Pa gyfenw yw'r cryfaf yn rygbi Cymru?

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Jones, Davies, Williams, Evans, a Thomas... y pum cyfenw mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Mae tîm rygbi Cymru wedi chwarae dros 800 o gemau prawf ers y gêm gyntaf yn 1881, ac o'r 1224 chwaraewr sydd wedi gwisgo'r crys coch roedd gan nifer fawr un o'r pum cyfenw yma.

Ond pa gyfenw sy'n creu'r tîm cryfaf?

Tîm Jones

Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones yn chwarae'n erbyn Yr Alban yn Murrayfield - 15 Chwefror, 2015

1. Duncan Jones - Castell-Nedd/Gweilch (57 cap 2001-09).

2. Steve Jones - Y Dreigiau (5 cap dros Gymru 2000-05).

3. Adam Jones - Castell-Nedd/Gweilch/Gleision Caerdydd/Harlequins (95 cap 2003-14, pum cap i'r Llewod).

4. Alun Wyn Jones - Abertawe/Gweilch/Toulon (158 cap 2007-23, 12 cap i'r Llewod).

5. Ryan Jones - Casnewydd/Pen-y-bont/Rhyfelwyr Celtaidd/Gweilch/Bryste (75 cap 2004-14, tri cap i'r Llewod).

6. Dafydd Jones - Llanelli/Scarlets/Llanymddyfri (42 cap 2002-09).

7. Gwyn Jones - Meddygon Caerdydd/Caerdydd (13 cap 1996-97).

8. Mark Jones - Tredegar/Castell-Nedd/Glyn Ebwy/Pontypridd/Aberafan (15 cap 1987-98).

9. Robert Jones - Abertawe/Bryste/Caerdydd (54 cap 1986-95, tri chap i'r Llewod).

10. Stephen Jones -Llanelli/Scarlets/Clermont Auvergne/Wasps (104 cap 1998-2011, chwe cap i'r Llewod).

11. Mark Jones - Llanfair-ym-Muallt/Llanymddyfri/Llanelli/Scarlets (47 cap 2001–09).

12. Jack Phillips Jones - Pontypwl/Casnewydd/Cymry Llundain (14 cap 1908-21, chwe cap i'r Llewod).

13. Ken Jones - Penygroes/Llanelli/Caerdydd/Cymry Llundain (14 cap 1962-66, chwe cap i'r Llewod).

14. Ken Jones - Talywain/Blaenafon/Casnewydd/Caerlŷr (44 cap 1947–57, tri cap i'r Llewod).

15. Lewis Jones - Castell-Nedd/Llanelli (10 cap 1950-52, tri cap i'r Llewod).

Tîm Davies

Gerald DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gerald Davies yn chwarae yng nghystadleuaeth y Pum Gwlad yn1975

1. Clifton Davies - Mynydd Cynffig/Pen-y-bont/Caerdydd (16 cap 1947–51, un cap i'r Llewod).

2. Mefin Da..vies - Dyfnant/Castell-Nedd/Pontypridd/Rhyfelwyr Celtaidd/Caerloyw/ Caerlŷr/Gweilch (39 cap 2001-07).

3.John Davies - Castell-Nedd/Richmond/Llanelli/Scarlets/Crymych (34 cap 1991–98).

4.Phil Davies - Llanelli (46 cap 1985-95).

5. Bradley Davies - Caerdydd/Gleision Caerdydd/Wasps/Gweilch (66 cap 2009-22).

6. Stuart Davies - Abertawe (17 cap 1992-98).

7. Seb Davies - Rygbi Caerdydd/Y Dreigiau (18 cap 2017-24).

8. Mervyn Davies - Cymry Llundain/Abertawe (38 cap 1968-76, wyth cap i'r Llewod).

9. Gareth Davies - Llanelli/Scarlets (77 cap 2014-24).

10. Jonathan Davies - Castell-Nedd/Llanelli/Caerdydd (37 cap 1985-97).

11. Charles Lynn 'Cowboy' Davies - Glamorgan Wanderers/Clwb Rygbi Athletig Caerfyrddin/Llanelli/Caerdydd (tri cap 1956).

12. Nigel Davies - Llanelli (29 cap 1987-97).

13. Jonathan Davies - Llanelli/Scarlets/Clermont Auvergne (96 cap 2009-22, chwe chap i'r Llewod).

14. Gerald Davies - Cydweli/Llanelli/Myfyrwyr Loughborough/Caerdydd/Cymry Llundain/Prifysgol Caergrawnt (46 cap 1966-78, pum cap i'r Llewod).

