Posibilrwydd y gallai enwau etholaethau'r Senedd newid eto

Dywedodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru fod yr enwau gafodd eu defnyddio yn etholiad mis Mai yn cael eu hystyried yn rhai "dros dro"
- Cyhoeddwyd
Fe fydd enwau etholaethau newydd y Senedd - gafodd eu defnyddio am y tro cyntaf yn yr etholiad ym mis Mai - yn cael eu hadolygu ac, o bosib, eu newid.
Cafodd nifer yr etholaethau sy'n cael eu cynrychioli ei ostwng i 16 y llynedd, gydag enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio ar gyfer pob sedd.
Ond fe allai'r adolygiad olygu y bydd rhai o'r enwau Cymraeg yn unig, gafodd eu beirniadu gan rai, yn cael eu haddasu - gyda disgwyl i unrhyw newidiadau ddod i rym erbyn etholiad 2030.
Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams, y byddai'r adolygiad yn sicrhau bod yr etholaethau'n adlewyrchu'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, gan gynnwys eu treftadaeth ddiwylliannol a'r defnydd o'r Gymraeg.

Cafodd yr 16 etholaeth newydd eu creu drwy gyfuno etholaethau seneddol y DU, sy'n cael eu defnyddio i ethol ASau, gyda hen etholaethau'r Senedd.
Mae chwe aelod yn cynrychioli pob un o'r 16 etholaeth, gyda nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn cynyddu o 60 i 96.
Enwau Cymraeg 'ddim yn boblogaidd gyda phawb'
Dywedodd Shereen Williams wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y gallai'r enwau Cymraeg yn unig gael eu newid yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan nad oeddent wedi bod yn boblogaidd gyda phawb.
Mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu bod un enw yn cael ei ddefnyddio lle bo hynny'n bosibl, meddai, ond gallai enwau dwyieithog gael eu hystyried "os nad oes modd dod o hyd i enw sy'n adlewyrchu hunaniaeth yr ardal".
Ychwanegodd Ms Williams fod y "ffiniau a ddefnyddiwyd yn etholiad diweddar y Senedd yn cael eu gweld fel rhai dros dro".
"Dydyn ni ddim yn dechrau gyda llechen lân," meddai, "roedd rhai pobl yn meddwl y bydden ni'n dileu'r holl ffiniau a'u hailadeiladu.
"Na, fe fyddwn ni'n dechrau gyda'r ffiniau gafodd eu defnyddio yn etholiadau diweddar y Senedd ac yn adeiladu ar hynny."
Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Etholiad y Senedd 2026: Be' sy'n newid?
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
Enwau Cymraeg yn unig i fwyafrif etholaethau'r Senedd
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
Dywedodd Ms Williams fod yr adolygiad yn anelu at sicrhau bod nifer y bobl ym mhob etholaeth yn debyg, gan ddefnyddio ffigyrau o'r cyfrifiad diweddaraf.
Mae disgwyl i bob etholaeth gynnwys tua 150,000 o bobl, neu rhwng 135,000 a 165,000.
Mae swyddogion hefyd am sicrhau bod cymunedau sydd â nodweddion diwylliannol tebyg yn cael eu cadw gyda'i gilydd.
Mae disgwyl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion gael ei gynnal yn 2027, gyda'r nod o'i gwblhau cyn etholiad y Senedd yn 2030.
Mae adolygiad pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2038, a gallai hynny arwain at newidiadau pellach i'r etholaethau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.