Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Mae Byw i'r Funud yn un o ganeuon enwog y diweddar Dyfrig Evans
- Cyhoeddwyd
Mae 'Byw i'r Funud', enw cân boblogaidd y diweddar Dyfrig Evans, a 'Reu', sy'n ffordd o gyfarch pobl yn Nyffryn Nantlle wedi eu naddu ar lawr y stryd fawr ym Mhen-y-groes.
"Oedd Dyfs yn prowd iawn o fod yn hogyn o Ddyffryn Nantlle, felly mae o'n reit neis fod rwbath o'i deimladau fo lawr ar lechan ym Mhen-y-groes," dywedodd Iwan Evans, brawd mawr Dyfrig, wrth ymateb i'r llechi newydd sydd wedi eu gosod gan Gyngor Gwynedd.
Â'r dyffryn yn un o brif gynhyrchwyr llechi y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe benderfynodd pobl y dyffryn ar ddywediadau, darnau o farddoniaeth a geiriau caneuon gan feirdd a cherddorion Dyffryn Nantlle i'w naddu ar y llechi newydd.
Mae Dyffryn Nantlle wedi ei ddynodi'n Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Cymru ers 2021. Yn ôl Cyngor Gwynedd "mae'r stribedi llechi sydd wedi eu gosod ym Mhen-y-groes yn dathlu hunaniaeth a threftadaeth y dyffryn".

Iwan Evans, ger un o ddywediadau ei frawd a ysbrydolodd un o ganeuon mwyaf poblogaidd Dyfrig Evans
Yn ogystal â geiriau anfarwol Dyfrig Evans, mae Pedwaredd Gainc y Mabinogi, barddoniaeth Carwyn Eckley ac R Williams-Parry, caneuon Sage Todz, a straeon Gwlad y Rwla gan Angharad Tomos wedi eu naddu ar y stribedi llechi.
Mae Iwan yn credu y byddai Dyfrig wrth ei fodd bod llechen gyda'r geiriau 'Byw i'r Funud' wedi ei gosod drws nesaf i un o hoff ddywediadau ei frawd, 'Reu'.
Eglurodd Iwan: "Mae pawb yn Dyffryn Nantlle yn dweud 'Reu'. Oedd o'n reit ffyni ei fod o wrth ymyl yr un 'Byw i'r funud' achos oeddan ni'n arfer deud 'Reu' o hyd - fel term of endearment."

Y diweddar gerddor ac actor o Ben-y-groes, Dyfrig Evans
"Os oedd rhywun yn dweud 'Helô', fyddan ni'n ateb wrth ddweud 'Reu', neu wrth ateb 'Sut wyt ti?', oeddan ni'n deud, 'Reu'. Oedd o'n un o'r geiriau yna oedd efo degau o ystyron."
Tra bod 'Reu' yn codi gwên roedd gweld 'Byw i'r Funud' wedi ei naddu i'r llawr hefyd yn brofiad emosiynol.
Meddai: "Taid oedd yn deutha ni i 'fyw i'r funud'.
"Oedd Taid, John Evans o Ben-y-groes yn wael ers i ni fod yn blant ac yn gaeth i'w wely.
"Dyna wnaeth ysbrydoli Dyfs i 'sgwennu'r gân - fo oedd bob tro yn deud wrtha ni i 'fyw i'r funud' - i neud y mwya' o bob dim a phob cyfla.
"Pan dwi'n meddwl am y gân dwi'n meddwl am Dyfs a Taid, mae 'na rwbath cysurus iawn i'r peth."
Dweud 'Reu' yn hollti barn
Tybed beth ydy'r ymateb yn lleol i'r llechi newydd sydd wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant y dyffryn?
Cymru Fyw aeth i grwydro stryd fawr Pen-y-groes.
Ar eu ffordd i'r siop oedd John Jones a Llion Williams o Dal-y-sarn pan sylweddolon nhw ar y llechen 'Reu'.
Dywedodd Llion Williams: "Ro'n i'n ei ddeud o dipyn wrth dyfu i fyny yn yr 80au a'r 90au."
Ond dyw'r gair ddim yn rhan o eirfa John Jones: "Dwi ddim yn dweud 'Reu' fy hun, ond o'n i'n arfer clywad pobl yn ei ddweud o'n Halfway Inn yn Tal-y-sarn cyn i'r lle gau," meddai John, sydd yn ei 80au.
"Dwi heb weld y llechi eraill eto, ond basa rhai ohonyn nhw'n gallu bod yn rwbath gan R Williams-Parry basa."

