Jin o Gymru'n ennill medal aur mewn gwobrau yn San Francisco

- Cyhoeddwyd
Mae cwmni jin o Sir Benfro'n dathlu wedi iddo ennill medal aur yn y 2026 San Francisco World Spirits Competition, sef un o'r gwobrau pwysicaf yn y diwydiant alcohol.
Cafodd Golden Road ei greu gan ŵr a gwraig sy'n byw yn Sir Benfro, Philip a Jennifer Wheeler. Mae'r jin sych Cymreig yn cael ei ddistyllu ym Mryniau Preseli ac fe enillodd y fedal aur ymysg y 4,000 o enwebiadau.
Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei redeg gan y Tasting Alliance, yn enwog am feirniadu llym 'dall', ac mae'r wobr yn rhoi'r jin o Benfro ymysg y categori uchaf yng nghyd-destun ansawdd, balans a chrefftwaith.
Siaradodd Jennifer Wheeler â Cymru Fyw am y jin, a'r wobr maent wedi ei hennill.

Phil a Jennifer Wheeler
"Doedden ni 'rioed 'di clywed am y gwobrau o'r blaen, i fod onest," esbonia Jen.
"Ond mae 'na foi 'dyn ni'n gweithio gyda o'r enw Aaron o'r Bottle Shop ym Mhenarth, ac fe 'nath ddweud bod y 'gwobrau gwirodydd mwyaf mawreddog yn y byd yn San Fransisco - dylech chi drio!', ac felly dyna wnaethon ni.
"'Nath Phil geisio gyrru poteli ond mi ddaethon nhw nôl yn syth – roedd hi'n dipyn o strach gyrru nhw drwy customs!
"Ond fe lwyddon ni yrru'r poteli ar ddechrau'r flwyddyn, ac wedyn daeth cyfnod o aros, nes i ni glywed ein bod wedi ennill!"

Mae Jennifer yn nodi'r gefnogaeth y cafodd hi a Phil gan Lywodraeth Cymru fel elfen allweddol i'r llwyddiant.
"Cafon ni gefnogaeth arbennig gan Lywodraeth Cymru, yn arbennig adran Cywain."
Mae Cywain yn rhaglen sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i dyfu microfusnesau, busnesau newydd, a Mentrau Bach a Chanolig (SMEs) o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru.
"Rydyn ni wedi bod i'r Farm Shop & Deli Show yn yr NEC yn Birmingham, ac yn Taste Wales yn y Celtic Manor ger Casnewydd, i Blas Cymru, ac i gynadleddau yn Llundain."
Canolbwyntio ar un math o jin
Mae llawer o gynhyrchwyr yn distyllu sawl math gwahanol o jin, ond dywed Jennifer ei bod hi a Phil am ganolbwyntio ar un math yn unig.
"'Naethon ni benderfynu canolbwyntio ar un blas yn unig, a'i wneud yn iawn. Dyna pam 'naethon ni dreulio 18 mis yn y stafelloedd botaneg yn gweithio ar flas a oedd yn ticio'r bocsys i gyd - adfywiol, ffres ac yn hawdd i'w yfed.
"Mae rhai jins yn gallu bod yn eitha' harsh yn ei flas, ond oedden ni isie creu rhywbeth hawdd i'w yfed yn yr ardd gyda'ch ffrindiau.
"'Dy' ni'n pigo dail llawryf (bay) gyda llaw o'n fferm ni, a'u hychwanegu nhw'n ffres, sy'n rhoi blas gwahanol i bryd mae pobl yn eu defnyddio wedi eu sychu, pan ma' nhw'n gallu bod yn eithaf woody."

