Ymgyrch i achub lleoliad cerddorol a lansiodd yrfaoedd enwogion Cymru

Mae y Ffatri Bop yn Rhondda Cynon Taf ar werth am bron i £500,000
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch cymunedol yn ceisio achub lleoliad celfyddydol eiconig a lansiodd yrfaoedd rhai o enwau mwyaf adnabyddus Cymru.
Mae'r elusen sy'n berchen ar y Ffatri Bop yn nhref Y Porth, Rhondda Cynon Taf - lleoliad ar gyfer cyngherddau Tom Jones, Sterophonics a Victoria Beckham - yn gorfod ei werthu oherwydd costau cynyddol ei redeg.
Mae'r ymgyrch wedi denu cefnogaeth y cyflwynydd Bethan Elfyn, sy'n dweud ei bod yn bwysig bod gan bobl ifanc yr ardal "weledigaeth o uchelgais".
Gobaith ysgrifennydd yr ymgyrch, Josh Evans yw bydd y gymuned leol yn cael dweud eu dweud am ddyfodol y lleoliad arloesol.

Tom Jones yn agor y Ffatri Bop yn swyddogol yn 2000
Fe wnaeth y safle agor ei ddrysau yn yr 1890au fel canolfan botelu dŵr - nid y lle mwyaf amlwg am leoliad cerddoriaeth, felly.
Newidiodd i fod yn safle cynhyrchu diodydd meddal yn yr 1920au, cyn i'r ffatri gau yn 1987.
Roedd yr adeilad yn wag tan i gwmni cyfryngau Avanti ei ailagor fel lleoliad cerddoriaeth yn 2000.
Un o gantorion enwocaf Cymru oedd yn gyfrifol am fedyddio'r Ffatri Bop, gyda Tom Jones yn taro potel o bop yn erbyn yr adeilad i nodi'r bennod newydd.
Mae Catatonia, Queens of the Stone Age a'r Manic Street Preachers ymysg y rhai sydd wedi perfformio yno, ond mae ei ddyfodol bellach yn y fantol.

Mae ysgrifennydd yr ymgyrch, Josh Evans, wedi bod yn mynychu'r lleoliad ers iddo agor dros 25 mlynedd yn ôl
O fynychu'r gigs cyntaf yn y lleoliad, i ddatblygu ei sgiliau technegol fel cynhyrchydd sain, mae'r Ffatri Bop yn golygu llawer i Josh Evans.
"Os ti'n gofyn i unrhyw un yn Y Porth, mae ganddyn nhw stori am yr adeilad.
"O'n i'n arfer mynd bron pob dydd Gwener neu ddydd Sadwrn i wylio cerddoriaeth fyw.
"'Naeth hwnna ysbrydoli fi i fod yn gerddor ac i weithio mewn digwyddiadau byw."
Roedd y Ffatri Bop hefyd i fod yn lleoliad ar gyfer parti priodas Josh yn 2020, cyn i'r pandemig eu gorfodi i ganslo.

Ei brofiadau yn y Ffatri Bop sydd wedi helpu Josh i ddatblygu ei sgiliau fel technegydd sain
Gyda chostau'n cynyddu, mae'r elusen Valley Kids wedi rhoi'r adeilad ar y farchnad ar ôl 14 blynedd, ac mae Josh yn rhan o'r ymgyrch i geisio dod â'r lleoliad cerddoriaeth i feddiant y gymuned.
"Dwi mo'yn agor y venue eto i gael gigiau a chyngherddau," meddai.
"Ond hefyd, dwi rili mo'yn i'r adeilad fod yn hwb creadigol ar gyfer y celfyddydau yn y cymoedd eto.
"Cefais i fy ysbrydoli o weld pobl yn perfformio yna, felly dwi'n credu mae'n bwysig i hynny ddigwydd eto - nid jyst ar gyfer cerddoriaeth, ond ar gyfer theatr, ysgrifennu, celf a chrefft."

Roedd Bethan Elfyn yn cyflwyno sioe gerddoriaeth wythnosol o'r lleoliad ar gychwyn ei gyrfa
Yn ogystal ag artistiaid, mae'r Ffatri Bop yn gyfrifol am lansio gyrfa sawl cyflwynydd hefyd - "y Jones' i gyd" yn ôl Josh, gan gyfeirio at Alex Jones, Steve Jones a Gethin Jones.
Roedd Bethan Elfyn yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth wythnosol o'r lleoliad gyda Steve Jones, ac mae ganddi atgofion melys o'i hamser yno.
Dywedodd: "Roedd y bobl oedden ni'n denu yno i chwarae mor amrywiol - o fandiau roc lleol i bobl fel Posh Spice.
"Ac mae'r adeilad ei hun yn amazing - un o'r pethau mwyaf hwyl oedd gweld tour bus Status Quo yn dreifio trwy gatiau cul y Ffatri Bop, ac roedd y tour bus yn huge!"

Fe wnaeth Gethin Jones, Alex Jones a Steve Jones ddatblygu eu gyrfaoedd cyflwyno yn y Ffatri Bop
Mae Bethan yn dweud ei bod hi "mor falch" o glywed am yr ymgyrch, gan gredu ei bod yn bwysig cefnogi lleoliadau celfyddydol tu hwnt i ddinasoedd mawr.
"Mae o'n dod â bwrlwm economaidd i'r ardal wrth gael gigs a phethau fel yna, ond hefyd o ran ymdeimlad o uchelgais i bobl ifanc, a gweledigaeth i allu bod yn greadigol a chael swyddi creadigol.
"Dwi mor falch clywed bod y gymuned eisiau prynu'r lle."

Bydd côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn perfformio yn lansiad yr ymgyrch ddydd Gwener
Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio yn swyddogol yn y Ffatri Bop brynhawn Gwener, gyda pherfformiadau byw gan fandiau a chorau lleol.
Un o'r rhai fydd yn bresennol yw'r athrawes Lowri Jones o Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn - gyda chôr o'r ysgol yn perfformio yn ystod y lansiad.
Yn gyfrifol am gysylltiadau cymunedol yr ysgol, mae Lowri yn dweud bod ganddyn nhw "berthynas ffantastig" gyda'r Ffatri Bop, gyda'r plant wedi cael y cyfle i arddangos eu gwaith celf yno.
"Y Ffatri yw calon y gymuned," meddai.
"Maen nhw wedi rhoi profiad gwerthfawr i'r plant ac maen nhw'n gefnogaeth fawr i bawb yn y gymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017
