Ras teulu i godi £250,000 ar gyfer triniaeth canser i'w mab yn America

TeddyFfynhonnell y llun, Llun teulu
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd Teddy Sloman o Griffithstown ger Pont-y-pŵl yn fachgen hapus dwy oed pan gafodd ddiagnosis difrifol 14 mis yn ôl - math prin o ganser o'r enw neuroblastoma.

Ers y diagnosis mae ei rieni, Sarah a Kramer, wedi bod wrth ei ochr yn yr ysbyty wrth iddo aros yno'n ddi-dor tra'n derbyn gofal arbenigol.

Ond dydy triniaeth arbrofol i geisio atal yr afiechyd rhag dychwelyd ddim ar gael i gleifion yn y DU bellach, er ei fod tan yn ddiweddar.

O ganlyniad mae'r teulu'n ceisio codi £250,000 mewn ychydig wythnosau er mwyn ei yrru i'r Unol Daleithiau i gael y sylw mae ei angen.

Ac mae amser yn dynn, gan y bydd yn rhaid i Teddy ddechrau'r driniaeth newydd o fewn saith wythnos i'w driniaeth yng Nghymru ddod i ben ar ddiwedd Medi.

TeddyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Teddy gyda'i deulu yn yr ysbyty

Yn siarad â Cymru Fyw, dywedodd Sarah:

"Mae Teddy'n dair mlwydd oed nawr, ond Gorffennaf diwethaf pan oedd e ond yn ddwy cafodd ddiagnosis o ganser ffyrnig o'r enw neuroblastoma."

Cafodd Teddy adwaith eithafol i'r cyffuriau roedd yn ei dderbyn yn yr ysbyty.

"Gan ei fod yn salwch difrifol a'r ffaith bod nifer o sgîl-effeithiau i'r driniaeth, roedden ni mwy neu lai'n byw wrth ei ymyl yn yr ysbyty am bron i 10 mis.

"Mae gennym ni fab arall o'r enw Joey, sy'n 19 mis oed. Cafodd Joey ei eni'n gynnar, ym mis Rhagfyr 2024, ac roedd rhaid iddo aros yn yr ysbyty am beth amser.

"Fel yr oedden ni'n dod dros y straen o hynny daeth diagnosis Teddy, ac felly roedd rhaid i ni roi Joey i fy rhieni am gyfnod tra odden ni'n gofalu am Teddy."

TeddyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Teddy yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod pan oedd yn derbyn triniaeth

Mae'r driniaeth wedi arwain at oblygiadau hirdymor i Teddy, fel esbonia Sarah:

"O ganlyniad i sgil-effeithiau'r driniaeth mae Teddy bellach yn derbyn ei fwyd yn gyfan gwbl drwy diwb, a bydd rhaid iddo ddysgu i fwyta ac yfed unwaith eto.

"Hefyd, gan ei fod wedi bod yn ei wely am gyfnodau hir mae wedi gorfod dysgu i gerdded tair gwaith.

"Roedd rhaid i ni deithio i Birmingham ar gyfer triniaeth arbenigol, ac fe wnaethon nhw ein rhybuddio bod siawns na fyddai'n goroesi.

"Aethon ni i Lundain ar gyfer radiotherapi arbenigol, ac mae Teddy wedi bod mewn ambiwlans a chael anaesthetig mwy o weithiau na be' dwi'n ei gofio, ac mae e'n galw'r ysbyty yn ei 'gartref arall'."

'Parhau i wenu'

"Ond er iddo fynd drwy hyn i gyd mae'n parhau i wenu," meddai Sarah.

"Mae wrth ei fodd yng nghwmni pobl, gan gynnwys pobl ddieithr, a dweud helo a gofyn iddyn nhw be' ydi ei henwau nhw. Mae pawb ar y ward i'w weld wedi gwirioni â Teddy.

"Er gwaetha'r holl gymhlethdodau a phroblemau sydd 'di dod ein ffordd ni, y peth gorau ydy bod y driniaeth wedi gweithio wrth ymosod ar y canser.

"Er gwaetha'r disgwyl 'dyn ni wedi ei gwneud hi mor bell â hyn, ond mae'r frwydr ymhell o gael ei hennill."

TeddyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i frawd bach, Joey

Ym mis Mehefin daeth i'r amlwg bod cyffur a allai fod wedi ei ddefnyddio i leihau'r siawns o'r canser yn dychwelyd, ddim ar gael bellach.

