Dau fachgen yn 'haeddu gwobr' am helpu dyn sâl adeg Tafwyl

Mae Josh a Taylor yn haeddu gwobr, meddai Nick Peacey
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 74 oed a wnaeth lewygu yn y stryd ar ôl teimlo'n sâl, wedi canmol dau fachgen wedi iddyn nhw fynd ag ef i ysbyty.
Roedd Nick Peacey yn aros am y bws ar ôl bod yn Tafwyl nos Sul, gŵyl boblogaidd yng Nghaerdydd, pan lewygodd y tu allan i'r castell.
Pasio heibio oedd Josh a Taylor, y ddau'n 15 oed, cyn mynd i helpu Mr Peacey.
Rhoddon nhw ddŵr iddo a galw am ambiwlans, ond cafon nhw wybod y gallai gymryd cryn amser cyn i barafeddygon eu cyrraedd.
Bu eraill yn helpu yn yr arhosfan bws hefyd tan i'r cerbyd orfod gadael, felly arhosodd y ddau gydag ef am awr a hanner cyn i Taylor benderfynu ffonio ei fam i fynd â Mr Peacey i'r ysbyty.

Aeth tua 20,000 o bobl i Tafwyl yng Nghastell Caerdydd
"Fi moyn i'r ddau fachgen yma gael rhyw fath o wobr neu anrhydedd," meddai Mr Peacey, sydd o Rondda Cynon Taf.
Mae ef wedi bod yn derbyn profion ers cael ei ryddhau o Ysbyty Prifysgol Cymru ddydd Llun.
"Roedden nhw'n wych - ac mae 'na lawer o sôn negyddol yn y wasg am fechgyn ifanc," meddai fore Sadwrn, wrth i'r tri gyfarfod eto yng Nghaerdydd.
Esboniodd Josh ar Radio Wales ei fod wedi gweld Mr Peacey yn disgyn ac felly wedi rhedeg ato a defnyddio ei siaced i gynnal ei ben.
Ychwanegodd iddo ei roi yn y safle adfer tra bod Taylor yn mynd i chwilio am gymorth ond, er na allai ddod o hyd i feddyg, ceisiodd swyddog diogelwch yr ŵyl helpu hefyd a ffonio 999 ar eu cyfer.
"Bydde' fe wedi bod yn anghywir os byddwn i wedi'i adael e' yna," meddai Josh.
"Mae'n teimlo'n anghywir gweld rhywun wedi'i anafu neu angen cefnogaeth ac yna peidio ei dderbyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.