Owen Martell: Creu ffilm o'i nofel Intermission yn 'ddiddorol ond rhyfedd'

Owen Martell (ar y chwith) ar set Everybody Digs Bill Evans
- Cyhoeddwyd
Pan glywodd yr awdur Owen Martell fod gan gwmni ffilm ddiddordeb mewn cynhyrchu ffilm o'i nofel Intermission, mi oedd yn rhyfeddu.
Ond mi fydd y ffilm, Everybody Digs Bill Evans, mewn sinemau ar draws Prydain o 11 Medi ymlaen, er mawr syndod i'r awdur: "Cysylltodd rhywun gyda fi i ddweud bod diddordeb ganddyn nhw 'neud ffilm ac o'n i wedi rhyfeddu achos er fod y nofel wreiddiol yn llawn golygfeydd ffilmig falle, mae'n nofel ddigon tawel yn ei ffordd.
"Felly o'n i'n synnu bod ddiddordeb neud ffilm ohono fe.
"Wedyn, fuodd y cynhyrchydd drwy wahanol brosesau ac yn y pen draw, dechrau [ffilmio] llynedd oedd hi."
Mae'r ffilm Everybody Digs Bill Evans am y pianydd jazz Bill Evans, oedd yn dod yn wreiddiol o New Jersey, ond o dras Cymreig.
Ymhlith yr actorion yn y ffilm mae enwau adnabyddus fel Bill Pullman a Laurie Metcalf.

Anders Danielsen Lie sy'n chwarae rhan Bill Evans yn y ffilm Everybody Digs Bill Evans
Ysbrydoliaeth
Mewn sgwrs ar Dros Frecwast ar Radio Cymru, bu Owen yn trafod yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r llyfr o 2013: "Pianydd oedd Bill Evans a bu'n chwarae gyda rhai o fawrion y cyfnod. Yn y byd jazz, mae e'n ffigwr arbennig o bwysig, ond efallai ddim cweit mor adnabyddus â rhywun fel Miles Davis neu John Coltrane.
"Ond ar albwm Miles Davis, Kind of Blue, sydd yn un o recordiau mwya' amlwg y byd jazz o'r cyfnod yna, mae e'n gyfrifol am lot fawr o'r traciau a wedyn hefyd am mood y peth.
"Felly mae'n ffigwr eithaf pwysig. Ond o ran mynd ati i sgwennu amdano fe, rhesymau personol oedd gyda fi mewn ffordd, yn deillio o gyflwyniad gan fideos BBC Cymru Thomas Williams ac hefyd diddordeb yn ei dras Cymreig e.
"Ac wedyn sylweddoli hefyd bod e'n llai amlwg na hynny, nid mater o hawlio Bill Evans dros Gymru fyddai fe, ond bod y stori'n mwy cymhleth na hynny. Felly fe arweiniodd hynny fi at nofel ychydig bach yn wahanol i'r un ro'n i wedi bwriadu sgwennu ar y dechrau."
Roedd y broses o gynhyrchu'r ffilm yn newydd iawn i Owen, fel mae'n dweud: "Bues i ddim yn rhan o'r cynhyrchiad fel y cyfryw, felly jyst gweld y peth o bell wnes i a wedyn ges i fynd draw i weld nhw'n ffilmio am ychydig yn ardal Corc yn Iwerddon."

Yr actor Bill Pullman sy'n chwarae rhan tad Bill Evans yn y ffilm
Profiad digon dierth oedd gweld ffilm yn dod i'r byd yn seiliedig ar ei nofel, meddai: "Mae'n eitha rhyfedd, diddorol ond rhyfedd hefyd achos mae yna rywbeth sy' ddim yn canu'n iawn amdano fe achos mae'r peth yn perthyn i fi yn yr ystyr taw fi ysgrifennodd y llyfr.
"Ac mae yna ddigon o bwyntiau yn y ffilm dwi'n adnabod o'r hyn o'n i'n neud yn y llyfr ond wedyn mae'r ffilm yn gwbl wahanol hefyd. Felly profiad rhyfedd rili, yn hanner adnabod ac wedyn sylwi ar y pethau oedd ddim yn y llyfr, sydd wedi cael eu ychwanegu at ddibenion ffilm."
Mae'r ffilm wedi ymddangos mewn gwyliau ffilm ryngwladol erbyn hyn ac wedi ennill gwobrau yn barod gan gynnwys gwobr Silver Bear am y cyfarwyddwr gorau i'r cyfarwyddwr Grant Gee yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin 2026.
Bu Owen yn y premier ym Merlin ym mis Chwefror yn "eistedd mewn sinema enfawr o flaen y sgrin fwya' dwi erioed wedi gweld".
Meddai: "Dwi fwy cyfarwydd â byd llyfrau. Mae byd ffilm yn fyd hollol wahanol ac yn haenau o bobl sy'n ymwneud â'r ffilm. Mae wedi bod yn ddiddorol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024

- Cyhoeddwyd3 Awst 2016

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
