Galw am 'ymyrraeth frys' mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd

Uned iechyd meddwl gymunedol Nant-y-Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan wedi bod yn destun cwynion ers nifer o flynyddoedd, yn ôl Darren Millar AS

GanDafydd Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae galwadau am ymyrraeth frys mewn uned iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, ar ôl pryderon am y gwasanaeth yno.

Mae teulu claf yn uned iechyd meddwl gymunedol Nant-y-Glyn ym Mae Colwyn yn dweud nad yw wedi gallu gwella oherwydd bod newid parhaol mewn staff wedi golygu diffyg cysondeb yn ei ofal.

Mae'r ganolfan wedi bod yn destun cwynion ers nifer o flynyddoedd yn ôl un gwleidydd sy'n dweud ei fod wedi codi'r mater eto gydag arolygwyr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dweud eu bod yn cymryd pryderon gan deuluoedd o ddifrif.

Ryan Shields
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ryan Shields mae oedi gydag apwyntiadau, cyfathrebu gwael a diffyg cysondeb staff yn y ganolfan, yn golygu nad yw wedi gallu gwella

Mae Ryan Shields wedi bod yn derbyn triniaeth iechyd meddwl cymunedol ers iddo fod yn 19 oed ac mae'n dweud ei fod wedi bod yn mynd i Nant-y-Glyn am y rhan fwyaf o'r amser hwnnw, ond nad yw ei gyflwr wedi gwella.

"Mae'r anobaith yn wirioneddol dorcalonnus i mi. Dydy o ddim yn teimlo fel ei fod byth yn mynd i wella," meddai'r dyn 27 oed.

Dywed Mr Shields fod oedi gydag apwyntiadau, cyfathrebu gwael a lefelau cadw staff yn y ganolfan yn golygu nad yw wedi gallu gwella.

"Mae yna lawer o gydlynwyr gofal wedi dod, maen nhw'n barod ac mae newid cadarnhaol yn eich bywyd ac rydych chi'n meddwl: 'Mae hyn yn wych, mae'r person hwn yn seren, maen nhw'n anhygoel'.

"Ac yna dros y misoedd rydych chi'n eu gweld nhw'n edwino nes nad oes llawer ar ôl.

"Yna maen nhw'n mynd ac unwaith maen nhw'n gadael, mae'r claf yn cael ei adael mewn limbo."

Ryan a'i fam, Aly
Disgrifiad o’r llun,

"Dydy o ddim wedi medru cael bywyd," meddai Aly Shields am ei mab

Mae'r sefyllfa wedi cael effaith "ddinistriol" ar Ryan a'i deulu, yn ôl ei fam Aly.

"Mae cefnogaeth heb driniaeth yn golygu bod y claf yn y pen draw mewn cylch cyson o salwch yn hytrach nag adferiad.

"Dydy o ddim wedi medru cael bywyd," meddai Ms Shields.

"Dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw ddilyniant o ran staff yn aros yn eu swyddi.

"Dwi wedi gweld staff yn mynd o fod yn llon a brwd wrth ddechrau'r swydd, i newid yn sydyn. Mae bron fel bod cwmwl yn dod i lawr arnyn nhw.

"Yn amlwg dydw i ddim yn gwybod am eu profiad yn Nant-y-Glyn, ond be' dwi'n sylwi ydy bod y bobl yma'n newid. Dydy o ddim yn dda iddyn nhw a dydy o ddim yn dda i gleifion."

Uned iechyd meddwl gymunedol Nant-y-Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Shields wedi bod yn derbyn triniaeth iechyd meddwl cymunedol ers blynyddoedd, meddai

Yn 2024, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw yn Nant-y-Glyn a chanfod bod yr uned yn cael ei "harwain yn dda".

Roedd problemau wedi'u hadrodd o ran cysylltu â'r ganolfan dros y ffôn, ond roedd cleifion yn "fodlon" gyda'r gofal.

"Roedd tystiolaeth o waith tîm cydlynol a dywedodd staff, yn gyffredinol, wrthym eu bod yn hapus yn eu rolau," yn ôl adroddiad gan AGIC.

Aly Shields
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa wedi cael effaith "ddinistriol" ar Ryan a'i deulu, yn ôl Aly

Mae'r corff sy'n cynrychioli cleifion, Llais, yn dweud bod problemau honedig yn Nant-y-Glyn ers amser maith.

"Rwy'n meddwl bod gan bob uned y materion hyn i raddau, ond mae'n tueddu i fynd a dod," meddai Geoff Ryall-Harvey o Llais.

"Maen nhw'n cael staff newydd - mae'r staff hynny'n aros, maen nhw'n cael problemau dros dro gyda chymorth gweinyddol, sy'n effeithio ar ateb galwadau ffôn er enghraifft."

"Ond Nant-y-Glyn ydy'r un lle mae'n gyson. Mae wedi bod yno ers amser maith ac mae'n ymddangos yn anodd iawn i'w ddatrys."

Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r rhain yn honiadau difrifol ac mae angen ymchwiliad annibynnol ar frys," medd Darren Millar AS

Mae Aelod o'r Senedd yn etholaeth Clwyd, Darren Millar, yn dweud bod yr uned wedi bod yn destun nifer o gwynion gan ei etholwyr ers nifer o flynyddoedd a bod y bwrdd iechyd wedi "methu" mynd i'r afael â'r sefyllfa.

"Mae'r rhain yn honiadau difrifol ac mae angen ymchwiliad annibynnol ar frys," meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mr Millar.

"Mi ddylai'r gwaith hwnnw gynnwys sylwadau staff presennol, staff oedd yn arfer gweithio yno, cleifion a'u teuluoedd.

"Dwi wedi anfon y mater at AGIG, achos mae angen i hyn gael ei sortio."

'Codi pryderon yn ddiogel'

Mae Aly Shields yn dweud iddi ofyn am ymyrraeth gan uwch swyddogion y bwrdd iechyd yn achos ei mab ac mewn ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C, mae'r bwrdd iechyd wedi cynnig cyfarfod â Mr Shields a'i deulu.

Dywedodd Teresa Owen, cyfarwyddwr gweithredol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddor iechyd BIPBC, maent yn "cymryd y materion a godwyd gan gleifion a'u teuluoedd o ddifrif".

"Fel bwrdd iechyd, ein prif flaenoriaeth yw darparu'r gofal cywir ar yr amser cywir ac rydym yn llwyr ddeall gwerth parhad gofal, i gleifion sy'n defnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl.

"Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo y gallant godi pryderon yn ddiogel.

"Rydym yn annog ein cydweithwyr i godi llais ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw bryderon a godir yn cael eu hystyried yn briodol, yn wrthrychol ac yn gymesur," meddai Ms Owen ar ran BIPBC.

Arwydd

Dywedodd AGIC eu bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch Nant-y-Glyn ond nad oeddent am wneud sylw ar achosion unigol.

"Rydym yn cymryd unrhyw bryderon am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd o ddifrif," meddai'r arolygiaeth.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r gwasanaeth trwy ein gweithgareddau sicrwydd a byddwn yn cymryd unrhyw gamau priodol sydd eu hangen i helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol."

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru "ymyrraeth dan gyfarwyddyd gweinidogol" yn y bwrdd iechyd.

Mewn ymateb i bryderon Mr Shields, dywedodd llefarydd eu bod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gyda chleifion a'u teuluoedd i ddeall eu hanghenion a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.