Cyhuddo bachgen,14, o lofruddio wedi canfyddiad corff merch goll mewn parc

LillyFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lilly, 14, ei gweld ddiwethaf ar Stryd Fawr Blaina nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen lleol 14 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio wedi i gorff merch gael ei ddarganfod ym Mlaenau Gwent nos Lun.

Cafodd ei arestio wedi'r darganfyddiad ym Mharc Duffryn yn nhref Blaenau.

Dyw'r corff heb ei adnabod yn swyddogol eto, ond y gred yw mai merch 14 oed o'r enw Lilly a oedd ar goll oedd hi.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi cyhoeddi enw Lilly, gyda chydsyniad ei theulu.

Mae'r bachgen, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener.

Parc Duffryn yn nhref Blaenau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff merch ei ganfod ym Mharc Duffryn tua 22:10 nos Lun

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r achos - ac apêl am wybodaeth a lluniau CCTV - yn parhau.

Mae cordresi'r llu yn dal yn eu lle ym Mharc Duffryn, ac mae'r llu wedi diolch i'r trigolion lleol am eu cydweithrediad.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lilly ar yr adeg anodd yma," dywedodd y

Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas.

"Rydym yn deall bod cryn ddiddordeb yn yr ymchwiliad yma sy'n parhau.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried sut y gallai eu geiriau, yn enwedig sylwadau ar-lein, effeithio ar ein gallu i erlyn unrhyw un all fod wedi cyflawni trosedd."

Mae Jenny Hopkins o Wasanaeth Erlyn Y Goron hefyd yn rhybuddio ei bod "yn bwysig eithriadol bod dim gohebu, sylwadaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein all niweidio'r broses [erlyn] mewn unrhyw ffordd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig