Yr ymgyrch yng Nghrymych i roi ail fywyd i hen esgidiau rygbi

Rhai o aelodau Clwb Rygbi Crymych yn cyfnewid esgidiau rygbiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau Clwb Rygbi Crymych yn cyfnewid esgidiau rygbi

  • Cyhoeddwyd

Mae Medi'n gyfnod costus i nifer o deuluoedd sy'n gorfod prynu dillad ysgol i'r plant ar gychwyn flwyddyn academaidd newydd ac ar ddiwedd gwyliau haf drud.

Ond mae un clwb rygbi yn Sir Benfro wedi cychwyn ar ffordd i helpu pobl drwy ymgyrch i roi ail fywyd i hen esgidiau rygbi.

Mae'r clwb yng Nghrymych wedi cael ymateb tu hwnt i'w disgwyl i'r ymgyrch i gyfnewid a chynnig cartref newydd i esgidiau rygbi, fel mae Martin Edwards, cadeirydd Adran Iau Clwb Rygbi Crymych, yn sôn ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Meddai Martin am yr ysbardun tu ôl i'r syniad: "O'n i jyst yn clirio mas yn y clwb rygbi ddydd Llun a wedd lot o sgidie rygbi yna."

Yn hytrach na'u taflu i ffwrdd, penderfynodd gynnig nhw ar Facebook, fel mae'n dweud: "O'n i'n meddwl rhoi post lan i gynnig i'r rhieni ddod mewn â sgidie rygbi neu pêl-droed i'r clwb a gawn ni roi nhw mas i'r chwaraewyr ifanc sy'n chwarae gyda ni.

"Mae rhai teuluoedd yn llai ffodus na rhai eraill, yn ffaelu fforddio prynu'r bwts achos maen nhw mor drud dyddiau 'ma. So bydd e'n rhywbeth i falle gael mwy o chwaraewyr yn y clwb."

Mynedfa i gaeau Clwb Rygbi CrymychFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Ymateb da

Doedd Martin ddim yn disgwyl cael ymateb mor dda, meddai: "Ni wedi cael tipyn o fwts neithiwr yn yr ymarfer ac yn gobeithio cael mwy yn yr wythnosau nesaf."

Mae nifer ohonynt mewn cyflwr da, meddai, oherwydd mae chwaraewyr yn symud ymlaen yn gyflym i esgidiau rygbi newydd, fel mae wedi profi yn ei gartref ei hun: "Mae mab fi moyn cael bwts i chwarae pêl-droed, chwarae rygbi. A doedd e ddim yn hapus efo'i bwts e a sym e'n cicio'n dda 'da un o'r bwts, felly mae e moyn pâr o bwts newydd. Mae'n beio'r bwts a wedyn mae'r bwts sbar yn cael fling i'r garej.

"A fan'na maen nhw am flynyddoedd i ddod."

Aelod o Glwb Rygbi Crymych gyda esgidiau rygbiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Fel athro yn Ysgol Bro Preseli, mae Martin yn gweld fod ymgyrchoedd fel hyn yn achubiaeth i nifer o deuluoedd: "Mae lot o blant yn yr ysgol, maen nhw'n naill ai ddim isie chwarae rygbi achos maen nhw'n gwybod mae mam a dad yn ffaelu fforddio prynu bwts iddyn nhw, ac maen nhw'n penderfynu so nhw moyn chwarae.

"Neu maen nhw'n dod â'r bwts a maen nhw'n cwympo ar led ond gyda ymgyrch fel hyn, gallen nhw gael pâr newydd."

Mae'r ymgyrch yn agored i'r gymuned gyfan ac nid i aelodau o'r clwb rygbi yn unig.

Meddai Martin: "Mae lot o gyfleoedd 'da pobl i ddod mewn â'r bwts yma. Achos dwi'n siŵr mae lot o bwts yn mynd i fod yn y garej neu yn y sied tu fas, sy' ddim yn neud dim byd. Maen nhw jest yn pwdri yn y sied."

Ac mae Clwb Rygbi Crymych hefyd yn gwneud cais am esgidiau rygbi gan unrhyw chwaraewyr enwog hefyd er mwyn helpu gyda'r ymgyrch.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig