3 Llun Llio Maddocks o faes y 'Steddfod cyn i'r drysau agor

- Cyhoeddwyd
Wrth i filoedd baratoi i ymweld â maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn 2026, mae 'na gannoedd wedi bod yno ers wythnosau yn paratoi ar eu cyfer.
Yn eu mysg mae Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau y mudiad, ac mae hi wedi cadw cofnod o rai o'r pethau sy'n digwydd cyn i'r drysau agor.
Dysgu Cymraeg ar y maes

Wrth i ni adeiladu'r maes, mae nifer o'n contractwyr ni'n dod yn gyfarwydd â'r Gymraeg, ac mae pawb yn dysgu 'Gair y Dydd'. Wrth gyrraedd i osod pebyll, ffensys a dodrefn, mae pawb yn dysgu geiriau fel 'bore da', 'heulwen', 'trydan' neu 'ystlumod'.
Mae cannoedd o bobl yn dod i'r maes yn y pedair wythnos cyn i ni agor, i wneud yn siŵr bod y cae yn ddiogel - ac yn brydferth. A phawb yn cael yr un croeso cynnes drwy'r Gymraeg. Ac erbyn heddiw, mae nifer o'n criw safle wedi ail-ddechrau dysgu Cymraeg oherwydd eu profiadau yn adeiladu maes Eisteddfod yr Urdd.
Un o'n hoff bethau i am Eisteddfod yr Urdd ydi mai dyma'r tro cyntaf i nifer o'n cystadleuwyr gael profi'r iaith yn fyw.
Eleni, bydd yr Eisteddfod yn dechrau gyda Diwrnod y Dysgwyr - diwrnod sydd mor bwysig i ni, wrth i ni groesawu cenhedlaeth o siaradwyr newydd i ymdrochi yn y celfyddydau, a dathlu y Gymraeg, waeth beth yw ei lefel.
Mae Eisteddfod yr Urdd i bawb, a dyma'r lle i brofi bod yr iaith hefyd yn perthyn i bawb.
Canlyniadau, canlyniadau, canlyniadau!

Heb os, fy hoff le ar y maes yw'r Llwyfan Canlyniadau ar ddiwedd diwrnod hir o gystadlu.
Mae'r cae yn llenwi gyda miloedd o blant a chefnogwyr yn disgwyl canlyniadau olaf y dydd, ar ôl blwyddyn o ymarfer a dysgu darnau. Mae'r awyrgylch yno yn gwbl unigryw.
Ers pum mlynedd nawr, mae Eisteddfod yr Urdd wedi cynnig llwyfan i bawb, ac mae pob plentyn sy'n cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael camu ar brif lwyfan y Pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd. Mae'r profiad o gystadlu wedi newid gymaint yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae pob perfformiad yn haeddu llwyfan a chlod.
Dwi wrth fy modd yn gwylio'r cystadlu, ac mae'n destun balchder mawr i ni yn yr Urdd bod cymaint yn cystadlu efo ni bob blwyddyn. Ac oherwydd y niferoedd uchel, 'da ni wedi ymestyn yr ŵyl eleni!
Mae'r Urdd yn golygu gymaint i mi, ac i bob un o'n haelodau, a dwi'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod saith diwrnod gyntaf wrth i ni gynnal cystadlaethau newydd sbon ar y maes.
Ein gwirfoddolwyr annwyl

Nos Fercher - dridiau cyn agor yr ŵyl ar 23 Mai - daeth Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn i'r maes am y tro cyntaf, i weld yr hyn maen nhw wedi ein helpu i drefnu. Dwi'n gobeithio bod y maes wedi eu plesio, ac roedd o'n hyfryd eu gweld nhw i gyd yn gwenu wrth grwydro'r safle.
Dyma nhw, efo staff yr Urdd, o flaen yr Adlen, lle fydd Gŵyl Triban yn cael ei chynnal ar y 23-24 Mai. A peidiwch â phoeni, mae'r heulwen ar y ffordd!
Mae ein gwirfoddolwyr yn Ynys Môn wedi bod yn anhygoel, o dan arweiniad y Cadeirydd, Manon Wyn Williams. Maen nhw wedi bod yn gefn i ni fel staff ers dros dair blynedd, yn codi arian ac yn sicrhau fod pob plentyn ar yr ynys, ac yng Nghymru gyfan yn cael y cyfle i fwynhau'r Eisteddfod.
Mae'r Urdd yn gwbl ddibynnol ar ein gwirfoddolwyr, a fedra i ddim diolch digon i bob un sy'n ein helpu i gynnal yr ŵyl.
Mi fydd pawb yn cael croeso cynnes iawn yn Ynys Môn, ac mae'r ynys werth ei gweld! Mae pob stryd yn faneri coch, gwyn a gwyrdd, ac mae Mistar Urdd i'w weld ar bob cornel.
Da chi, ewch am dro o amgylch yr ynys i weld y pentrefi a'r cymunedau sydd wedi eu haddurno yn arbennig i groesawu chi i'r ynys.
A welwn ni chi ar y maes!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai

- Cyhoeddwyd4 Medi 2025

- Cyhoeddwyd17 Ebrill