Roedd y cyffur DFMO (difluoromethylornithine) ar gael yng Nghymru tan yn ddiweddar, ond cwmni o'r Unol Daleithiau oedd yn berchen ef.

Roedd cleifion yn y Deyrnas Unedig yn derbyn y cyffur drwy gynllun EPA (Early Access Program) tra roedd y cyffur yn y broses o gael ei gymeradwyo yn yr Unol Daleithiau.

Gan fod y Deyrnas Unedig yn benthyg trwydded yr Unol Daleithiau i ddefnyddio'r cyffur pan gafodd ei gymeradwyo ym mis Mai eleni, fe olygodd hyn bod cleifion yma'n colli mynediad i'r cyffur.

Roedd rhai a oedd yn derbyn y cyffur yn barod yn cael parhau ar y cynllun am ddwy flynedd, ond doedd y cyffur ddim ar gael i gleifion newydd.

TeddyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Teddy wedi iddo gael sbectol newydd

Yn ôl y sefyllfa sydd ohoni, dywed Sarah fod ond tri opsiwn gwahanol ar gael er mwyn ceisio atal y neuroblastoma rhag dod 'nôl.

"Yr opsiynau yw'r driniaeth DFMO, treialon brechlyn yn Efrog Newydd a threial CAR T-cell yn Rhufain.

"Yr hyn mae'r opsiynau cynnal 'ma'n gwneud yw dysgu'r corff i adnabod celloedd canser a'u dinistrio cyn iddynt ddod yn broblem, gan mai yn fanna mae'r perygl.

"Pe bai'r canser yn dychwelyd yn achos Teddy, dim ond siawns o 5% bydda ganddo o fyw."

teddy a'i deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu gyfan; Sarah a Kramer gyda'r bechgyn, Teddy a Joey

"Gan fod DFMO ddim ar gael yn y wlad yma bellach mae'n rhaid i ni nawr godi £250,000 er mwyn mynd a Teddy i Efrog Newydd ar gyfer treial brechlyn."

Dywed Sarah mai un agwedd sy'n gwneud pethau'n anoddach yw'r ffaith bod rhaid dechrau'r triniaethau newydd yn gymharol sydyn.

"Ein her fwya' yw codi'r arian i amserlen dynn, achos mae'n rhaid i'r driniaeth ddechrau o fewn 45 diwrnod o orffen yr imiwnotherapi, sy'n debygol o fod ar ddiwedd Medi.

"Cafon ni ond gwybod am hyn ar ddiwedd Mehefin felly mae hi 'di bod yn her anferthol i hel yr arian 'ma mewn 12 wythnos."

'Cymuned anhygoel'

"Mae'r gymuned leol wedi bod yn hollol anhygoel," dywed Sarah.

"Mae 'na bobl do'n ni erioed 'di cwrdd, pobl ddieithr, sydd wedi ymuno â'r ymgyrch 'Together for Teddy', ac mae wir wedi adfer ein ffydd mewn dynoliaeth.

"Ry'n ni angen gwneud popeth ni'n gallu er mwyn rhoi'r siawns gorau i Teddy oroesi'r afiechyd 'ma. Mae wedi bod yn 14 mis ofnadwy o anodd."

Mae aelodau o Glwb Rygbi Abercarn newydd gwblhau Her y Tri Chopa (Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan) er mwyn codi arian i'r elusen 'Together for Teddy'.

Mae'r elusen wedi codi £209,000 hyd yma - £41,000 yn brin o'r cyfanswm angenrheidiol.

Tri chopaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm fu'n gwneud Her y Tri Chopa yn ar ddiwedd Awst

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

"Nid yw DFMO (eflornithine) wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae'r gwneuthurwr, Norgine, gwaetha'r modd wedi penderfynu tynnu ei gais am drwydded yn y DU. Rydym yn deall bod NICE wedi bwriadu cynnal gwerthusiad o DFMO fel triniaeth ar gyfer neuroblastoma.

"Yn anffodus, mae penderfyniad Norgine i dynnu'n ôl o brosesau'r MHRA a NICE, trosglwyddo'r hawliau masnacheiddio yn ôl i US WorldMeds a chau ei Raglen Mynediad Cynnar yn golygu, er y gall cleifion presennol barhau â'u triniaeth tan ddiwedd y rhaglen, nad yw bellach yn agored i gleifion newydd.

"Mae'r MHRA a NICE wedi gwneud yn glir eu bod dal yn agored i weithio gyda'r cwmni os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg a allai gefnogi cais yn y dyfodol ar gyfer DFMO."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig