Cinio rhost yn y bore i ddisgyblion sy'n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

Mae menyw mewn gwisg cwmni arlwyo yn sefyll y tu ôl i fwyd wedi'u coginio mewn ffreutur
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Whitmore wedi symud amser cinio i'r bore er mwyn helpu disgyblion sy'n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg yn cynnig "cinio rhost llawn" i ddisgyblion yn y bore oherwydd bod cymaint ohonyn nhw'n cyrraedd yn llwglyd.

Dywedodd arweinwyr yn Ysgol Uwchradd Whitmore eu bod wedi symud amser cinio ymlaen er mwyn helpu plant sydd ddim yn cael digon i'w fwyta gartref.

Yn ôl y pennaeth gweithredol, mae rhai disgyblion bellach yn "bwyta cinio rhost llawn am 11:00 y bore", ac mae hynny wedi helpu eu gallu i ganolbwyntio yn y dosbarth.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £15 miliwn yn ychwanegol i ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd, drwy ddiddymu'r trothwy incwm presennol ar deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol.

Brechdanau, byrgyrs, pasta a phitsa yn ffreutur yr ysgol.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion uwchradd

Ar hyn o bryd, mae pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael pryd ysgol am ddim, ond dim ond rhai disgyblion uwchradd sy'n gymwys os yw eu teulu'n derbyn Credyd Cynhwysol ac os yw incwm y cartref yn is na £7,400 y flwyddyn.

O dan y cynllun newydd, bydd y trothwy incwm yn cael ei ddiddymu, gan olygu y bydd pob disgybl uwchradd sy'n byw mewn cartref sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn gymwys am bryd ysgol am ddim.

Dywedodd y Gweinidog Addysg y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno'n raddol o fis Medi, gan ddechrau gyda disgyblion blynyddoedd saith ac wyth.

Ond galwodd un undeb athrawon y cyflwyniad "graddol" yn "siomedig", gan y byddai'n golygu y byddai "llawer o ddisgyblion uwchradd presennol o gartrefi difreintiedig yn parhau i golli allan".

Mae Innes Robinson yn gwisgo crys gwyn a thei streipiog glas tywyll a melyn, ac yn sefyll yn ffreutur yr ysgol.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Innes Robinson fod rhai disgyblion "mor llwglyd erbyn 10:55yb fel bod angen iddyn nhw gael eu cinio bryd hynny"

Yn Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri, dywedodd y pennaeth gweithredol, Innes Robinson, fod yr ysgol wedi gweld gwahaniaeth mawr ers newid amser cinio i'r disgyblion ieuengaf.

"Roedden ni'n sylwi eu bod mor llwglyd erbyn 10:55 fel bod angen iddyn nhw gael eu cinio bryd hynny," meddai.

Ychwanegodd Innes, sydd hefyd yn bennaeth gweithredol Ysgol Uwchradd Pencoedtre yn y Barri, fod disgyblion llwglyd yn "broblem ym mhob man" mewn ysgolion.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi'n teimlo'n llwglyd, dydych chi ddim yn mynd i allu dysgu cystal."

Dywedodd bod plant wedi dweud wrtho eu bod yn "teimlo'n llwglyd bob dydd" ond yn aml ddim yn sôn am y peth.

Ychwanegodd y byddai cynnig estynedig Llywodraeth Cymru yn golygu y byddai "mwy o ddisgyblion yn cael y budd hwnnw".

Mae Hayley Prosser yn eistedd yn ffreutur yr ysgol. Mae hi'n gwisgo ffrog dywyll gyda chalonnau gwyrdd.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hayley Prosser, mae disgyblion yn gwneud mwy o gynnydd yn y dosbarth pan fydd ganddyn nhw "foliau llawn"

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu dechrau cyflwyno'r polisi o fis Medi ymlaen.

Mae'r arian ychwanegol yn rhan o'u cyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2026-27.

Bydd llawer ohono, tua £10 miliwn, yn cael ei ddefnyddio i wella ceginau a mannau bwyta mewn ysgolion.

Dywedodd Hayley Prosser, pennaeth Cymraeg Ysgol Uwchradd Whitmore, fod y gwahaniaeth yn y disgyblion sydd wedi bwyta yn amlwg.

"Mae rhai o'n plant yn dod i'r ysgol heb gael brecwast - mae'n cael effaith enfawr ar eu gallu i ganolbwyntio.

"Rydyn ni'n gwybod eu bod yn gwneud mwy o gynnydd pan fydd ganddyn nhw foliau llawn," meddai.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, fod y polisi'n gysylltiedig ag ystod ehangach o fesurau "i fynd i'r afael â thlodi plant".

Ond nid yw'r llywodraeth wedi dweud faint mwy o ddisgyblion fyddai'n cael eu helpu gan y cynllun, faint o ysgolion fyddai'n elwa o geginau gwell, na phryd y byddai'r polisi'n cael ei weithredu'n llawn.

"Bydd angen i ni weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall beth yw'r gofynion - rydym yn edrych i ganolbwyntio'n gyntaf ar flynyddoedd saith ac wyth mewn ysgolion uwchradd," ychwanegodd.

Ysgol Uwchradd Whitmore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri wedi newid ei threfniadau bwyta mewn ymateb i anghenion ei disgyblion

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, y byddai'n hoffi gweld pob disgybl mewn addysg uwchradd yn derbyn prydau bwyd am ddim, ond croesawodd y newid a'i alw'n "gam pwysig".

"Mae'r trothwy [incwm] wedi bod yn rhy isel ers gormod o amser, gan eithrio plant rhag cael pryd o fwyd hollbwysig amser cinio," ychwanegodd.

Dywedodd Claire Armitstead, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru, ei bod yn "falch bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu ynghylch anghydraddoldeb clir".

Ond dywedodd bod llawer o ddisgyblion o deuluoedd difreintiedig yn debygol o barhau i golli allan nes bod y cynllun wedi'i weithredu'n llawn ar gyfer pob oedran.

"Rydym yn cydnabod yr heriau ariannol y mae gweinidogion yn ymgodymu â nhw ond rydym yn eu hannog i fod yn fwy beiddgar wrth helpu plant a theuluoedd sy'n wynebu pwysau dwys o ran costau byw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.