Rhai o drigolion y dyffryn - John Evans a Llion Williams ger llechen 'Reu' ar stryd fawr Pen-y-groes
Yn ôl John, mae pentref Pen-y-groes wedi newid llawer dros y blynyddoedd.
Dywedodd: "Dwin' cofio tri banc, pedwar doctor, a dau ddeintydd yn y lle 'ma. Dim ond un doctor heddiw.
"Mae'r llechi 'ma yn dda i bobl sydd isio gwbod hanas y lle dydi, ond dwi'n ei gofio fo dydw."
'Mae dathlu cymeriadau yr ardal yn beth da'
Mae Wyn o'r Groeslon, Dafydd o Gaernarfon ac Arwyn o Ddinas yn adnabod ei gilydd ers degawdau - ers eu dyddiau'n gweithio'n ffatri Ferodo yng Nghaernarfon.
Bob wythnos fe fydd y tri'n mynd am dro ac am baned i Ben-y-groes.
Dywedodd Wyn sy'n frodor o'r dyffryn: "Dwi'n meddwl fod o'n idea da i ddeud y gwir, achos maen nhw wedi 'neud peth tebyg yn Gaernarfon dydi, ar y ffrynt yn fan'na.
"Mae dathlu cymeriadau yr ardal yn beth da."

Wyn o'r Groeslon, Dafydd o Gaernarfon ac Arwyn o Ddinas ger geiriau R Williams -Parry
Ydy Wyn yn gyfarwydd â'r geiriau sydd wedi eu naddu yn y llechi?
"Mae un yn dweud, 'Daeth Chwydfa'r Gloddfa Glai'.
"R Williams-Parry 'sgwennodd hynny - mae yna res o dai Gloddfa Glai yn Tal-y-sarn."
"Ac ia, da ydi Byw i'r Funud! Mae isio gwneud hynny 'does," ychwanegodd.
Dathlu treftadaeth y dyffryn
Un arall sy'n croesawu'r llechi newydd ydi Ioan Pollard, newyddiadurwr o Ddyffryn Nantlle.
Dywedodd: "Mae yna bethau sydd wedi eu 'sgwennu dwin cofio o 'mhlentyndod, dywediadau a geiriau dwi prin yn eu clywed erbyn hyn."

Yn ôl Ioan Pollard, mae iaith Dyffryn Nantlle "yn unigryw"
"Dwi ddim yn meddwl bod 'na nunlla arall yn y byd sy'n medru honni bod ganddyn nhw'r gair 'Reu' wedi ei naddu i mewn i balmant y stryd fawr - mae'n wych cael geiriau sy'n unigryw i'r dyffryn wedi eu naddu, a dathlu cyfraniad unigolion 'dan ni wedi eu colli yn llawer rhy ifanc fel Dyfrig Evans .
"Cam arall y byddwn i'n hoffi ei weld ydi bod côd QR yn cael ei osod wrth ymyl y dywediadau yma fel bod ymwelwyr yn gallu cael cyfle i weld be ydi tarddiad y geiriau, y caneuon a'r farddoniaeth," meddai.
Gwlad y Rwla yn dal i ysbrydoli
Mae Llio Wyn ac Elin Gruffydd yn gweithio yn hwb cymunedol Yr Orsaf ym Mhen-y-groes, ac mae gweld cyfeiriadau at Wlad y Rwla, sef gwlad ddychmygol yr awdures Angharad Tomos i blant yn dod ag atgofion melys i'r ddwy.

Llio ac Elin ger llechi sy'n dathlu Gwlad y Rwla
Meddai Llio: "Mae'n gyfle da i atgoffa pobl o'r cyfoeth o bobl sy'n byw yn Nyffryn Nantlle.
"Dwi'n dod o Lanllyfni ac fe ges i fy magu ar gyfres Rwdlan gan Angharad Tomos, llyfrau dwi'n eu darllen rŵan i fy mhlant.
"Mae gweld y llechi yma ar y stryd yn atgoffa'r genhedlaeth nesaf bod y dyffryn wedi magu awduron talentog fel Angharad Tomos."
Ychwanegodd Elin: "Mae'n wych gweld y llechi'n dathlu cyfraniad sbectrwm o genedlaethau hefyd - o R Williams-Parry i Sage Todz."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn falch o gefnogi'r cynllun i osod stribedi llechi ym Mhen-y-groes, sydd yn dathlu hunaniaeth leol ac yn atgyfnerthu balchder yn ein treftadaeth lechi unigryw.
"Fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Cymru, mae'r prosiect hwn yn helpu i wneud ein hanes a'n diwylliant yn fwy gweladwy ac ystyrlon i bawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
