Matthew Rhys yn diolch i Gymru 'fach ond nerthol' wrth greu hanes yn yr Emmys

Matthew RhysFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor a'r Cymro Cymraeg, Matthew Rhys, wedi creu hanes yng Ngwobrau'r Emmys ar ôl iddo ddod y person cyntaf i ennill dwy brif wobr actio mewn un noson.

Cafodd ei gydnabod ar y noson am ei waith yn Widow's Bay, comedi teledu goruwchnaturiol, a hefyd yn The Beast In Me, sef cyfres fer seicolegol a chyffrous.

Cyflwynodd Mr Rhys ei ail wobr "i bobl dda a gwych Cymru, a fu'n gymaint o ran o'm magu ag unrhyw un arall".

"Rydyn ni'n genedl fach ond nerthol. Mae hyn yn anhygoel," meddai, gan ychwanegu yn ei famiaith: "Diolch yn fawr iawn!"

'Rhoi gwlad fach ar y map'

Fe enillodd Matthew Rhys y wobr am yr actor blaenllaw gorau mewn cyfres gyfyngedig am The Beast In Me, cyn cipio'r wobr am yr actor blaenllaw gorau mewn comedi am ei ran yn Widow's Bay.

Mae nifer bychan o actorion wedi cael eu henwebu yn y gorffennol am ddwy brif wobr actio yn yr un flwyddyn - gan gynnwys Alan Alda, Sally Field, John Goodman, Elisabeth Moss a Ted Danson - ond Mr Rhys ydy'r cyntaf i ennill.

Wedi'r seremoni dywedodd: "Rwy'n dod o wlad fach, ac yn falch ein bod ni'n cael cyfleoedd i roi ein baner ar y map, fel petai, a dweud: 'rydyn ni'n cyflawni mwy nag y byddech chi'n ei ddisgwyl gan wlad o'n maint ni weithiau'."

Mae The Beast In Me yn ffilm am awdur - sy'n cael ei chwarae gan Claire Danes – sy'n galaru ac yn mynd yn obsesiynol am gymydog newydd dirgel.

Wrth siarad â Ms Danes, dywedodd y Cymro: "Diolch am fy ngalluogi i ymuno efo'r antur ddirgel yma ac am ddod â'r bwystfil allan - rwyt ti'n bartner actio sy'n gallu bod yn frawychus, ond rwy'n ddiolchgar am hyn i gyd."

Matthew Rhys gyda Keri RussellFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Matthew Rhys i'r seremoni gyda'i bartner, yr actores Americanaidd Keri Russell, oedd hefyd wedi'i henwebu am wobr Emmy

Diolch i'w rieni

Yn ddiweddarach yn y noson, wrth dderbyn y wobr am yr actor comedi am ei ran fel y maer yn Widow's Bay, diolchodd am gefnogaeth ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr - ac yn benodol i'w rieni am "fy ngwthio ar y llwyfan pan o'n i'n ifanc iawn".

Fe wnaeth ei gyd-actor yn Widow's Bay, Kate O'Flynn, ennill gwobr yr Actores Gomedi Gefnogol Orau.

Ymhlith yr enillwyr eraill yn y seremoni gwobrau teledu yn yr UDA roedd Jean Smart, Allison Janney a Stephen Colbert. Cafwyd teyrnged emosiynol i Dolly Parton a gwobr ddyngarol arbennig i Michael J Fox.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.