Sut 'wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol' a gafodd teulu o Ddyffryn Nantlle?

Dan a Sara gyda'u plant Swyn, Guto a Caio
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn wythnos llawn dop o emosiynau a phrofiadau i blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddychwelyd yn ôl i'r ysgol.
Fe holodd Cymru Fyw deulu o Ddyffryn Nantlle - Dan a Sara a'u plant Swyn, Guto a Caio am eu hwythnos, ac am ddychwelyd i drefn ar ôl gwyliau'r haf.
Diwrnod cyntaf Swyn ym mlwyddyn meithrin
Mae hi wedi bod yn wythnos fawr i Swyn sy'n dair blwydd oed.
Dydd Iau oedd ei diwrnod cyntaf yn nosbarth meithrin Ysgol Bro Lleu.
Sut aeth diwrnod cyntaf Swyn yn yr ysgol?
"Wnes i redeg i mewn yn y bore ond ro'n i'n crio ar ddiwedd y clwb brecwast wrth adael Guto, fy mrawd mawr."

Swyn yn ei gwisg ysgol newydd sbon
Bu Guto'n frawd mawr gofalgar ac fe gafodd helpu staff yr ysgol i hebrwng y plant meithrin gan gynnwys ei chwaer i'w dosbarth at Miss Jones.
"Ar ôl cyrraedd y dosbarth wnaeth Guto roi 'hyg' mawr i fi ac ro'n i'n teimlo yn well," meddai Swyn.
Beth mae Swyn wedi mwynhau ei wneud yn ystod ei hwythnos gyntaf yn yr ysgol?
"Canu Adeiladu Tŷ Bach a Dau Gi Bach."
Diwrnod cyntaf Guto ym mlwyddyn pump
Mae Guto yn naw oed ac ym mlwyddyn pump yn Ysgol Bro Lleu.
Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio gweld Guto'n sgwrsio gyda'r cyflwynydd Mari Lovgreen ac yn diolch i'w fam ar ôl derbyn y wobr gyntaf am lefaru yn Eisteddfod yr Urdd 2025.
Sut aeth diwrnod cyntaf Guto ym mlwyddyn pump?
"Ro'n i wrth fy modd yn cael mynd yn ôl i'r ysgol i weld fy ffrindiau ac i chwarae pêl-droed efo nhw.
"Mr Williams ydi fy athro ac fe wnaeth o fy nysgu ym mlwyddyn tri hefyd. Fo ydi un o fy hoff athrawon felly ro'n i'n edrych ymlaen i fynd at athro cyfarwydd."
Beth gafodd Guto i ginio ar ei ddiwrnod cyntaf yn ôl?
"Cyri a reis ac oedd o'n eithaf neis. (Mae'n rhaid i chi gofio mai fi ydy'r plentyn fwya' ffysi erioed yn ôl Mam a Dad.)"
Beth yw hoff beth Guto yn yr ysgol?
"Chwarae pêl-droed hefo fy ffrindiau a gwneud chwilair."

Guto yn edrych yn smart yn ei wisg ysgol
Mae dychwelyd yn ôl i'r ysgol yn gallu bod yn anodd ar ôl wythnosau hir o wyliau haf. Ydy Guto wedi gweld unrhyw beth yn anodd yr wythnos yma?
"Gorfod deffro'n fuan ar ôl cael chwech wythnos o ddeffro'n hwyrach!"
Beth yw cyngor Guto i blant eraill sy'n setlo yn ôl yn yr ysgol?
"Mae'n bwysig bod yn garedig hefo pawb yn enwedig plant sydd ar ben eu hunain.
"Mae'n bwysig i frodyr a chwiorydd mawr helpu eu brodyr a'u chwiorydd bach i setlo, ac mae'n bwysig mwynhau bob eiliad o'r ysgol hefo ffrindiau."
Diwrnod cyntaf Caio yn yr ysgol uwchradd
Roedd Caio sy'n 11 mlwydd oed yn cychwyn yn yr ysgol uwchradd am y tro cyntaf yr wythnos yma. Mae'n ddisgybl blwyddyn saith yn Ysgol Dyffryn Nantlle.
Sut oedd Caio'n teimlo ar gychwyn ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd?
"Ro'n i'n edrych ymlaen i gychwyn ac wedi cychwyn chwarter awr yn gynt o'r tŷ gan fy 'mod i ar binnau isio mynd. Do'n i ddim yn nerfus o gwbl."

Caio ben bore cyn cychwyn ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd
Sut aeth ei ddiwrnod cyntaf?
"Ges i lawer iawn o athrawon newydd a phawb yn glên iawn.
"Ges i pizza, chips a muffin siocled i ginio ac oedd o'n lyfli.
"Fy hoff beth oedd y wers fathemateg a Saesneg... a'r cinio, ond roedd y prawf ges i yn y wers Gymraeg ychydig yn anodd."
Mae Caio'n edrych ymlaen i ymlacio dros y penwythnos cyn wythnos lawn yn ei ysgol newydd yr wythnos nesaf.
Profiadau Dan a Sara
Mae tymor newydd yn yr ysgol yn dod â'i heriau i bob teulu. Ac mae rhieni Swyn, Guto a Caio sef Dan a Sara'n gyfarwydd â'r heriau all godi - fel rhieni ac fel dau sy'n gweithio ym myd addysg.
Yma mae Sara sy'n athrawes hanes a drama'n Ysgol Gyfun Llangefni, a Daniel sy'n Arweinydd Lles a Chynhwysiad yn Ysgol y Moelwyn yn rhannu eu profiadau a'u cyngor:

Daniel a Sara gyda'u plant yn Uwchmynydd
'Paratowch y noson gynt'
"Un o'r pethau sy'n gweithio i ni ydi paratoi bob dim y noson cynt - mae hynny'n hanfodol efo tri o blant.
"Dillad allan yn barod i bawb gan gynnwys cotiau, esgidiau a bagiau a pharatoi be' 'dan ni'n allu o focs bwyd Swyn. Mae hynny wedi helpu yr wythnos yma wrth gael pawb yn ôl i drefn."
"'Da ni wedi bod yn sôn am drefn y dydd yn yr ysgol uwchradd hefo Caio ers misoedd bellach er mwyn galluogi iddo fo gyfarwyddo'n handi (gobeithio) ym mis Medi.
"Rydan ni hefyd wedi bod yn mynd â Swyn i iard yr ysgol gynradd wrth 'nôl yr hogia' dros y flwyddyn ddiwetha'. Ma' hynny bendant wedi helpu Swyn i ddod i adnabod trefn pethau'n yr ysgol."

Guto, Swyn a Caio ar eu diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol
'Mae pethau'n gallu bod yn anodd iawn yn y bore'
"'Dan ni'n ffodus iawn yn tŷ ni bod y tri yn hoff iawn o'u cwsg ac felly does dim opsiwn ond mynd i'r gwely ar amser a heb dechnoleg!
"Ond, mae'r ffaith eu bod nhw mor hoff o'u cwsg yn gwneud pethau'n anodd iawn yn y bore.
"'Dan ni 'di gorfod taflu dŵr ar yr hogia sawl gwaith yn y gorffennol (dim ond y mymryn lleia peidiwch â phoeni), a llynadd (bob bore jysd), oedd rhaid cario Swyn i'r toiled yn y bore a'i newid hi tra roedd hi dal yn cysgu.

"Rydan ni hefyd wedi gorfod rhoi cerddoriaeth heavy metal uchel ymlaen sawl gwaith i ddeffro'r hogia' hefyd.
"Felly, roeddan ni'n gwybod y byddai deffro'n fuan yn ôl yn her. Er mwyn paratoi nhw at eu hwythnos gyntaf yn ôl fe wnaethon ni eu deffro nhw'n gynnar am ychydig ddyddiau wythnos olaf y gwyliau, ac mi weithiodd hynny.
"Ond, mi rydan ni'n dal ein gwynt. Roedd yna gyffro cychwyn ysgolion newydd yn ein tŷ ni'r wythnos yma felly fe gawn ni weld os fydd pawb yn codi yr un fath yr wythnos nesa'...!"
Pryderon rhieni a chefnogi eich plant
"Mae ambell her ar ddechrau tymor fel newid dosbarth, peidio bod mewn dosbarthiadau gyda ffrindiau a gorbryder.
"I ni fel rhieni mae'n bwysig ein bod ni'n gallu camu 'nol a gadael i'n plant brofi profiadau bywyd heb ymyrryd yn ormodol.
"'Dan ni'n credu fod hyn yn holl bwysig er mwyn creu pobl ifanc gwydn sydd gyda'r sgiliau i ymdopi gyda heriau bywyd yn y dyfodol.
"Yn aml mae'r temtasiwn fel rhiant i drwsio problem i'ch plentyn yn hytrach na gwrando, rhoi cyngor, eu dysgu a rhoi'r sgiliau iddyn nhw ymdopi gyda bywyd.
"Os ydy eich plentyn yn profi heriau sylweddol cysylltwch gyda'r ysgol i drafod cefnogaeth.

Dydi Swyn, Guto na Caio ddim yn or hoff o godi yn y bore
"Mae holi eich plant am sut ddiwrnod gawson nhw yn yr ysgol a chael atebion call hefyd yn gallu bod yn heriol.
"Mae sgwrs yn tueddu i ddigwydd yn ein tŷ ni rownd y bwrdd bwyd gyda'r nos neu wrth fynd â'r ci am dro.
"Mae angen cofio ein bod ni fel oedolion hefyd yn dod adra i switsio off o'r gwaith nid i drafod gwaith adra', felly mae'n ddealladwy os nad ydyn nhw am drafod bob dim."
'Gair bach' gan Sara a Dan i blant a phobl ifanc
"Cofiwch ar ddechrau blwyddyn newydd fod y staff yn edrych 'mlaen i'ch croesawu.
"Dewch i gael sgwrs, dewch i rannu'ch straeon o'r gwyliau haf ac os oes unrhyw heriau neu ansicrwydd ar ddechrau'r tymor newydd dewch i ofyn am gymorth.
"Mae pawb yma i helpu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018

- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
