Lleihau trethi tafarndai, gwestai a sinemâu sydd o dan 'straen anferthol'

Rhun ap Iorwerth, Elin Jones a dyn arallFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
GanHuw Thomas
Gohebydd busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd y trethi sy'n cael eu talu gan dafarndai, gwestai a sinemâu yn gostwng ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi toriad o 30% mewn rhai trethi busnes.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth y byddai lleoliadau lletygarwch, llety a hamdden yn elwa o'r toriad parhaol hwn o fis Ebrill 2027 ymlaen.

"Mae'n ymwneud â helpu busnesau fel hyn i ffynnu fel y gall ein cymunedau ffynnu," meddai wrth ymweld â thafarn yng Nghaerdydd.

Cafodd y toriad i drethi busnes ei groesawu gan gorff masnach UK Hospitality Cymru, ond rhybuddion nhw fod busnesau yn dal i wynebu "symiau enfawr o drethiant o bob cyfeiriad".

Dwylo'n dal peints at ei gilyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarndai ymhlith y busnesau lletygarwch yng Nghymru fydd yn cael gostyngiad treth parhaol o fis Ebrill ymlaen

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu trethi busnes cyn eu hailddosbarthu fel cyllid uniongyrchol i awdurdodau lleol Cymru.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r toriad o 30% yn berthnasol i fusnesau bach a chanolig eu maint sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000.

Mi fydd yn cael ei ariannu drwy "gynnydd bach" yn yr ardrethi sy'n cael eu talu gan yr eiddo sydd â'r gwerth uchaf yng Nghymru, gan gynnwys rhai gwestai a chwmnïau sydd â safleoedd mawr, fel archfarchnadoedd.

Dywedodd gweinidogion y byddai hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw ostyngiad yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol.

'Baich i ddisgyn ar y busnesau mwy'

Dywedodd y Prif Weinidog fod y cyhoeddiad yn cyflawni "addewid ei lywodraeth i ail-gydbwyso'r ffordd y mae trethi busnes yn gweithio" er mwyn "dod â mwy o fywiogrwydd i'n strydoedd mawr".

Dywedodd fod y newid i'r trethi yn ymwneud â "helpu busnesau fel hyn i ffynnu, fel y gall ein cymunedau ffynnu hefyd, rhywbeth rwy'n credu bod pobl ym mhob rhan o Gymru eisiau ei weld".

Pan gafodd ei holi am y pwysau costau eraill sy'n wynebu busnesau lletygarwch, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod rhaid meddwl am ffyrdd newydd i ddefnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru.

"Dyma rywbeth y gallwn ei wneud rŵan, drwy gyflwyno'r mesur hwn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf – sef yr amser cynharaf y gallwn wneud hyn yn ymarferol. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth."

Elin Jones yn yfed peint
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Cyllid, Elin Jones yn mwynhau peint yn Radur i ddathlu'r cyhoeddiad

Er y bydd y toriad o 30% yn y trethi yn disodli'r toriad dros-dro presennol o 15% ar gyfer busnesau lletygarwch, dywedodd y Gweinidog Cyllid y byddai hyn yn cael ei ariannu drwy godi ardrethi ar y busnesau mwyaf, er mwyn helpu i feithrin "strydoedd mawr ffyniannus" yng nghymunedau Cymru.

Dywedodd Elin Jones ei bod yn iawn y byddai'r "baich yn disgyn ar y busnesau mwy, nid yn unig yn y sector lletygarwch".

Mi fydd y trethi busnes uwch yn cyfateb i tua 1c ymhob £1.

Mae angen "peth gwelliant" ar y ffordd y mae'r gweinidog yn tywallt peint, yn ôl Phil Newbould, landlord y Radyr Tap, er iddo nodi bod y toriad yn y trethi yn "ddefnyddiol" i'r diwydiant.

"Rwy'n credu bod mwy y gellir ei wneud," ychwanegodd Newbould.

O ran y ddwy dafarn y mae'n eu rhedeg, dywedodd Newbould nad oedd y toriad "mor sylweddol ag y mae'n swnio" ac y byddai'n arwain at arbediad o £3,000 y flwyddyn.

