'Mae e'n arwr i ddisgyblion' - athro chwaraewr ieuengaf Caerdydd

Noah Anyadike ac Owen Francis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Noah Anyadike (dde) yn arwr i nifer o ddisgyblion Maes y Gwendraeth erbyn hyn, yn ôl Owen Francis

GanLowri Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae athro pêl-droediwr 15 oed o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ddewis i chwarae dros dîm cyntaf Caerdydd yn dweud ei fod yn "arwr" i ddisgyblion eraill.

15 oed a 98 diwrnod oedd Noah Anyadike pan chwaraeodd ei gêm gystadleuol gyntaf dros yr Adar Gleision yn erbyn Norwich.

Anyadike yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros dîm cyntaf Caerdydd a'r ieuengaf yn hanes Cwpan yr EFL - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Cwpan Cynghrair Lloegr, neu Gwpan Carabao.

"Ro'n i 'di troi lan i'r gêm ac roedd y manager 'di dweud wrtho fi bo fi'n dechrau - felly roedd rhaid i fi ffocysu a bod yn y mentality cywir... roedd e'n experience da i fi," meddai'r amddiffynnwr canol ifanc.

Noah Anyadike yn chwarae yn erbyn NorwichFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anyadike wedi cael ei gynnwys ar y fainc mewn gemau yn y Bencampwriaeth hefyd

Ochr yn ochr â'r pêl-droed, mae Noah yn paratoi ar gyfer ei arholiadau TGAU.

Canmol ei ymroddiad mae Owen Francis - ei athro addysg gorfforol yn Ysgol Maes y Gwendraeth.

"Sai'n deall sut mae'n neud e a bod yn onest," meddai Mr Francis.

"Wythnos diwethaf roedd gêm hwyr gyda fe a dwi'n credu oedd e gytre' tua 01:00.

"'Ware teg roedd e yn yr ysgol am 08:30 ar ôl 'ny.

"Mae'n anodd iawn i ddychmygu sut allai rhywun ifanc ddelio â'r pwysau gwaith, ond mae e'n dod i ben â hi yn rili dda."

Noah Anyadike
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anyadike yn dweud ei fod yn barod i fod yn amyneddgar wrth aros am ragor o gyfleoedd gyda'r tîm cyntaf

Mae Noa wedi creu tipyn o argraff ers chwarae ei gêm gyntaf dros dîm cyntaf Caerdydd, a phlant ifanc yr ysgol bellach yn ei edmygu

"Fi 'di gweld gwahaniaeth flwyddyn yma ar ôl yr haf pan gafodd e ei gêm gyntaf dros Gaerdydd," ychwanegodd ei athro.

"Fi 'di gweld bechgyn bach ym mlwyddyn saith yn edrych lan arno fe, ac mae e'n arwr i lot ohonyn nhw nawr... sy'n braf i'r ysgol."

O ran y dyfodol, mae Anyadike yn dweud ei fod yn benderfynol o lwyddo gyda'r Adar Gleision.

"Fi moyn llwyddo, fi moyn cael mwy o opportunities gyda'r tîm cyntaf i chwarae," meddai.

"Ond, mae'n rhaid i fi fod yn amyneddgar ac aros am yr amser cywir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.