Dyn 18 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori

A468 yng NghaerffiliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A468 nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn sir Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A468 rhwng cylchfannau Pontygwindy a Sant Cennydd yng Nghaerffili tua 23:35 nos Iau.

Dywedodd Heddlu Gwent y cafodd gyrrwr y car ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideos dashcam neu gamerâu cylch gyfyng perthnasol i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig