Difrod tanau gwyllt yr haf i gael effaith ar gynefinoedd bregus am flynyddoedd

Dr Kara Marsden a'r Athro Davey Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dr Kara Marsden a'r Athro Davey Jones yn asesu'r difrod yn dilyn tanau gwyllt ym Mwlch Sychnant ym mis Gorffennaf

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r difrod sydd wedi ei achosi gan danau gwyllt yn ystod yr haf yn debygol o siapio adferiad rhai o gynefinoedd mwyaf bregus y DU dros y blynyddoedd i ddod, yn ôl gwyddonwyr.

Yn ystod yr haf fe welwyd rhai o'r tanau gwyllt mwyaf difrifol ers blynyddoedd, wrth i wres eithafol, sychder hirfaith a chyflyrau tir cras adael rhostiroedd, tir uchel a glaswelltiroedd yn hynod fregus i danau ledaenu'n gyflym.

Ym Mwlch Sychnant yn Sir Conwy fe welwyd un o'r tanau mwyaf diweddar, yn gorchuddio tua 200 erw o rostir arfordirol gwarchodedig, gan arwain at 36 o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi am gyfnod.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor sy'n cynnal ymchwiliad brys i effaith y tanau'n rhybuddio bod yr effaith ar iechyd y pridd a bioamrywiaeth yn mynd llawer ymhellach na'r hyn sydd i'w weld ar yr wyneb.

Disgrifiad,

Gallai gymryd miloedd o flynyddoedd i adfer y priddoedd i'r un lefel, meddai Dr Kara Marsden

Esboniodd Dr Kara Marsden, darlithydd mewn gwyddor pridd sy'n rhan o'r cynllun, eu bod nhw'n cymharu safon y pridd mewn rhannau a gafodd eu llosgi gyda phridd gerllaw na welodd y fflamau.

"'Da ni'n samplo'r ffiseg, y cemeg a'r bioleg i weld sut mae o wedi newid ar ôl y tân, a hefyd y planhigion a pa fath o blanhigion sy'n tyfu'n ôl yn gyflym.

"'Da ni isio ffendio allan faint o garbon sydd wedi ei golli i'r awyr, achos mae'r pridd yn yr ucheldiroedd yn bwysig iawn o ran storio carbon."

'Trychinebus'

Mae'r Athro Davey Jones, sy'n arwain cynllun Prifysgol Bangor, yn dweud bod maint y difrod yn llawer gwaeth na'r hyn sy'n weladwy i'r llygad.

"Mae'n debyg ein bod ni wedi colli tua 10 centimetr o bridd yma... 4,000 o flynyddoedd o garbon wedi mynd mewn un digwyddiad," meddai.

"Mae'n drychinebus. Unwaith mae'r pridd uchaf [topsoil] wedi mynd, does dim modd ei adfer."

Yr Athro Davey Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Davey Jones sy'n arwain cynllun Prifysgol Bangor

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r tîm wedi bod yn casglu samplau pridd mewn sawl safle ar draws Cymru, cyn i law trwm y gaeaf olchi'r hyn sy'n weddill i ffwrdd.

Yna maen nhw'n cymharu tir llosg â thir cyfagos sydd heb ei ddifrodi, gan fesur newidiadau mewn carbon pridd, maetholion, gweithgarwch microbaidd, dŵr yn gwrthod treiddio a'r perygl o erydiad.

Er mwyn darganfod safleoedd newydd yn gyflym wedi i danau ddigwydd, fe wnaeth y tîm hyd yn oed ddefnyddio data lloeren gan NASA.

Ychwanegodd Dr Marsden bod ymateb yn gyflym yn dilyn unrhyw dân agored yn hollbwysig.

"Roedd yn hanfodol cyrraedd y safle yn syth ar ôl i'r tân ddiffodd," meddai.

"Mae priodweddau'r pridd a'r llystyfiant yn gallu newid yn gyflym iawn, felly mae cael y data sylfaenol hwn yn hanfodol ar gyfer cymariaethau yn y dyfodol."

Mae'r tanau wedi achosi difrod sylweddol i'r pridd, gan gynnwys ym Mwlch Sychnant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tanau wedi achosi difrod sylweddol i'r pridd, gan gynnwys ym Mwlch Sychnant

Ond mae hi hefyd yn rhybuddio nad yw'r egin gwyrdd sydd wedi dechrau blaguro ar y safle o reidrwydd yn adlewyrchu adferiad gwirioneddol.

"Mae rhedyn yn tyfu'n syth oherwydd mae ei risomau'n eistedd yn ddwfn yn y pridd," meddai.

"Ond mae'r grug a'r eithin sy'n diffinio'r cynefin yma yn gwreiddio'n lawer llai dyfn.

"Maen nhw wedi mynd yn llwyr, ac mae'r pridd maen nhw'n dibynnu arno'n gallu cymryd miloedd o flynyddoedd i ffurfio."

Yr Athro Dave ChadwickFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Dave Chadwick o Brifysgol Bangor yn samplo'r pridd yn dilyn tanau gwyllt ar Fynydd Llangynidr ym Mannau Brycheiniog

Dywedodd yr Athro Jones bod effaith tanau o'r fath yn ymestyn ymhell y tu hwnt i golled bioamrywiaeth.

"Mae tanau'n rhyddhau carbon, nitrogen a sylffwr yn ôl i'r atmosffer, gan gyfrannu at newid hinsawdd," meddai.

"A bob tro mae 'na danau gwyllt fel hyn, 'da ni'n gwneud y broblem yn waeth."

Bydd ymchwilwyr yn dychwelyd i'r safleoedd yma dros y ddwy flynedd nesaf i fonitro unrhyw adferiad ac i asesu pa gynefinoedd sy'n fwy gwydn.

Ond mae'r dystiolaeth cynnar yn awgrymu y gall llystyfiant ddychwelyd, ond yn arafach ac yn fwy bregus, gan adael tirweddau'n fwy agored i danau yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.