Amgueddfa newydd yn Wrecsam 'yn llenwi bwlch mawr' yn y gogledd

Amgueddfa
GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae amgueddfa newydd yn Wrecsam sy'n adrodd hanes pêl-droed yng Nghymru ac yn croniclo hanes y ddinas yn "llenwi bwlch mawr", yn ôl y trefnwyr.

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam yn agor i'r cyhoedd ar 25 Medi, ac yn rhoi llwyfan i rai o arteffactau pwysica'r byd pêl-droed gyda'r hynaf yn deillio o 1899.

Bydd hanner yr amgueddfa yn dathlu hanes pêl-droed yng Nghymru, o bêl-droed llawr gwlad i'r tîm cenedlaethol, tra bod yr hanner arall yn canolbwyntio ar hanes Wrecsam a'r cymunedau sydd wedi siapio'r ddinas.

Mae'r wasg a chynrychiolwyr lleol eisoes wedi cael rhagflas o'r amgueddfa, gyda'r casgliad yn cynnwys miloedd o eitemau sy'n adrodd hanes pêl-droed yng Nghymru.

Cap 1899
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cap, gafodd ei gyflwyno i William Harrison yn 1899, yn rhan o'r casgliad

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o arteffactau sy'n adrodd stori perthynas Cymru â phêl-droed o'r gêm gartref gyntaf yn 1877 hyd heddiw.

Un o'r eitemau mwyaf gwerthfawr yn y casgliad yw cap a roddwyd i'r chwaraewr pêl-droed William Harrison ym 1899.

Treuliodd y cap flynyddoedd yn Awstralia, ond yn 2021 fe gafodd ei roi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhodd gan deulu Harrisson.

Telegram
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r telegram yma gan Juventus yn nodi bod John Charles wedi cael ei ryddhau i chwarae i Gymru ym 1958

Eitem werthfawr arall yw telegram gwreiddiol o 1958.

Dyna oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ac ar y pryd roedd un o sêr y gêm, John Charles yn chwarae i Juventus yn yr Eidal.

Roedd angen perswadio rheolwyr Juventus i ryddhau Charles i chwarae dros ei wlad, gan gofio nad oedd yr Eidal wedi cyrraedd y gystadleuaeth.

Wedi trafodaethau, cafodd Charles ei ryddhau ychydig o ddyddiau'n unig cyn y gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 1958, ac mae'r telegram bellach yn rhan o'r casgliad sy'n adrodd hanes y cyfnod hwnnw.

Amgueddfa
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr amgueddfa yng nghanol y ddinas yn agor yn swyddogol ar 25 Medi

Bydd yr amgueddfa yn agor yn swyddogol am 10:00 ar 25 Medi, gyda mynediad am ddim a thocynnau ar gael i'w harchebu o 12:00 14 Medi.

Cyn yr agoriad swyddogol, cafwyd cyfle i'r wasg a chynrychiolwyr lleol weld yr amgueddfa a'r arddangosfeydd newydd.

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, mae'r amgueddfa yn ddathliad o bêl-droed ac o Wrecsam.

"Dwi'n meddwl bod ni angen dangos y gorau ohonom ni fel Cymru ac o Wrecsam," meddai.

Alwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alwyn Jones fod "'na fwlch wedi bod" o ran amgueddfeydd yn y gogledd

"'Dan ni am ddangos y gorau o be sydd o ran pêl-droed, sut mae pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd a hynny ar draws [gêm y] merched, dynion a chymunedau," ychwanegodd.

"Yn yr un modd 'dan ni eisiau dangos yr hanes sydd y mae gennym ni lot o barch tuag ato yn Wrecsam."

Yn ôl Mr Jones, mae gan yr amgueddfa newydd rôl bwysig.

"Yn y gogledd, mae 'na fwlch wedi bod, dwi'n gwybod fod 'na sawl amgueddfa yn y de, ond i ni yn y gogledd dwi'n meddwl fod hwn yn llenwi'r bwlch yn dda ac mae'r hanes sydd gennym ni yma yn Wrecsam, mae'n adrodd hanes sawl cymuned ar draws y gogledd hefyd."

Heledd Fychan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan fod "rhywbeth yma i bawb"

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £6m tuag at y prosiect, ac yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, mae'r atyniad newydd yn siŵr o ddenu pobl o bell ac agos.

"Mae'n dangos stori Wrecsam o fewn cyd-destun Cymru fel cenedl - mae 'na rywbeth yma i bawb, mae 'na oriau i dreulio yma yn mwynhau'r casgliadau.

"Ond hefyd lle i ddod nôl yma a darganfod mwy oherwydd mae'r gofodau dros dro hefyd yn bwysig."

Pêl ledr Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Pêl ledr o gasgliad Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Mae nifer o'r eitemau yn rhoddion gan aelodau'r cyhoedd, gan gynnwys un bêl arbennig, meddai Siôn Lewis, Swyddog Ymgysylltu yr Amgueddfa.

"Mi gafodd o ei wneud yn Llangollen ac mae'n bêl swyddogol ar gyfer gêm 'dan ni'n amau oedd yn y 1920au.

"Felly un o'r gemau mawr cyntaf i Gymru wedi i'r Rhyfel Mawr orffen ac wrth i bêl-droed rhyngwladol ail-gychwyn.

"Ond 'dan ni newydd fod yn siarad ac wedi darganfod mwy am yr hanes, ac mae'n edrych fel ei bod hi'n hŷn na be oedda' ni'n meddwl yn y lle cyntaf."

Sion Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sion Lewis ei fod yn teimlo'n emosiynol wrth weld y prosiect yn cael ei wireddu

Mae Sion Lewis wedi bod ynghlwm â'r gwaith o guradu ers blynyddoedd ac yn dweud ei fod yn teimlo'n emosiynol wrth weld y cynllun yn cael ei wireddu.

"'Di hanes ddim yn stopio ar ôl 90 munud a 'dan ni ddim eisiau rhoi'r hanes mewn cas a chau'r drws.

"Mae mwy o waith i wneud a gobeithio mwy o hanes i'w ddarganfod yn y dyfodol".

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam yn agor i'r cyhoedd ar 25 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.