Newidiadau i gyrsiau TGAU Cymraeg a Saesneg wedi pryderon athrawon

Dywedodd undeb penaethiaid ysgolion ei fod yn "rhyddhad" bod newidiadau'n cael eu hystyried
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol y bydd newidiadau i gyrsiau TGAU Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, yn dilyn rhybuddion bod mwy o asesiadau trwy gydol y flwyddyn ysgol yn arwain at staff a disgyblion yn gorflino.
Y gred ydy y bydd newidiadau sylweddol i'r cyrsiau Saesneg iaith a llenyddiaeth, tra bod newidiadau mwy cyfyngedig hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai Cymraeg.
Cafodd cymwysterau newydd eu cyflwyno o fis Medi 2025, fel rhan o ailwampio'r cwricwlwm.
Wrth agor ymgynghoriad ar y bwriad, dywedodd bwrdd arholi CBAC eu bod wedi "gwrando'n ofalus ar bryderon arweinwyr ysgolion, athrawon a rhanddeiliaid eraill dros y misoedd diwethaf o ran y llwyth gwaith".
Dywedodd undeb penaethiaid ysgolion ei fod yn "rhyddhad" bod newidiadau'n cael eu hystyried oherwydd y llwyth gwaith ychwanegol "sydd ddim yn bosib ei reoli".
CBAC yn ymddiheuro am gamgymeriad mewn papur TGAU Cymraeg
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Cymraeg fel pwnc: Patrwm o TGAU i Safon Uwch yn 'anffodus'
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Mae rhai o'r cyrsiau TGAU newydd yn cynnwys llawer mwy o asesiadau amrywiol, gyda llai o bwyslais ar arholiadau ffurfiol.
Mae'r asesiadau'n amrywio o rai llafar, gwaith maes, gwaith portffolio a rhai ymarferol sy'n aml yn cael eu gosod a'u marcio gan athrawon.
Dim ond misoedd ers dechrau'r cyrsiau newydd, dywedodd CBAC eu bod wedi "dod i'r casgliad bod angen addasiadau sylweddol" i'r cyrsiau Saesneg, ar ôl adborth gan ysgolion.
Mae'r bwrdd arholi yn ymgynghori ar leihau lefel yr asesiad llafaredd, tra eu bod hefyd yn ystyried gollwng y gofyn am gynllunio ac ymchwilio ar gyfer tasgau i'w cwblhau o dan lefel uchel o oruchwyliaeth athrawon.
Byddai unrhyw newidiadau mawr yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr Blwyddyn 10, gan ddechrau ym mis Medi.
Ond ni fydden nhw'n berthnasol i ddisgyblion sydd eisoes wedi dechrau'r cwrs ers blwyddyn, meddai CBAC.
'Pwysau eithafol'
Ni fydd tasgau yn cael eu tynnu o'r cyrsiau, ond dywedodd CBAC eu bod yn ystyried "sawl newid posibl a allai helpu i wella rheolaeth yn y dyfodol".
Byddai'r newidiadau hynny'n cael eu cyflwyno o fis Medi 2027.
Mae'r datblygiadau'n dilyn rhybuddion gan athrawon am bwysau cynllunio a marcio'r gwaith, yn ogystal â'r gofynion ar ddisgyblion.
Anfonodd penaethiaid yng Nghaerdydd lythyr at CBAC a'r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru, yn rhybuddio bod y newidiadau'n rhoi ysgolion "dan bwysau eithafol" ac yn galw am "gamau brys... i ddiogelu lles staff a addysg disgyblion".

Mae gan rai o'r cyrsiau TGAU newydd bwyslais ar asesiadau yn hytrach nag arholiadau traddodiadol
Yn ôl CBAC maent, fel y corff dyfarnu cyfrifol, "wedi bod yn cydweithio'n agos ag ymarferwyr, penaethiaid, Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried ffyrdd o wella hydrinedd y cymwysterau hyn tra'n cadw eu huniondeb addysgol a chefnogi deilliannau cadarnhaol i ddysgwyr".
"Yn dilyn y trafodaethau hyn, nodwyd sawl newid a byddant yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2026.
"Rydym yn parhau i ystyried a oes posibilrwydd i wneud mwy o newidiadau ystyrlon."
'Llai o bwysau'
Ychwanegodd CBAC yn y datganiad eu bod wedi cytuno gyda Chymwysterau Cymru y "byddem yn lansio ymgynghoriadau i gasglu adborth gan ymarferwyr ar ddewis o opsiynau posibl cyn gwneud unrhyw benderfyniadau".
"Bydd yr ymgynghoriadau ar agor tan ganol mis Mehefin ac wedi hynny byddwn yn adolygu pob ymateb yn ofalus ac yn cadarnhau'r canlyniadau cyn diwedd tymor yr haf.
"Mae cydweithio â'r gymuned addysg yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo iddo. Bydd unrhyw newidiadau yn rhai sy'n cefnogi athrawon a dysgwyr fel ei gilydd, er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno'r cymwysterau hyn yn effeithiol ac yn hyderus."
Dywedodd undeb UCAC eu bod yn "croesawu'r ffaith fod CBAC wedi gwrando ar bryderon athrawon a disgyblion ac yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid fynegi barn ar rai agweddau o'r cyrsiau TGAU Cymraeg a Saesneg".
"Hyderwn y bydd unrhyw newidiadau a ddaw yn sgil yr ymgynghori yn golygu y bydd llai o bwysau ar ddysgwyr ac athrawon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.