Pum munud gyda Bardd y Mis: Hammad Rind

Hammad RindFfynhonnell y llun, Hammad Rind
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Medi yw Hammad Rind.

Mae Hammad yn wreiddiol o Bacistan ond wedi dysgu Cymraeg gan ychwnageu at yr wyth iaith arall y mae'n gallu siarad.

Mae o bellach yn gweithio fel darlithydd ieithoedd ac mae'n awdur cyhoeddedig.

Mae'n brysur ar hyn y bryd yn gweithio ar ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Cymraeg a dyma ddod i'w adnabod ychydig yn well.

Soniwch ychydig amdanoch chi eich hun a'ch cefndir.

Ces i fy ngeni a fy magu ym Mhanjab ym Mhacistan.

Symudais i i Brydain yn 2007, yn gyntaf i Lundain, lle astudiais i wneud ffilmiau (filmmaking) ym Mhrifysgol Kingston.

Wedyn, symudais i i Gaerdydd yn 2013 ar ôl i fi gael cynnig swydd gan gwmni cyllid i weithio fel ymchwilydd ieithoedd tramor, yn arbenigo yn yr iaith Dwrceg.

A dwi wedi byw yng Nghaerdydd ers hynny.

Pam penderfynu dysgu Cymraeg a sut wnaethoch chi ddod i gysylltiad â'r iaith yn gyntaf?

Penderfynais i ddysgu Cymraeg fel ymateb i 'mid-life crisis' ar ôl fy mhen-blwydd yn ddeugain oed, dair blynedd yn ôl. Yn fwy difrifol, roedd yna lot o resymau.

Dwi'n meddwl ei bod yn hynod bwysig dysgu iaith leol a diwylliannol er mwyn deall y diwylliant yn well. Dyna pam penderfynon ni, fy ngwraig a fi, anfon ein plant i'r ysgol Gymraeg.

Hefyd, fel rhywun sydd â ffrindiau sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg, ro'n i'n awyddus i ddarllen eu gwaith nhw. Un peth oedd o gymorth mawr oedd amrywiaeth tafodieithoedd Cymraeg y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw, ac o ddechrau fy siwrnai gallwn i glywed cymaint o amrywiaeth.

Ro'n i ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod genedlaethol y llynedd. Gyda'r iaith, gwnes i ddarganfod bod y llenyddiaeth mor gyfoethog hefyd. Ac yn syth bron, dechreuais i ar fy noethuriaeth, sy'n edrych ar draddodiadau marwnadol yn y Gymraeg, Persieg ac Wrdw.

Hammad gyda'i deulu ym MhacistanFfynhonnell y llun, Hammad Rind
Disgrifiad o’r llun,

Hammad pan yn blentyn, yn eistedd ar lin ei dad, gyda'i deulu ym Mhacistan

O ble daeth y diddordeb i ddysgu ieithoedd newydd a faint o ieithoedd ydych chi'n gallu siarad?

Ces i fy magu mewn ardal amlieithog. Wrdw oedd fy iaith gyntaf a Phanjabeg oedd yr iaith ranbarthol. Pan o'n i'n blentyn, roedd fy nhad yn astudio Arabeg mewn prifysgol yn Saudi Arabia.

Dechreuais i ddysgu Arabeg ar fy mhen fy hun ar yr adeg honno i roi argraff arno fe. Ro'n i hefyd yn astudio Saesneg yn yr ysgol. Ro'n i'n hoffi darllen llyfrau am hanes ac yn adnabod Persieg fel iaith hanesyddol arall o'n rhanbarth.

Felly, dechreuais i ddysgu Persieg hefyd, ac wedyn gwnaeth y hobi hwn droi'n obsesiwn. Dwi wedi astudio tua 15 iaith i ryw raddau hyd yn hyn, ond dwi'n fwy cyfforddus mewn tua 10 ohonyn nhw.

Pa iaith sydd nesaf ar eich rhestr i'w dysgu a pham?

Byddwn i'n hoffi dysgu Siaponeg un diwrnod.

Dechreuais i ddysgu'r iaith honno ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond achos bod y sgript mor gymhleth, ro'n i'n gorfod gohirio hi am y tro - rhywbeth i'w wneud pan dwi wedi ymddeol (neu'n gynharach, pwy a ŵyr?).

Pryd wnaethoch chi ddechrau barddoni ac ysgrifennu?

Mae Cymru wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd creadigol, gan mai yma y dechreuais i ysgrifennu. Rhoddodd y symudiad i Gymru gyfle i fi setlo, yn ogystal â sefydlogrwydd ac amser i ysgrifennu.

Fy nofel gyntaf oedd Four Dervishes a dwi wedi ei chyfieithu'n ddiweddar i'r Wrdw fel Pantchwen Darwesh Ka Qissa (Stori'r Pumed Derfis), a gafodd ei chyhoeddi ym Mhacistan ac India.

Dwi'n aml yn disgrifio fy hun fel bardd anfodlon gan fy mod i'n ysgrifennu barddoniaeth yn eitha anaml. Fodd bynnag, dwi'n hoffi ysgrifennu cerdd.

Mae angen cyhyrau gwahanol i ysgrifennu cerdd, fel petai. Mae cynildeb yn rhan bwysig o'r broses o farddoni, tra bod mwy o ryddid gennych mewn rhyddiaith.

Hammad ar y traethFfynhonnell y llun, Hammad Rind
Disgrifiad o’r llun,

Hammad yn astudio iaith arall tra'n ymlacio ar y traeth

Lle fyddwch chi'n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?

Yn aml, dwi'n cael fy syniadau o fy mhrofiadau. Roedd fy nhaid, tad fy mam, yn dweud llawer o straeon a hanesion pan o'n i'n blentyn, ac mae e wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i fi.

Dwi hefyd yn defnyddio fy ieithoedd fel deunydd neu ffynhonnell o ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith. Ac weithiau, mae'r broses ei hun yn rhoi syniadau i fi, unwaith dwi wedi codi'r pen.

Beth sydd nesaf i chi?

Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio ar dri phrosiect, mwy neu lai. Dwi'n gweithio ar fy nghyfrol gyntaf o farddoniaeth (yn y Gymraeg), ar fy ail nofel yn y Saesneg ac ar fy noethuriaeth, wrth gwrs.

Dwi'n cyfieithu hefyd bob hyn a hyn. Ar hyn o bryd, dwi'n cyfieithu straeon byrion o'r Wrdw i'r Saesneg a'r Gymraeg.

Hammad yn Ngwyl y GelliFfynhonnell y llun, Hammad Rind
Disgrifiad o’r llun,

Hammad yn Ngŵyl y Gelli yn sôn am ei waith

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: