Burnham 'ddim yn bwriadu diwygio' fformiwla ariannu Cymru

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, EPA/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn hyn, Andy Burnham yw'r unig ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur

  • Cyhoeddwyd

Nid oes gan Andy Burnham unrhyw fwriad i ddiwygio'r prif ddull o ariannu Llywodraeth Cymru os daw'n brif weinidog, mae'r BBC wedi cael gwybod.

Mae disgwyl iddo draddodi araith am ddatganoli a'r economi yr wythnos nesaf, gyda llefarydd yn dweud y byddai'n rhoi Cymru "wrth wraidd" unrhyw lywodraeth y mae'n ei rhedeg.

Dywedodd Burnham mewn llyfr ddwy flynedd yn ôl ei bod hi'n amser "rhwygo" y trefniadau ariannu presennol.

Arweiniodd hyn at Blaid Cymru - sydd wedi dadlau ers tro dros ailwampio - yn addo "ei ddal" i'w eiriau, ond mae'n ymddangos bod diwygio bellach wedi'i ddiystyru.

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid mynd i'r afael â thangyllido hirhoedlog Cymru," meddai Liz Saville Roberts

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, Liz Saville Roberts: "Yn ei lyfr, galwodd Andy Burnham am 'drefniant newydd sy'n deg i bawb'.

"Byddwn yn ei ddal at hynny.

"Rhaid i unrhyw ddiwygio y mae'n ei wneud i sicrhau cyllid tecach i ranbarthau gogledd Lloegr hefyd fynd i'r afael â thangyllido hirhoedlog Cymru."

Ond mae'n ymddangos bod gobeithion Plaid Cymru wedi'u chwalu hyd yn oed cyn i Burnham gyrraedd Downing Street.

Dywedwyd wrth BBC Cymru na fyddai'r cynlluniau'n cynnwys newidiadau i fformiwla Barnett ar gyfer Cymru a'r Alban.

'Gwthio pŵer i lawr ac allan o San Steffan'

Dywedodd ei lefarydd: "Mae Andy wedi treulio ei yrfa wleidyddol gyfan yn ymladd dros genhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig – bydd yn rhoi Cymru a'r Alban wrth wraidd unrhyw lywodraeth y mae'n ei rhedeg, gan wthio pŵer i lawr ac allan o San Steffan a Whitehall mewn ffordd radical."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae'r fformiwla Barnett yn penderfynu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, gan ddyrannu cyllid yn seiliedig ar faint y boblogaeth a'r pwerau sy'n cael ei ddatganoli iddyn nhw.

Mae swm yr arian yn dibynnu a yw Llywodraeth y DU yn cynyddu neu'n lleihau cyllid ar gyfer adrannau sy'n cwmpasu meysydd sydd wedi'u datganoli, fel iechyd ac addysg.

Mae beirniaid wedi dadlau ers tro ei fod yn tanariannu Cymru, er bod Cymru yn derbyn mwy o gyllid y pen na Lloegr, oherwydd bod poblogaeth Cymru yn gymharol hŷn ac yn llai iach yn gyffredinol.

Mae Llafur Cymru hefyd yn cefnogi ailwampio'r fformiwla ariannu.

Llai na blwyddyn yn ôl pasiodd cynhadledd Llafur Cymru gynnig yn galw am ddiwygio'r fformiwla - galwad a wrthodwyd ddeufis yn ddiweddarach gan y Canghellor Rachel Reeves.

Joel Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fformiwla ei henwi ar ôl prif ysgrifennydd y Trysorlys yn y 1970au ai dyfeisiodd, y diweddar Joel Barnett

Cynhaliwyd asesiad mawr o anghenion Cymru ddiwethaf gan yr economegydd Gerry Holtham yn 2010.

Pan oedd yn faer Manceinion, cyd-ysgrifennodd Burnham lyfr yn 2024 gyda maer Lerpwl, Steve Rotheram, a amlinellodd sut y bydden nhw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac yn ailwampio dosbarthiad arian cyhoeddus.

Ynddo, dywedon nhw fod angen "fformiwla newydd sy'n cwmpasu'r DU gyfan ac yn cynnwys rhanbarthau Lloegr fel endidau ar wahân", ac y byddai cyllid "yn cael ei ddyrannu i'r rhanbarthau a'r cenhedloedd yn seiliedig ar ffactorau cymdeithasol a lefelau angen".

Cymharodd y llyfr hefyd y DU â "phlasty mawreddog" lle'r oedd y pŵer ymlaen mewn rhai ystafelloedd yn unig.

Cymharodd yr "ystafell fyw fawr" lle'r oedd y goleuadau'n gweithio'n dda â Llundain.

Dywedodd mai'r Alban oedd yr ystafell wely fawr lle'r oedd y "goleuadau'n fflachio", ac "i lawr y landin, mae dwy ystafell wely lai lle mae'r goleuadau'n gweithio ond maen nhw wedi pylu".

"Rwy'n credu eich bod chi'n gwybod i ble mae hyn yn mynd - Cymru a Gogledd Iwerddon ydyn nhw."

Cynigiodd y ddau hefyd ddileu 'Llyfr Gwyrdd' y Trysorlys – canllawiau gwariant swyddogol Llywodraeth y DU.

Mae beirniaid yn dadlau bod y llyfr gwyrdd yn rhoi Cymru a rhanbarthau Lloegr dan anfantais drwy sianelu buddsoddiad i dde-ddwyrain Lloegr.

Yn ystod ei ymgais am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015, dywedodd Burnham ei fod yn gwybod bod Cymru wedi derbyn cyfran annheg o isel o wariant y DU pan oedd yn weinidog y Trysorlys wyth mlynedd ynghynt.

Dywedodd wrth BBC Cymru bryd hynny nad oedd wedi gallu newid polisi'r llywodraeth ond "rwy'n credu bod Cymru wedi cael ei gadael yn brin [short-changed] ac fel arweinydd byddwn yn cymryd camau i gywiro hynny".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.