Plentyn 3 oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr yng Nghaerfyrddin

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Brynmeurig yng Nghaerfyrddin ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn tair oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr llawr cyntaf yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad gan y gwasanaeth ambiwlans tua 11:40 ddydd Llun.
Dywedon nhw fod plentyn tair oed wedi disgyn o ffenestr llawr cyntaf eiddo yn ardal Brynmeurig y dref.
Cadarnhaodd y llu y cafodd y plentyn ei gludo i'r ysbyty, a'i fod yn dal yno ddydd Gwener.