Cyfeiriodd at ymgyrch ledled y DU i dorri cyfradd Treth Ar Werth (TAW) neu VAT, sy'n cael ei dalu gan fusnesau lletygarwch - treth sy'n cael ei osod gan Lywodraeth y DU yn San Steffan - a dywedodd y byddai hynny'n lleihau costau'n sylweddol.

Sara Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Jenkins yn dweud bod "straen anferthol" ar fusnesau

"Mae'r newyddion yn grêt i fusnesau bach, yn enwedig busnes fel ni," meddai Sara Jenkins sy'n berchen ar gaffi Sophie's yn Aberystwyth.

"Mae costau di-ri' yn dod mas o'n clustiau ni - mae treth, mae costau nwyddau ac yn y blaen, mae gymaint o gostau gyda ni – felly mae unrhyw le ble allwn ni arbed arian yn grêt."

Tra bod caffi Sophie's yn brysur, mae Ms Jenkins yn dweud bod pethau'n dynn iddi hi a busnesau eraill yn y dref.

"Chi dim ond gorfod edrych ar y stryd fawr i weld busnesau yn cau lawr achos bod goblygiadau talu staff, talu nwyddau, mae prisiau bwyd, prisiau tanwydd, popeth wedi cynyddu.

"Felly, mae straen anferthol arnom ni. Dyw pobl sy'n dod trwy'r drws i gael eu brecwast gyda ni ddim yn ymwybodol o hyn o gwbl."

Mae ymgyrch ledled y DU i alw am doriad yng nghyfradd TAW, ac mae rhai'n gobeithio y bydd cyhoeddiad yng nghyllideb gyntaf llywodraeth Andy Burnham.

"Hynna fydde'r help fwyaf," meddai Sara. "Mae costau TAW ni bob chwarter yn anghredadwy. A ni'n cael dim byd amdano fe," meddai Sara.

"Mae 20% yn llawer iawn o arian i ni orfod talu ar y bwyd ry'n ni'n gweini i'n cwsmeriaid."

Yn ôl Dr Robert Bowen o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, mae'r gostyngiad i ardrethi "yn newyddion da" i fusnesau lletygarwch, llety a hamdden.

"Mae busnesau yn y sectorau yma wedi gweld cyfnod heriol iawn, yn enwedig dros y pum mlynedd diwethaf ers cyfnod Covid.

"Mae busnesau yn cael eu bwrw o'r ddwy ochr. Mae costau yn cynyddu i fusnesau, ond oherwydd natur yr economi byd-eang mae pobl efallai yn gwario llai o arian."

Dywedodd Dr Bowen nad oedd busnesau bach wedi cael digon o gymorth, "a bod y pwyslais ddim wedi bod ar gefnogi busnes a creu'r hyder hynny i fuddsoddi".

"Y peth pwysicaf yw sicrhau bod ni yn gallu datblygu twf economaidd, ac i sicrhau bod yr amodau yna i fusnesau, yn enwedig busnesau bach i dyfu ac i llwyddo yn yr amodau presennol."

Dywedodd Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am TAW ac Yswiriant Gwladol, fod y Canghellor wedi "blaenoriaethu rhoi cefnogaeth i'r sector lletygarwch yn ei wythnos gyntaf yn y swydd drwy dorri ardrethi busnes 20% ar gyfer tafarndai, clybiau cymdeithasol a lleoliadau cerddoriaeth fyw yn Lloegr".

"Gan fod ardrethi busnes wedi'u datganoli, mae'r toriad ardrethi busnes hefyd yn golygu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru, sy'n cael dewis eu hunain sut yr hoffen nhw ei ddyrannu."

Ychwanegodd fod "cynllun Great British Summer Savings o fudd i fusnesau a theuluoedd" ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.

"Cynyddodd y cynllun nifer yr ymwelwyr i fusnesau yn y sectorau hyn dros yr haf, gan gael mwy o bobl drwy'r drws a hybu economïau lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.