Arestio dyn wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i'r heddlu stopio car a oedd yn teithio ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad nos Fercher.
Cyn i'r car ymuno â'r A55, cafodd beiciwr ei anafu mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi, lle'r oedd difrod i nifer o geir a oedd wedi'u parcio ar y ffordd.
Dywedodd y llu eu bod wedi llwyddo i ddod a'r car i stop tra'n gyrru ar ochr cywir yr A55 ar Ynys Môn.
Doedd dim gwrthdrawiad ar yr A55 o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae'r ffordd bellach wedi ailagor.
Ychwanegodd y llu eu bod yn cydnabod y gall digwyddiad o'r fath godi pryder yn sgil y gwrthdrawiad ar yr A66 ger Middlesbrough - lle bu farw saith person, gan gynnwys dau heddwas, wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.