Phil a Jen gyda'r tystysgrif o'r gystadleuaeth yn San Francisco
Jennifer a Phil sy'n gweithio efo'r jin yn bennaf, ond mae eraill yn rhan o'r tîm.
"Ry'n ni'n gweithio gyda dynes hyfryd o'r enw Louise Galbraith rhan amser, a hefyd James Burnham sy'n ein cynghori ar yr ochr fusnes ac yn ein helpu ni gyda'r hyrwyddo.
"Mae'n ddiwydiant anodd iawn i lwyddo ynddo, ac rydyn ni wedi gwneud penderfyniad pwrpasol i beidio anelu am yr archfarchnadoedd mawr am y tro.
"Y peryg efo rheiny yw bo' chi'n cael rhyw dri mis i brofi eich hunain, mae hyn a hyn o focsys sydd rhaid i'w gwerthu mewn wythnos, ac os dydi e ddim yn gweithio'n syth rydych chi oddi ar y rhestr ac mi fydde'n anodd iawn cael eich ffordd nôl yno.
"Felly am y tro ry'n ni gyda'r siopau llai, siopau cynnyrch fferm, bwytai ayyb, a dy'n ni'n gweithio egyda tua 300 o sefydliadau ar hyn o bryd, ac yn siarad gyda grŵp mawr sy'n berchen a 60 o ganolfannau garddio sydd eisiau gwerthu'r jin yn eu safleoedd i gyd."
Arddangos Bryniau Preseli ar y botel
Mae'r botel y mae'r jin Golden Road ynddo wedi cael cryn dipyn o sylw hefyd, ac roedd Jennifer yn bendant ei bod eisiau i'r botel gynrychioli'r ardal.
"Roedd y botel o'dd gennyn ni'n wreiddiol yn neis, ond ddim yn unigryw ac yn dal y sylw. Cafon ni gyngor gan ddyn o'r enw Neil sydd ar fwrdd Wisgi Penderyn, 'naeth argymell bod ni'n ei newid.
"O ganlyniad naethon ni weithio gyda Siân o Kutchibok yng Nghaerdydd, a chydweithio gyda hi am flwyddyn i ddylunio'r botel. Mae'r cerrig glas ar y botel yn symboleiddio'r cerrig yn Sir Benfro ac mae amlinelliad o'r bryniau arni hefyd."

Y botel yn eistedd o flaen Bryniau Preseli
Mae enw'r jin, Golden Road, yn arwyddocaol i dde-orllewin Cymru, fel esbonia Jennifer.
"Mae ein fferm ni ar ochr ddeheuol Bryniau'r Preseli yng ngogledd y sir. Mae 'na lwybr ar y topiau o'r enw Y Ffordd Aur, ble roedd masnachwyr a theithwyr yn dod â chargo gwerthfawr o Iwerddon (gan gynnwys aur), gan osgoi'r lladron oedd yn chwilio am nwyddau i'w dwyn.
"Mae'r llwybr yno ers 5,000 mlynedd, yn hŷn na'r Pyramidau a Christnogaeth, ac roedd y syniad o'r bobl hynafol yma'n teithio dros fryniau Penfro'n rhywbeth o'n i eisiau ei ddathlu a'i anrhydeddu, a dyna pam dewision ni'r enw."

Daw Jennifer yn wreiddiol o Suffolk ac mae Phil yn Wyddel. Ond dywed Jennifer ei bod hi'n falch iawn o gynrychioli Penfro a Chymru gyda'i chynnyrch.
"Ry'n ni'n caru bywyd yma, mae'r awyrgylch yng Nghymru mor hyfryd a'r bobl mor gyfeillgar, ac 'dan ni wedi cael gymaint o gefnogaeth gan bobl gyffredin a'r awdurdodau hefyd."
Dywed Jennifer fod dipyn o ddiddordeb wedi dod o Japan a'r Dwyrain Canol yn ddiweddar, a gyda hynny a chytundebau mawr ar y gorwel, efallai bydd Golden Road i'w weld ledled y byd dros y blynyddoedd i ddod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Mawrth

- Cyhoeddwyd18 Chwefror

- Cyhoeddwyd17 Chwefror
