Cyfres newydd Athrawon: 'Y realiti o fod yn athro'

Siôn-Rhys EvansFfynhonnell y llun, S4C
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Dwi yn poeni bod cyn lleied o athrawon, yn enwedig athrawon mathemateg a gwyddoniaeth, i gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n broblem, ac mae pawb yn siarad amdano fe, ond mae 'neud rhywbeth amdano fe yn anodd."

Gyda bron i chwarter yr athrawon newydd yn gadael y proffesiwn o fewn blwyddyn, un sy' wedi penderfynu trio gwneud rhywbeth am y sefyllfa yw Siôn-Rhys Evans sy'n gweithio fel athro cemeg yn Ysgol Llanhari ym Mhontyclun.

Mae Siôn newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf fel athro ac yn un o wyth o athrawon ifanc sy'n ymddangos mewn cyfres newydd Athrawon ar S4C sy'n eu dilyn nhw wrth iddyn nhw wynebu eu blwyddyn gyntaf fel athrawon newydd gymhwyso.

Dywedodd Siôn, sy'n dod o Gwmtydu yn wreiddiol, wrth Cymru Fyw: "Mae'n rhaid denu pobl i'r proffesiwn a welais i'r cyfle euraidd yma i neud hynny drwy'r gyfres.

"Achos mae pobl yn negyddol am fod yn athrawon – ond y gwir yw mae gymaint o gyfleoedd yn dod o fod yn athro ac mae'n bwysig bod pobl yn gweld hynny a gweld bod e'n opsiwn rili da fel swydd a fel proffesiwn. Dwi'n enjoio bob eiliad."

Roedd profiad Siôn o'i flwyddyn gyntaf yn dysgu dipyn yn wahanol i'r mwyafrif o athrawon newydd, gyda chamerâu yn ei ddilyn wrth ei waith, fel mae'n sôn: "Ar y diwrnod cyntaf, achos o'n i'n diwtor i flwyddyn 7 roedd camerâu yn y dosbarth ond oedd y plant ddim yn ymwybodol fod unrhyw beth yn wahanol achos diwrnod cyntaf nhw oedd hi yn y dosbarth hefyd.

"Ac achos diwrnod cyntaf fi oedd e, o'n i'n panicio felly wedi anghofio bod y camerâu yna am ran o'r diwrnod. Ac o'n i ddim moyn bod fi yn newid o flaen y camerâu.

"Hwnna oedd y sialens fwyaf achos mae fe'n anodd i beidio newid achos ti'n siarad â'r camerâu - ond oedd angen bod yn naturiol.

"Ac i gael y plant i fod yn naturiol hefyd. Mae rhai ohonyn nhw'n mynd i chwarae lan bach o flaen y camerâu. Ond o'n i moyn i bawb weld beth maen nhw fel a beth yw realiti bod yn athro."

Mae Siôn yn teimlo fod rhagdybiau gan bobl am y swydd: "O'n i'n dweud wrth bobl mod i'n mynd mewn i fyd addysg ac oedd pobl yn dweud, 'mae fe'n lot o waith'.

"Mae pobl yn dueddol o fod yn negyddol ond dwi ddim yn credu bod unrhyw swydd arall sy'n debyg iddo. Mae fe'n cymryd dros dy fywyd ond mewn ffordd dda.

"Mae gymaint o amrywiaeth i'r swydd, ddim jyst dysgu cemeg ydw i, ond dwi'n hyffordwr pêl-droed ac mae cyfle i helpu gyda'r eisteddfod.

"A gweld y plant yn gwella yn beth bynnag maen nhw'n ei wneud hefyd yn ddyddiol."

Siôn-Rhys EvansFfynhonnell y llun, S4C

Heriau

Yn ei flwyddyn gyntaf, y brif her i Siôn oedd y pwysau gwaith: "Mae'r pwysau yn bendant yn her yn y flwyddyn gyntaf.

"Mae jest gymaint i wneud - gymaint o waith papur ac hefyd creu'r perthnasau yna yw'r pwysau mwyaf ar y dechrau, dod i 'nabod staff yn yr ysgol, dod i 'nabod y plant i gyd a sefydlu dy hunan fel athro sy'n cael y balans yn iawn rhwng bod yn athro maen nhw'n hoffi ac yn athro maen nhw hefyd yn parchu."

Siarad Cymraeg

Mae Siôn yn dweud fod Cymreictod yr ysgol yn dda iawn ar y cyfan ond fod staff yn wynebu yr un heriau ag ysgolion Cymraeg eraill: "Y realiti yw mae'n rhaid i fi ddweud y geiriau 'yn Gymraeg, plîs' bob dydd. Ac mae'r rhan fwyaf yn newid i'r Gymraeg os maen nhw'n gweld athro o gwmpas y lle.

"Ond weithiau dyw hynny ddim yn digwydd ac mae hwnna'n syndod i fi. Achos mae'r hyder 'ma 'da disgyblion, maen nhw jyst yn parhau i siarad yn Saesneg nes bod rhywun yn gofyn yn benodol iddyn nhw newid.

"Mae hwnna yn broblem ac mae fe'n anodd i gael y balans yn iawn fan'na eto rhwng cosbi nhw am ddim siarad yr iaith a treial hybu nhw i fod yn browd o'u Cymreictod nhw.

"Chi moyn bod nhw'n siarad Cymraeg achos maen nhw moyn siarad Cymraeg, ddim achos bod chi'n dweud wrthi nhw i siarad Cymraeg."

Yr athrawon newydd gymhwyso sy'n cymryd rhan yn y gyfres newyddFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yr athrawon newydd gymhwyso sy'n cymryd rhan yn y gyfres newydd

Effaith Covid

Wrth i'r gyfres ddilyn hynt a helynt athrawon newydd yn trio rheoli dosbarthiadau anodd, mae Siôn yn credu fod effaith y pandemig dal i'w weld: "Mae lot o bobl yn gweud bod y plant wedi newid lot ers Covid.

"Dwi'n credu bod plant yn fwy hyderus ers Covid. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi newid hwnna - ond mae plant dal yn blant.

"A falle bod Covid wedi cael dylanwad ar sgiliau sylfaenol nhw hefyd boed hynny'n sgiliau mathemateg neu darllen. Mae sgiliau darllen wedi cael hit."

Er gwaethaf hynny, mae Siôn yn teimlo ei fod wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth yn ei flwyddyn gyntaf: "Dwi moyn bod plant yn gadael yr ysgol wedi cael yr holl gyfleoedd sy'n bosib iddyn nhw gael.

"Mae'n bwysig bod nhw yn gwthio'u hunain a serennu yn beth bynnag sy'n siwtio nhw orau.

"Dwi'n teimlo fel bod fi wedi llwyddo gyda rhai disgyblion. Oedd e'n hyfryd i weld yr arholiadau a rhai disgyblion wedi gwneud yn well nag oedden nhw'n meddwl bydden nhw, jyst gweld y wên ar eu gwynebau nhw a chlywed nhw'n dweud diolch.

"A hwnna yw'r peth mwyaf, pan mae disgybl yn dweud diolch a maen nhw'n rili meddwl e.

"Mae hwnna yn dangos bod fi'n gwneud rhyw fath o wahaniaeth.

"Mae fe'n meddwl popeth."

Gwyliwch Athrawon ar S4C bob nos Fercher am 9:00 neu ar iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig