Criw dawns y blodau Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llun

Criw dawns y blodau 1976
- Cyhoeddwyd
Fis Mai 1976 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.
Hanner canrif yn ddiweddarach, ac wrth i'r ynys baratoi at groesawu'r Eisteddfod i Fôn unwaith eto, mae criw dawns y blodau'r flwyddyn honno wedi dod at ei gilydd i ail-greu llun arbennig.
Robin Williams o Borthaethwy sy'n rhannu'r hanes.
Clirio'r tŷ a ffeindio'r llun
Tra'n clirio hen dŷ fy nhad, fe ddois o hyd i hen lun nad oedd gen i gof o'i weld ers llawer o flynyddoedd.
Fe arweiniodd y darganfyddiad yma i 20 ohonom, yn gyn-ddisgyblion Ysgol y Borth, i ymgynnull bnawn Sul, 3 Mai i ail-greu'r llun, hanner canrif wedi i'r gwreiddiol gael ei dynnu.
Un noson rhwng y Nadolig 2024 a'r flwyddyn newydd, daeth criw bach ohonom at ein gilydd fel sy'n arferiad bellach am beint a sgwrs.
Y Liverpool Arms ym Mhorthaethwy oedd y lleoliad ar yr achlysur hwnnw. Fel aeth y noson yn ei blaen, gwnaeth y sgwrs droi at yr hen ddyddiau ac am ein hatgofion o dyfu i fyny fel criw yn y Borth.
Tra'n sgwrsio, fe gofiais yn sydyn am y llun oeddwn i wedi dod ar ei draws wrth glirio tŷ Dad.
Llun oedd hwn oedd wedi cael ei gymryd ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yma ym Mhorthaethwy yn 1976.
Roedd criw ohonom o Ysgol Y Borth wedi cael ein dewis i berfformio Dawns y Blodau yn seremonïau'r cadeirio a'r coroni ac yn amlwg roedd rhywun - Alwyn Owens 'dan ni'n credu - wedi cofnodi'r achlysur drwy dynnu llun o griw y ddawns ar faes yr Eisteddfod hefo Pont y Borth yn y cefndir.
Pan ddangosais y llun i'r criw oedd hefo fi y noson honno, roedd pawb mewn dipyn o sioc a'r rhan fwyaf heb gof o weld y llun o'r blaen. Aeth y sgwrs yn ei blaen am y llun a phwy oedd pwy a beth oedd hanes pawb erbyn hynny.
Ail-greu'r llun
Yn sydyn reit, fe ddywedodd rhywun, (a tydan ni ddim yn cofio pwy, gan fod peint wedi mynd yn ddwy, neu dair neu bedair erbyn hynny), "Fasa'n hwyl trio ail greu hwnna".
Mae gen i gof o ddweud fy mod i wedi bod yn meddwl ar hyd yr un llinellau, ac os oeddan ni am wneud hynny y dylen ni ddisgwyl tan fis Mai 2026, gan y byddai hi'n hanner can mlynedd ers i'r llun gwreiddiol gael ei dynnu.

Cefn (o'r chwith) Wayne Lock, Robin Williams, Gwyn Morgan, Arwel Roberts, Huw Gwilym, Alun Griffith, Robat Tomos, Michael Randal, Aled Davies, Keith Tomos.
Canol (o'r chwith): Angharad Harris, Mair Stead, Gwen Davies, Rhian Hughes, Wendy Williams, Bethan Tomos, Eleri Jones, Nia Lloyd Jones.
Blaen (o'r chwith): Marc Bronley, Magi Tomos
Rywsut neu gilydd fe gefais y dasg o gael pawb at ei gilydd a dyma fynd ati i drio ffeindio pawb drwy'r cyfryngau cymdeithasol, a thrwy gyn-ffrindiau ysgol yr oeddwn dal mewn cysylltiad â nhw.
Yn anffodus roeddwn yn ymwybodol erbyn hynny fod un o'r merched yn y llun, Siân Hughes, ddim hefo ni bellach.
O fewn dim amser roeddwn un ffordd neu'r llall wedi gwneud cysylltiad hefo pawb heblaw un, ac fe wnes i fynd ati i wneud trefniadau ar gyfer yr aduniad ar chael tynnu'r llun i gofnodi'r achlysur.
Yn anffodus, yr un person nad oeddwn i wedi cael gafael arno fo oedd Tegid Williams o Lansadwrn.
Roeddwn i wedi cyrraedd y pwynt lle roeddwn am geisio cysylltu â fo drwy ei chwaer, ond yn drist iawn cyn i mi gael cyfle i wneud hynny daeth y newyddion ym mis Hydref 2025 fod Tegid wedi marw mewn damwain car.
Yn y pen draw, 20 o'r 27 oedd yn y llun gwreiddiol ddaeth at ein gilydd ar y prynhawn dydd Sul hwnnw i ail-greu y llun.
Er fod llawer ohonom dal yn byw'n lleol, roedd nifer wedi teithio cryn bellter. Roedd un wedi teithio yr holl ffordd o Northampton ac ambell un wedi teithio o dde Cymru.
Ar ôl tynnu'r llun cawsom ddathliad bach yn y Clwb Criced ym Mhorthaethwy.
Gofynnodd rhywun wrtha i be' oedd pwrpas cael pawb at ei gilydd a be' oedda ni am neud hefo'r llun?
Mewn gwirionedd, ond 'neud o am dipyn o hwyl wnes i, a dwi'n falch o ddeud fod pawb wedi gwir fwynhau cael dod ynghyd, dal i fyny hefo'n gilydd a hel atgofion ar ôl nifer o flynyddoedd.
Mae cynlluniau am gael tynnu'r llun nesaf i ddathlu'r can mlwyddiant on hold ar hyn o bryd!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd20 Chwefror
