Digwyddiad difrifol tân gwyllt yng Nglynebwy yn 'heriol' oherwydd y gwynt

Mae'r gwn yn ei gwneud hi'n anodd mynd i'r afael â'r tân gwyllt yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datgan digwyddiad difrifol yn dilyn tân gwyllt mewn rhostiroedd ger Cronfa Ddŵr Llangynidr yng Nglynebwy.
Mae swyddogion wedi bod yn brwydro'r fflamau drwy'r penwythnos a bore Sul fe ddywedon nhw fod yr ymgyrch yn parhau a bod mwg yn dal i effeithio ar gymunedau cyfagos.
Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd hefyd yno, ei bod hi'n "heriol [mynd i'r afael â'r tân] oherwydd y gwynt".
Mae sawl tîm wedi bod yno drwy gydol y penwythnos meddai'r gwasanaethau ac maen nhw'n treialu sawl dull o ddelio â'r fflamau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod contractwyr arbenigol ac asiantaethau partner hefyd yn rhan o'r gwaith, a bod offer arbenigol yn cael ei defnyddio.
Mae Ffordd Llangynidr wedi cael ei chau ac mae'r heddlu'n cynghori pobl i osgoi'r ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.