Aaron Ramsey wedi'i benodi'n brif hyfforddwr Oxford United

Aaron Ramsey ar yr ystlys yn ystod cyfnod byr fel rheolwr dros dro Caerdydd yn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Cymru, Aaron Ramsey wedi cael ei benodi'n brif hyfforddwr Oxford United.
Mae'r cyn-chwaraewr canol cae gyda thimau pêl-droed Caerdydd, Arsenal a Juventus yn olynu Matt Bloomfield, a gafodd ei ddiswyddo ddydd Sadwrn.
Unig brofiad blaenorol Ramsey fel hyfforddwr oedd ar ddiwedd tymor 2024-25, pan fu wrth y llyw dros dro am gyfnod byr yng Nghaerdydd.
Bydd Oxford yn chwarae yn Adran Un y tymor nesaf, ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth.
Capten Cymru, Aaron Ramsey yn ymddeol o bêl-droed
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Ramsey i redeg marathon Llundain er cof am fachgen chwech oed
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
Cyhoeddodd Ramsey, 35, ym mis Ebrill ei fod yn ymddeol fel chwaraewr yn dilyn cyfnod byr y llynedd gyda chlwb Pumas UNAM ym Mecsico.
Enillodd 80 o gapiau rhyngwladol a sgoriodd 21 o goliau dros Gymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.