Dathlu 50 mlynedd o Gôr Meibion Bro Aled diolch i 'frawdoliaeth' yr aelodau

Côr Meibion Bro Aled yn 1976Ffynhonnell y llun, Côr Meibion Bro Aled
Disgrifiad o’r llun,

Llun o aelodau cynnar y côr

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae côr yn fwy na jest troi fyny i ymarfer neu gyngerdd a chanu, mae'n donic, yn ffordd o wneud ffrindiau oes ac yn frawdoliaeth."

Dyna eiriau Carwyn Meurig Williams sy'n is-gadeirydd Côr Meibion Bro Aled wrth i'r côr ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu.

Mewn cyngerdd arbennig, bydd artistiaid lleol yn ogystal â'r côr yn cymryd rhan mewn noson yn Llansannan, Sir Conwy i ddathlu'r 50.

"Mae pob tocyn wedi'i werthu, sy'n dangos poblogrwydd y côr ac rydan ni'n diolch i bobl leol am eu cefnogaeth," meddai Carwyn.

Côr Meibion Bro AledFfynhonnell y llun, Côr Meibion Bro Aled
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r côr yn cystadlu'n aml mewn eisteddfodau

Sefydlwyd y côr yn wreiddiol gan Mair Selway ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant yn 1976.

Mae Bro Aled yn cysylltu sawl ardal wledig yn nyffrynnoedd Conwy a Chlwyd ac mae'r côr erbyn heddiw'n cynnwys tua 66 o aelodau ac mae rhagor yn ymuno'n wythnosol.

Dywedodd Carwyn: "Rydan ni'n gweld wynebau newydd yn ymuno'n wythnosol sy'n beth braf iawn.

"Dwi'n aelod fy hun rŵan ers 2007 a dwi wrth fy modd efo'r cyfeillgarwch. Mae rhywun yn gallu mynd i'r ymarferion ac anghofio am y gwaith.

"Rydan ni'n byw mewn cymdeithas glos iawn, mae 'na drawstoriad oedran ac rydan ni'n cael lot o hwyl.

Carwyn Meurig WilliamsFfynhonnell y llun, Carwyn Meurig Williams
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Meurig Williams yw is-gadeirydd y côr

"Mae'n braf gallu canu efo'n gilydd a mynd am beint i'r Red wedyn i gymdeithasu.

"Rydan ni wedi cael sawl trip cofiadwy hefyd, gan gynnwys rhai i Ffrainc a'r Alban," meddai.

Trip arall sydd ar y gorwel y mae'r côr yn prysur baratoi ar ei gyfer yw i Stadiwm y Principality ym mis Tachwedd.

"Rydan ni'n lwcus i fod yn canu ar y cae cyn gêm rygbi Cymru a Seland Newydd. Rydan ni wrthi'n brysur rwan yn ymarfer ac mae 'na lot o edrych ymlaen at gael canu cyn y gêm a chael gweld yr Haka mor agos hefyd," meddai Carwyn.

Côr Meibion Bro AledFfynhonnell y llun, Cô Meibion Bro Aled
Disgrifiad o’r llun,

Côr Meibion Bro Aled yn 1976 pan y sefydlwyd y côr yn wreiddiol

Ers ei sefydlu mae'r côr wedi rhyddhau pedwar albwm ac maen nhw'n mwynhau canu caneuon traddodiadol a rhai cyfoes hefyd.

Angharad Ellis a Dafydd Watson sy'n arwain y côr gydag Ann Edwards yn cyfeilio ac mae gwerthfawrogiad mawr i waith cyfeiliant Ann Evans hefyd.

"Mae aelodau'n teithio o bell i ddod i ymarfer hefo ni pob nos Iau. Mae gynnon ni athrawon, ffermwyr, ymgymerwyr angladdau yn aelodau a phobl yn dod o lefydd fel Henllan, Betws-yn-Rhos, Llanrwst, Llangernyw, Gwytherin, Llanefydd, Dinbych, Abergele a Llanelwy i gymryd rhan.

"Rydan ni'n lwcus iawn ac mae'r côr yn rhywbeth pwysig iawn i'r ardal," meddai Carwyn.

Mae pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer y cyngerdd fydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y band Tew Tew Tenau, Arwel Gildas a Bryn Owen, Plant Ysgol Bro Aled, Gareth Foxhall ac Owain John.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am y gefnogaeth. Mae niferoedd y côr yn iach iawn ar hyn o bryd ac mae'n braf gweld wynebau newydd yn ymuno bron pob wythnos.

"Rydym wastad yn chwilio am aelodau newydd felly mae croeso cynnes i bawb ymuno wrth i ni edrych ymlaen at y 50 mlynedd nesaf," meddai Carwyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig