Heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl gêm bêl-droed yng Ngwynedd

Roedd y gêm bêl-droed yn Nhalysarn nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddigwyddiad honedig yn dilyn gêm bêl-droed yng Ngwynedd.
Cafodd y gêm rhwng Nantlle Vale a Thalysarn Celts ei chwarae ar faes Gloddfa Glai yn Nhalysarn nos Fawrth.
Mae'r ddau glwb wedi cyhoeddi datganiadau ar wahân ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dweud eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad a'u bod yn condemnio trais o unrhyw fath.
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu â'r llu.
'Ymosodiad'
Dywedodd Nantlle Vale mai "siomedig iawn oedd gweld bod dau chwaraewr CPD Nantlle Vale wedi cael eu hanafu ar ôl y gêm drwy ymosodiad".
Dywedodd y clwb fod y digwyddiad honedig wedi "tynnu sylw oddi ar yr achlysur, tydi o ddim yn dderbyniol i unrhyw chwaraewr droi fyny i gêm i chwarae pêl-droed a chael eu hanafu".
"Tydi Clwb pêl-droed Nantlle Vale ddim yn esgusodi'r math yma o ymddygiad.
"Nid oes gan y clwb unrhyw sylwadau pellach gan fod y mater yn nwylo'r heddlu."
Dywedodd Talysarn Celts eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad mewn tafarn leol" yn dilyn y gêm.
"Rydym ar ddeall fod y mater wedi ei gyfeirio i'r heddlu. Mae'r clwb yn condemnio pob math o drais ac yn trin y mater hwn gyda'r difrifoldeb mwyaf.
"Er na ddigwyddodd y digwyddiad hwn ar dir y clwb, ymwneud ag aelodau'r clwb, nac o dan oruchwyliaeth y clwb, rydym yn cydweithio'n llawn a CPD Nantlle Vale â'r awdurdodau perthnasol ac yn cefnogi unrhyw gamau priodol.
"Nid oes lle i ymddygiad fel hyn yn ein cymdeithas. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad a'n cefnogaeth lawn i'r sawl fu yn destun i'r digwyddiad."
Fe gyhoeddodd CPD Nantlle Vale ddatganiad pellach yn diolch i bwyllgor Talysarn Celts am gysylltu â nhw "ac am y gefnogaeth i'r chwaraewyr".
"Mae un peth yn glir, ein bod yn sefyll gyda'n gilydd ac nid ydym yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad treisgar gan unrhyw gefnogwr boed yn ystod y gêm neu ar ôl oddi ar y cae," meddai eu datganiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.