200 mlwyddiant teras trawiadol Caernarfon

Teras Segontiwm a Cei Llechi Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mewn lluniau o'r awyr o Gastell Caernarfon a'r harbwr gerllaw, mae rhes o dai lliwgar yn aml yn denu'r llygad.
Mae Teras Segontiwm o fewn tafliad carreg i ganol y dref ac yn edrych dros Afon Seiont. Eleni mae'n 200 mlynedd ers adeiladu'r tai trawiadol ac mae digwyddiadau wedi'u trefnu i ddathlu'r garreg filltir.
Un o'r preswylwyr yw Nia Davies-Williams, a bu'n rhannu mwy am hanes y teras ar raglen Bore Cothi.

Mae Nia Davies-Williams yn byw ar Deras Segontiwm ers 11 mlynedd
"Rhes o tua 30 o dai o'r cyfnod Sioraidd hwyr ydyn nhw, pob lliw yn wynebu'r afon Seiont a'r trên stêm bach islaw.
"Mae 'na ambell i dŷ sy'n wyrdd neu las tywyll ac un arall yn powder blue a rhyw binc sy'n adlewyrchiad o'r cyfnod," meddai.
Mae'r teras yn agos at y cei llechi, ac roedd y tai yn cael eu hystyried yn rhai moethus pan gafon nhw eu hadeiladu.
"Yn y cyfnod mi oedden nhw yn dai uchelael. Capteiniaid llong oedd nifer o'r preswylwyr ac roedden nhw'n edrych dros y cei llechi a fyddai wedi bod yn hynod o brysur yn 1826.
"Dwi'n meddwl yn aml be' fysa'r olygfa o fy mlaen i 200 mlynedd yn ôl.
"Tua 100 mlynedd wedyn, os y base chi wedi agor y llenni yn 1926, mi oedd y trên yn y gwaelod, yn mynd i gyfeiriad Bangor un ffordd ac i gyfeiriad Pwllheli y ffordd arall a'r cei llechi yn dal yn brysur efo'r sgwners yn y dŵr," meddai Nia.

Llun o Deras Segontiwm ar yr ochr dde o'r 19eg ganrif.
Un elfen drawiadol o fyw ar y teras yw'r golygfeydd sydd i'w gweld uwchlaw Afon Seiont.
"Pob adeg o'r flwyddyn pan mae'r afon yn llenwi a phan mae'r llanw i mewn, rydych yn gweld y lleuad yn adlewyrchu ar leuad lawn ar yr afon,
"'Da ni ar ben draw un o'r blociau a dwi yno ers 11 mlynedd.
"Mae ambell un o'r tai efo'r clychau ble oedde chi yn canu cloch i gael sylw. Mae nifer o seleri efo'r range a'r llechen rownd honno, a siŵr fod nifer o'r morwynion yn byw yn yr atic.
"Mae rhyw courtyard y tu ôl i ambell un, cyn y rheilffordd roedd 'na erddi mawr ar y tu blaen efo'r morynion yn gosod y sheets gwely i'w sychu yn yr haul. Fe gollwyd hwnnw pan adeiladwyd y rheilffordd.

Yr olygfa tuag at Castell Caernarfon o Deras Segontiwm
Roedd y stryd dan ei sang hefyd yn 1969 yn ystod Arwisgo Y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon. Roedd ambell i berchennog tŷ yn codi pris mawr i unrhyw un oedd eisiau aros yn eu tai ar gyfer y digwyddiad.
"Pan oedd yr arwisgo, roedd tai yn codi pris mawr am B&B. Rydych yn gweld y castell yn glir a ble fysa fo wedi cerdded allan i godi ei law ar bobl.
Yn ystod y dathliadau bydd cyfle i bobl fynd i Gapel Ebeneser, sydd hefyd yn dathlu 200 mlynedd eleni i weld hen luniau o'r teras. Hefyd bydd darlithoedd arbennig yn cael eu traddodi am hanes y tai.
"Ar y nos Wener mae Capel Ebeneser, sydd y tu ôl i'r stryd yn dathlu'r cyfnod. Mae Merfyn Jones ac Ifor ap Glyn yn rhoi darlith am hanes y teras i ni."
Dywedodd Manon fod croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes diwydiannol a phensaernïaeth Caernarfon i fynychu'r digwyddiadau a rhannu eu hatgofion nhw o Deras Segontiwm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.