15. Terry Davies - Abertawe/Llanelli (21 cap 1953-61, dau gap i'r Llewod).

Tîm Williams

Shane WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o fawrion Cymru, Shane Williams, yn erbyn Yr Ariannin yn 2009

1. Brian Williams - Castell-Nedd (pum cap 1990-91).

2. Barry Williams - Llanymddyfri/Llanelli/Castell-Nedd/Richmond/Bryste/ Abertawe/Gweilch (26 cap 1996-02).

3. Denzil Williams - Tredegar/Glyn Ebwy (36 cap 1963-71, pum cap i'r Llewod).

4. Rhys Haydn Williams - Prifysgol Caerdydd/Llanelli/Bryste (23 cap 1954-60).

5. Teddy Williams - Caerdydd (10 cap 2023- ).

6. Steve Williams - Abertawe/Castell-Nedd/Caerdydd/Gwyddelod Llundain/ Northampton (28 cap 1994-03).

7. Martyn Williams - Pontypridd/Caerdydd/Gleision (100 cap 1996-2012, pedwar cap i'r Llewod).

8. Owain Williams - Glamorgan Wanderers/Wests Rugby/Pen-y-bont/Caerdydd (un cap, 1990).

9. Tomos Williams - Caerdydd/Caerloyw/Saracens (72 cap 2018-).

10. Owen Williams - Scarlets/Caerlyr/Caerloyw/Red Hurricanes/ Caerwrangon/Gweilch/Nissa (10 cap 2017-23).

11. J.J Williams - Nantyffyllon/Pen-y-bont/Llanelli (30 cap 1973-79, saith cap i'r Llewod).

12. Johnny Williams - Gwyddelod Llundain/Newcastle/Scarlets (10 cap 2020-).

13. Scott Williams - Llanelli/Scarlets/Gweilch/Dreigiau (58 cap 2011-22).

14. Shane Williams - Castell-Nedd/Gweilch/Mitsubishi Sagamihara DynaBoars (87 cap, pedwar cap i'r Llewod).

15. J.P.R Williams - Pen-y-bont/Cymry Llundain/Natal/Tondu (55 cap 1969-81, wyth cap i'r Llewod).

Tîm Evans

Ieuan Evans 1988Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Evans yn chwarae ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn 1988

1. Rob Evans - Cwins Caerfyrddin/Scarlets/Dreigiau/Miami Sharks (39 cap dros Gymru 2015-20).

2. John Raymond Evans - Cymry Llundain/Casnewydd (un cap 1934).

3. Ben Evans - Castell Nedd/Abertawe/Caerdydd/Gleision/Sale Sharks/Calvisano /Gran Parma/Jersey/Moseley (27 cap 1998-2004).

4. Luke Evans - Caerwysg (Cymru dan20 13 cap 2024-26).

5. Ian Evans - Gweilch/Bryste (33 caps 2006-16).

6. Bob Evans - Y Fenni/Rhymni/Casnewydd (10 cap 1947-51, chwe chap i'r Llewod).

7. Tom Evans - Rhydaman/Llanelli (18 cap 1906-11).

8. Lewis Evans - Dreigiau (2006-21).

9. Colin Evans - Blaenafon/Tredegar/Casnewydd/Pont-y-pŵl (un cap 1960).

10. Jarrod Evans - Pontypridd/Caerdydd/Harlequins (19 cap 2018-).

11. Steff Evans - Scarlets (14 cap 2017-20).

12. Dai Evans - Clydach/Penygraig/Y Barri/Caerdydd/Heddlu Morgannwg (pedwar cap 1896-98).

13. Gavin Evans - Llanelli/Scarlets/Gleision/Caerdydd/Castell-Nedd (un cap, 2006).

14. Ieuan Evans - Cwins Caerfyrddni/Llanelli/Caerfaddon (72 cap 1987-98, saith cap dros Y Llewod).

15. Garan Evans - Llanelli/Scarlets (pedwar cap 1998-2003).

Tîm Thomas

Delme ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cawr o Bancyfelin, Delme Thomas, yn 1971

1. Gareth Thomas - Cwins Caerfyrddni/Scarlets/Llanelli/Gweilch (45 cap 2021-).

2. T. Rhys Thomas - Gleision/Wasps/Dreigiau (27 cap 2005-08).

3. Henry Thomas - Sale Sharks/Caerfaddon/Montpellier/Castres/Scarlets (saith cap 2023-).

4. Freddie Thomas - Caerloyw (wyth cap 2024-).

5. Delme Thomas - Llanelli (25 cap, saith cap i'r Llewod).

6. Gavin Thomas - Tondu/Pen-y-bont/Caerfaddon/Gweilch/Scarlets/Llanelli/ Dreigiau

7. Dan Thomas - Llanelli/Scarlets/Bryste/Caerdyd (10 cap Cymru dan 20, 2012-13).

8. Nathan Thomas - Pen-y-bont/Caerfaddon/Caerdydd/Gleision/Leeds/Llanelli/

Scarlets/Llanymddyfri (naw cap 1996-98).

9. Billy Thomas - Caerdydd (dau gap 1961-63).

10. Arwel Thomas - Abertawe/Castell-Nedd/Bryste/Pau/Scarlets/Llanymddyfri/

Harlequins/Cwins Caerfyrddin (23 cap 1996-2000).

11. Cyril Thomas - Pen-y-bont (dau gap 1925).

12. Ben Thomas - Caerdydd (19 cap 2021-).

13. Gareth Thomas - Pen-y-bont/Caerdydd/Rhyfelwyr Celtaidd/Toulouse/Gleision (100 cap 1995-2007, tri chap i'r Llewod).

14. Malcolm Thomas - Devonport Services R.F.C./Casnewydd/Cymry Llundain (27 cap 1949-59, pedwar cap i'r Llewod).

15. Justin Thomas - Caerdydd/Casnewydd/Caerffili/Cross Keys (naw cap 1995-97).

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.