Cyflwr iechyd plant Cymru yn 'frawychus ac yn gwaethygu'

Mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn rhybuddio y gallai Cymru "fagu'r genhedlaeth lleiaf iach o blant mewn degawdau"
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwr iechyd plant yng Nghymru yn "frawychus", a'r canlyniadau i bobl ifanc yn gwaethygu neu'n arafu mewn nifer o feysydd, yn ôl meddygon plant.
Mae rhybudd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn seiliedig ar ddadansoddiad o 12 o fesurau iechyd - yn cynnwys cyfraddau marwolaethau babanod a phlant, problemau iechyd meddwl, gordewdra, imiwneiddio ac asthma.
Mae'r effaith, yn ôl y Coleg, yn cael ei deimlo waethaf mewn ardaloedd difreintiedig ac ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Heb "weithredu brys" maen nhw'n rhybyddio bod yna berygl y gallai Cymru "fagu'r genhedlaeth lleiaf iach o blant mewn degawdau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod iechyd plant yn bwysig ofnadwy a'u bod am ystyried cynnwyd yr adroddiad yn ofalus.
Beth yw'r prif bryderon?
Mae dadansoddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn nodi sawl pryder:
Mae cyfraddau brechu plant wedi gostwng yn is na'r lefelau sy'n cael eu hargymell ac yn bryder mawr - gydag ychydig iawn o frechlynnau plentyndod yn cyrraedd y targed o 95%
Mae gan dros chwarter (27%) y plant 5-6 oed yng Nghymru bydredd dannedd amlwg yn 2024/25 ac mae plant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod â phydredd dannedd (37.6%) o gymharu â phlant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (19.8%)
Mae gordewdra yn parhau'n broblem sylweddol. Yn 2024/25 roedd 27.3% o blant 4 a 5 oed dros eu pwysau neu'n byw â gordewdra. Dyma'r gyfradd uchaf i'w gofnodi yng Nghymru a'r gwaethaf o holl wledydd y DU
Mae cynnydd o 378% yn nifer y plant gafodd eu derbyn i'r ysbyty ag asthma ym mis Medi 2024 (110) o gymharu â mis Awst (23).
Dywedodd cyd-swyddog y coleg yng Nghymru, Dr Dana Beasely fod yr adroddiad "yn datgelu cyflwr brawychus iechyd plant a'r anghydraddoldebau cynyddol a brofir gan deuluoedd ledled Cymru."
Ychwanegodd fod "effaith hyn yn ddinistriol ac yn para'n hir gan gyfyngu ar gyfleoedd bywyd i'n cenedlaethau ieuengaf o'r cychwyn".
"Fel meddygon plant ni allwn ni fforddio derbyn hyn... nid yw iechyd gwael ac anghydraddoldebau yn anochel."
Ras teulu i godi £250,000 ar gyfer triniaeth canser i'w mab yn America
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Yr elusen sy'n rhoi lle i drafod iechyd meddwl yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd26 Awst
Mae'r coleg hefyd yn amlygu pryder sylweddol ymhlith rhieni am gyflwr gwasanaethau.
Ar ôl comisiynu arolwg barn diweddar gan gwmni YouGov, maen nhw'n dweud bod llai na thraean (27%) o'r ymatebwyr yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gefnogi iechyd plant.
Dim ond 18% o'r ymatebwyr sy'n credu bod gwariant GIG Llywodraeth Cymru ar iechyd plant "tua'r lefel iawn" tro bod tua dwy ran o dair (68%) o'r ymatebwyr yn credu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith negyddol ar iechyd plant.
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan YouGov rhwng 10 ac 14 Awst 2026 gyda 1,049 o bobl 16 oed a hŷn yn cymryd rhan yng Nghymru.
Beth mae'r Coleg am ei weld yn digwydd?
Mae'r Coleg yn galw ar Lywodraeth Plaid Cymru i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto i ddatblygu Cynllun Iechyd Plant.
Yn benodol maen nhw'n dadlau y dylai'r cynllun ganolbwyntio ar dair blaenoriaeth allweddol yn ymwneud â data, targedau a buddsoddiad:
Cryfhau ansawdd data iechyd plant a'r broses o'i gasglu a'i rannu, gan flaenoriaethu adroddiadau hygyrch, tryloyw a safonol ar draws gwasanaethau cyhoeddus
Datblygu mesur cyffredinol ar gyfer iechyd plant i olrhain canlyniadau, monitro tueddiadau a llywio camau gweithredu i wella iechyd plant. Dylai hyn gyd-fynd â thargedau cadarn ac ystyrlon
Gwarantu buddsoddiad teg mewn gwasanaethau iechyd plant o'i gymharu â gofal oedolion, drwy gyflwyno Safon gan gydnabod cymhlethdod cynyddol anghenion.
Dywedodd cyd-swyddog y Coleg yng Nghymru, Dr Lizzie Nickerson fod "rhaid i lywodraeth newydd Cymru nawr wneud camau beiddgar sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella canlyniadau i fabanod, plant a phobl ifanc".
"Heb weithredu ar frys fe fyddwn ni'n colli cenhedlaeth i iechyd gwael, cyflyrau ataliol a chyfleoedd a gollwyd," meddai.

Dywed y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, nad yw canfyddiadau'r adroddiad yn syndod iddi
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu pryderon y meddygon.
Dywedodd Rocio Cifuentes fod yr adroddiad yn "dangos bod gormod o blant yng Nghymru yn cael eu gadael yn ôl oherwydd anghydraddoldebau sy'n cynyddu ac mynediad anghyson i gefnogaeth".
Ychwanegodd fod canfyddiadau'r adroddiad yn adlewyrchu safbwyntiau mae'n clywed yn gyson gan blant a phobl ifanc, sef "bod cefnogaeth yn aml yn dod yn rhy hwyr, bod mynediad i wasanaethau fel iechyd meddwl a gofal deintyddol yn gallu bod yn anodd, ac nad yw dewis iach bob amser yn ddewis hawdd".
"Rhaid i Lywodraeth Cymru newydd roi blaenoriaeth i iechyd plant, gwrando ar leisiau plant, a darparu camau hirdymor sy'n rhoi cyfle teg i bob plentyn fyw bywyd iach."
Llywodraeth Cymru yn 'ystyried opsiynau'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad yma yn ofalus.
"Mae gennym ni ystod eang o bolisïau a rhaglenni sy'n chwarae rhan bwysig wrth wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau i blant ar hyd Cymru gyda datblygiad blynyddoedd cynnar, brechiadau a chefnogaeth iechyd meddwl yn ganolog i'n gwaith,.
"Ry'n ni'n gwybod bod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer eu datblygiad ond hefyd wrth siapio eu hiechyd, lles a'u cyfleoedd yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n ystyried opsiynau i allu darparu ffocws cryfach a mwy parhaus ar iechyd babanod, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau fod ataliad, ymyrryd cynnar a chynnig gwasanaethau integredig yn amlwg wrth i ni ddatblygu polisïau a gwasanaethau yng Nghymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.