Regata Cei Newydd yn 'gyfle i ddathlu ein treftadaeth'

Cei Newydd dan ei sang yn Regata 2026Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cei Newydd dan ei sang yn Regata 2026

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae regata Cei Newydd wedi bod yn rhan o fywyd y dre ers y 19eg ganrif ac yn dathlu carreg filltir arbennig eleni gan ei bod yn cael ei chynnal am y 150fed tro.

Mae'r regata'n cael ei chynnal rhwng 18-20 o Awst a bu Huw Williams, sy'n aelod o Fwrdd Goruchwylio Cei Newydd ac yn un o'r rhai sy'n trefnu'r digwyddiad ym Mae Ceredigion, yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Dywedodd: "Mae lot yn mynd 'mlaen yng Nghei Newydd dros y tri diwrnod. Bydd cychod yn hwylio, bydd 'na nofio, rhwyfo, a phob math o hwyl a sbri i'r teulu gyfan.

Regata Cei Newydd 2026Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Uchafbwynt

"Mae'n ddigwyddiad mawr yng Nghei Newydd. Mae mis Awst wastad yn fishi yma ond mae wythnos y regata bron pob blwyddyn yr wythnos fwyaf prysur ni'n cael fan hyn.

"Mae cychod hwylio yn dod ar draws Bae Ceredigion ac mae pobl yn dod i ymweld ac i gymryd rhan yn y nofio a'r rhwyfo a phob math o gystadlaethau sydd 'da ni."

Regata Cei Newydd 2026Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Gyda'r dref yn fwrlwm yn ystod y regata, mae Huw yn pwysleisio pwysigrwydd yr ŵyl fel dathliad o dreftadaeth Cei Newydd: "Dechreuodd y regata yn 1829 a hwylio oedd y canolbwynt i ddechrau.

"Ond fe ddatblygodd e o fan'na i bob math o gystadlaethau fel rhwyfo ac yn 1886 roedd cystadleuaeth nofio a dala hwyaid. Mae pethau wedi datblygu tipyn bach ers hynny ond mae'r hwyl a sbri wedi parhau.

Llun gan Phil Davies o'i dad-cu, James Davies (y rhwyfwr ar y dde yn y llun) yn arwain cwch rhwyfo Rhydlewis i fuddugoliaeth yn Regata Cei Newydd 1912 Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun gan Phil Davies o'i dad-cu, James Davies (y rhwyfwr ar y dde) yn arwain cwch rhwyfo Rhydlewis i fuddugoliaeth yn Regata Cei Newydd 1912

Dathliad

"Ac wrth gwrs hefyd mae hwn yn ddathliad o'n treftadaeth ni. Cafodd Cei Newydd ei adeiladu oherwydd y môr a'r cychod a'r harbwr. Ac felly mae'n gyfle i ddathlu hynny.

"Mae'n hyfryd i weld y cychod yn rasio o lefydd fel Abergwaun, Aberteifi, Aberystwyth, Abersoch - fyddan nhw gyd yn cyrraedd. A wedyn bydd tri diwrnod o rasio fan hyn yn y bae yng Nghei Newydd."

Yn ogystal â rasio, mae cystadleuthau i'r ymwelwyr gan gynnwys cystadleuaeth adeiladu cestyll tywod, helfa drysor, nofio, caiacio a phadlfyrddio.

Regata Cei NewyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Ar ddiwedd tridiau prysur, bydd y trefnwyr yn cychwyn paratoi ar gyfer regata 2027: "Mae tipyn o waith trefnu," eglurai Huw. "Ac erbyn diwedd wythnos hyn byddwn ni'n dechrau y gwaith o drefnu blwyddyn nesaf.

"Mae lot o bobl ynghlwm â fe. Ac hefyd mae'n rhaid diolch i'r holl fusnesau yng Nghei Newydd sydd yn cefnogi ac yn noddi'r digwyddiad hefyd.

"Mae'n bwysig iawn. Mae'n denu lot o bobl i Gei Newydd, pobl sy'n cystadlu a phobl sy'n dod i fwynhau'r awyrgylch a watsho beth sy'n mynd ymlaen. Felly, mae'n bwysig i ddenu pobl 'ma.

"Ac mae'n bwysig hefyd achos mae'n dod â phobl at ei gilydd - pobl leol, ymwelwyr a'r gymuned hwylio ar draws Bae Ceredigion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig