Cyfarwyddwr o Fôn yn derbyn enwebiad Primetime Emmy

Ceri Isfryn, sy'n wreiddiol o Landegfan ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth ymosodiadau terfysgol Oklahoma City ar 19 Ebrill, 1995, achosi ymdeimlad o sioc ac arswyd ledled y byd. Lladdwyd 168 o bobl ac anafwyd 684.
Cafodd Timothy McVeigh ei ddyfarnu'n euog am y weithred, gyda gŵr o'r enw Terry Nichols yn euog o'i gynorthwyo. Dienyddwyd McVeigh yn 2001, ac fe gafodd Nichols ddedfryd o garchar am weddill ei oes.
Mae rhaglen ddogfen newydd, Oklahoma City Bombing: One Day in America, sy'n ymddangos ar Disney+ ac Hulu'n olrhain hanes yr hyn ddigwyddodd, drwy gyfweld ag unigolion oedd yno ar y diwrnod erchyll hwnnw.
Mae'r gyfres yn cynnwys tair pennod, ac mae wedi ei henwebu ar gyfer gwobr yn y Primetime Emmy Awards, yn y categori Outstanding Research: Documentary.
Rhywun a oedd yn gweithio ar y gyfres oedd y cyfarwyddwr Ceri Isfryn. Siaradodd Ceri ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener, 22 Mai.
"Roedd hi'n stori yr oedden ni'n ymwybodol ohoni o'r blaen, ond dwi ddim yn credu mod i cweit wedi deall pa mor fawr oedd y digwyddiad, a'r ymosodiad cyntaf o'i fath yn America ar y pryd.
"Heddiw, 'dan ni wrth gwrs, yn drist iawn, yn fwy ymwybodol o'r math yma o ymosodiad, ond ar y pryd roedd y sioc yn enfawr ac yn anodd ei gredu."

Y difrod i adeiladau'r Llywodraeth yn Oklahoma City wedi'r ffrwydriad
Roedd y broses o weithio ar y rhaglen yn un gymharol hir, fel esbonia Ceri:
"Nes i weithio ar y rhaglen am dros flwyddyn a chael 750 o oriau archif - es i drwy hwnnw'n ceisio llunio'r gyfres.
"Roedd 'na dîm o'no ni'n mynd allan, nôl a mlaen, i Oklahoma dros gyfnod o flwyddyn, ac mae'r archif yn destament i'r tîm lleol a gasglodd yr holl ddeunydd a deud y gwir."

Ceri'n siarad â'r Arlywydd Bill Clinton, sy'n ymddangos ar y rhaglen ddogfen
Mae Ceri wedi gweithio ar nifer o wahanol destunau yn ystod ei gyrfa, ar bynciau sy'n gallu bod yn hynod o heriol.
"Dwi dros y blynyddoedd wedi delio gyda lot o raglenni difrifol, a dwi'n credu bod hi'n bwysig gallu creu dogfennau fel 'na sy'n anodd eu gwylio, ond sy'n bwysig ar yr un pryd.
"Dwi wrth fy modd rhoi cyfle i rai pobl sydd heb siarad o'r blaen, ac sy'n teimlo eu bod nhw eisiau siarad, maen fraint gallu rhannu ei stori nhw."
Gan fod dros 30 mlynedd wedi pasio ers yr ymosodiadau yn Oklahoma City, roedd Ceri'n gallu siarad gyda phobl a oedd yn rhannu eu profiadau am y tro cyntaf.
"Roedd lot wedi siarad am y tro cyntaf ar y rhaglen sydd bellach yn neiniau neu'n deidiau, a bod hyn wedi gwneud iddyn nhw feddwl mai hwn oedd yr amser i ddweud eu straeon.
"Dydy hynny ddim yn beth hawdd ond mi roedden nhw'i gyd ar ôl gwylio'r rhaglen yn falch o fod wedi gwneud, a'n sôn am y pŵer o fod yn gallu siarad a rhannu stori."

Bill Clinton oedd yr Arlywydd pan ddigwyddodd y drychineb yn Oklahoma City
Bydd Ceri'n mynd i'r gwobrau Primetime Emmy Awards yn Efrog Newydd ar 31 Mai - seremoni fydd yn llawn enwogion a digon o glamour.
"Maen fraint enfawr, fe ges i dipyn o sioc yn cael yr enwebiad!
"Maen fraint gallu mynd a chynrychioli'r tîm wythnos nesa, dwi dal heb ffeindio ffrog!"
Hefyd o dddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Mai

- Cyhoeddwyd23 Chwefror

- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
