Sut mae prisiau tai wedi newid ar draws Cymru?

Mewn rhai ardaloedd mae prisiau tai i brynwyr tro cyntaf yn cyfateb i fwy na saith gwaith incwm cyfartalog aelwydydd
- Cyhoeddwyd
Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi codi i £258,000, yn ôl ffigyrau newydd sy'n awgrymu cynnydd o 4% mewn blwyddyn.
Yn ôl Mynegai Prisiau Tai Cymru, sy'n cael eu casglu gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality, gwelwyd cynnydd mewn prisiau mewn 17 o'r 22 awdurdod lleol rhwng Mehefin 2025 a Mehefin 2026.
Ynys Môn welodd y cynnydd mwyaf, gyda phrisiau tai yn codi 22.2% dros y cyfnod - o £221,804 i £270,967 - tra gwelwyd cynnydd o 16% yn Wrecsam a 14.7% yng Nghaerffili hefyd.
Ond nid darlun tebyg oedd hi ymhobman, gyda Cheredigion yn gweld y gostyngiad mwyaf yn y pris cyfartalog, sef 9.3%, tra gwelwyd gostyngiadau hefyd yn Abertawe, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.
Dywedodd Andy Mottram, Pennaeth Cynnyrch Benthyca Cymdeithas Adeiladu'r Principality, bod y ffigyrau'n dangos marchnad dai fwy prysur nag ar ddechrau'r flwyddyn.
Ychwanegodd fod galw gan brynwyr tro cyntaf a phobl oedd yn symud tŷ wedi helpu cynnal bywiogrwydd y farchnad.
Ond dywedodd hefyd fod fforddiadwyedd yn parhau i fod yn "her sylweddol" i lawer.
'Lefelau cyflog ddim yn codi i'r un graddfa'
Mae Rhys Jones, cyfarwyddwr asiantaeth Eiddo Cyf yng Nghaergybi ar Ynys Môn, yn cytuno ei bod hi'n gyfnod anodd i brynwyr tro cyntaf.
"Yn gyffredinol, mae'r farchnad yn gymharol brysur, yn enwedig yn y sector rhentu," meddai.
"'Dan ni wedi gweld bod y sector werthu hefyd yn symud ymlaen."
Serch hynny, mae'n dweud y gall ambell werthiant am bris sylweddol gael effaith bellgyrhaeddol ar y ffigyrau mewn rhai ardaloedd.
"Mae'r prisiau yn cadw yn eitha' gwastad gyda chynnydd bychan, ond yn gyffredinol ddim i'r un graddau 'dan ni'n eu gweld yn yr adroddiad yma," ychwanegodd.

Mae Rhys Jones yn gyfarwyddwr ar gwmni gwerthu, gosod a rheoli tai ar Ynys Môn
"Beth sy'n gyrru'r galw wastad ydy dymuniad pobl i symud.
"Un ai i symud o fewn yr ynys neu wrth gwrs, mae'r ynys yn boblogaidd i bobl sy'n dymuno symud i mewn iddi hefyd.
"A dwi'n gwybod bod yna ardaloedd penodol lle mae hotspots a lle mae'r prisiau'n uwch."
Mae'n credu y gall datblygiadau niwclear a statws porthladd rydd gael effaith bellach dros y blynyddoedd i ddod, ond nad yw hynny o reidrwydd yn amlygu ei hun eto.
"I brynwyr tro cyntaf mae'n anodd, a mae'n mynd yn anoddach, 'swn i'n dweud.
"Hefo'r prisiau tai yn codi, dydy'r lefelau cyflog ddim i weld yn codi i'r un graddfa.
"Felly mae hynny'n gwasgu gallu pobl leol i gael prynu y tai maen nhw'n dymuno eu cael."
'Y farchnad yn heriol'
Yn ôl ffigyrau'r Principality, mae prisiau tai i brynwyr tro cyntaf mewn rhai ardaloedd yn cyfateb i fwy na saith gwaith incwm cyfartalog aelwydydd.
Ond dywedodd Layla Mangan, arwerthwr tai yn ardal Aberystwyth, ei bod yn "synnu" bod prisiau wedi gostwng gymaint â 9.3% yng Ngheredigion.
"Dydy hynny ddim yn adlewyrchu'r hyn rydyn ni wedi'i weld," meddai.
"Mae'r farchnad yn heriol, ond dydy hi ddim yn teimlo fel bod prisiau wedi disgyn bron i 10%."
Dywedodd ei bod wedi sylwi ar ddiffyg hyder ymhlith prynwyr a gwerthwyr, oedd yn ansicr am effaith pwysau costau byw ar eu cyllid.

Layla Mangan: "Dydy hi ddim yn teimlo fel bod prisiau wedi disgyn bron i 10%"
Mae'r ansicrwydd yn y Dwyrain Canol a'r effaith ar brisiau olew a nwy eisoes wedi arwain at gynnydd yng nghost rhai morgeisi cyfradd sefydlog.
Disgwylir hefyd i Fanc Lloegr godi cyfraddau llog ymhellach yn ystod y misoedd nesaf, gan wneud benthyca'n ddrytach.
Ychwanegodd Andy Mottram o'r Principality: "Os rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn hyd yma, mae'r farchnad wedi dangos gwytnwch rhyfeddol er gwaethaf y pwysau hynny."
Mae hynny, mae'n credu, yn debygol o barhau yn ystod y misoedd nesaf.
"Bydd pwysau yn parhau," meddai, "ond os yw pobl yn poeni, y peth gorau y gallan nhw ei wneud yw siarad â'u benthyciwr neu eu brocer morgeisi er mwyn deall pa opsiynau sydd ar gael iddyn nhw."
Gwerthiant tai Cymru'n cynyddu wrth i brisiau ostwng
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2024
Lle mae'r ardaloedd mwyaf a lleiaf fforddiadwy i brynu tŷ yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.