'hanfodol' - Burnham wrth ymweld ag Aberfan

- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dweud bod diogelwch tomenni glo, yn enwedig yng nghymoedd de Cymru, yn "hanfodol bwysig".
Daeth sylwadau Andy Burnham yn ystod ymweliad ag Aberfan fore Llun i nodi 60 mlynedd ers y trychineb.
Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.
Dywedodd Mr Burnham fod ei lywodraeth wedi ymroi yn llwyr i sicrhau diogelwch cymunedau ar draws Cymru a'i fod yn "deall difrifoldeb y mater".

Fe wnaeth y Prif Weinidog ymweld â mynwent Aberfan a chanolfan gymunedol yn y pentref
Mae sawl tomen lo yn ne Cymru yn cael eu hystyried yn rhai a allai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd yn dilyn ailasesiad gan Lywodraeth Cymru.
Dangosodd data Llywodraeth Cymru fod 11 tomen wedi'u symud i gategorïau C a D - y rhai mwyaf difrifol - ers Tachwedd 2022.
"Yn amlwg, mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n sicrhau diogelwch yr holl domenni glo sy'n weddill yng Nghymru, ac yn wir ar draws y DU," meddai Andy Burnham.
"Rydw i'n cynrychioli cymuned lofaol fy hun, felly dwi'n deall difrifoldeb a phwysigrwydd y mater.
"Mae Llywodraeth y DU yn darparu tua £140m i Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n ychwanegu cyllid eu hunain at hynny hefyd. Mae'r arian yno.
"Mae 'na gorff yn cael ei sefydlu i reoli'r risgiau penodol hyn hefyd."
Aberfan 'heb gael ei drin yn deg gan yr awdurdodau'
Soniodd Mr Burnham hefyd am pam ei fod yn teimlo ei bod hi'n bwysig ymweld ag Aberfan yr wythnos hon.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i nodi arwyddocâd y digwyddiad... Mae hi'n 60 mlynedd ers un o'r trychinebau gwaethaf y mae'r wlad hon wedi ei weld erioed.
"Roedd yn rhywbeth y byddai mam a dad yn ei drafod gyda fi wrth i mi dyfu fyny.
"Felly rydw i yma i gydnabod y gymuned, yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddi, ac i ddiolch iddyn nhw am fod yn gefn i'w gilydd hefyd.
"Mae cryfder y gymuned yn rhywbeth rydych chi wir yn gallu ei weld a'i deimlo yma."
Ychwanegodd nad oedd yn credu fod Aberfan "wedi cael ei drin yn deg gan yr awdurdodau ac mae angen nodi hynny".

Roedd Ellis a Holly o Ysgol Gynradd Caegarw ymhlith y disgyblion fu'n sgwrsio gyda'r Prif Weinidog fore Llun
Yn ystod ei ymweliad fore Llun fe wnaeth y Prif Weinidog ymweliad â mynwent Aberfan a chanolfan gymunedol yn y pentref.
Hefyd yn ymweld â'r fynwent oedd disgyblion o Ysgol Gynradd Caegarw, Aberpennar.
Dywedodd Ellis, 10 oed, fod y profiad wedi bod yn "emosiynol" ac mai dyma oedd y tro cyntaf iddo ymweld â'r safle.
Roedd Ellis yn un o'r rhai gafodd gyfle i siarad â'r Prif Weinidog.
"Gofynnodd i mi os oedd gen i unrhyw gysylltiadau, wedes i oes, roedd taid yn un o'r bobl wnaeth helpu dynnu plant o'r ysgol... Mae'n meddwl lot i fi."
Ychwanegodd Holly, 10 oed, ei bod hi wedi sôn wrth Mr Burnham am ei chysylltiad hi â'r drychineb.
"Nes i ddweud mai merch fy mam fedydd oedd un o'r plant fu farw yn y drychineb, a dywedodd e 'wow'," meddai.
"Mae'n meddwl lot i ni allu bod yma."

Bu Marilyn Brown (chwith) ac Irene Hollet (dde) yn trafod eu hatgofion o'r digwyddiad gyda Mr Burnham
Bu Mr Burnham hefyd yn cyfarfod â rhai o oroeswyr y drychineb, gan gynnwys Irene Hollet - sy'n dweud ei bod hi'n anodd trafod yr hanes, ond ei bod yn deall pwysigrwydd sicrhau nad yw'n mynd yn angof.
"Mae llwyth o bethau'n dod 'nôl. Chi'n falch eich bod chi dal o gwmpas, ond wedyn chi'n methu'r ffrindiau a theulu gafodd eu colli," meddai wrth drafod y sylw sy'n cael ei roi i'r digwyddiad yr wythnos hon.
"Mae'n hawdd teimlo'n euog eich bod chi dal yma weithiau... Mae'n amser anodd, ond mae'n gorfod digwydd. Mae'n gorfod digwydd fel nad yw'n cael ei anghofio."
Fe gollodd Marilyn Brown ei merch, Janette yn y drychineb.
Dywedodd fod yr atgofion a'r galar "wastad yno".
"Bydd hynny byth yn fy ngadael. Dwi ond yn gobeithio y bydd pobl yn cofio, ac yn sicr heddiw, mae pobl wedi bod yn cofio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

