Galw am ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o lygredd gwenwynig

Mae'r actor Michael Sheen yn ymchwilio i honiadau bod cymunedau Cymru'n cael eu gwenwyno mewn rhaglen ddogfen newydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am ymchwiliad cyhoeddus i ddiogelwch cyfres o safleoedd lle y cafodd gwastraff diwydiannol gwenwynig ei ddympio ddegawdau yn ôl.
Daw yn dilyn canfyddiadau rhaglenni dogfen newydd i'r BBC sy'n ymchwilio i honiadau ynglŷn â gweithgareddau hanesyddol cwmni cemegol mawr Monsanto, oedd â ffatrïoedd yng Nghasnewydd a Wrecsam.
Yr actor Michael Sheen sy'n cyflwyno'r ymchwiliad, ar ôl iddo gwrdd â chyfweld ag ymgyrchydd blaenllaw ynglŷn â'r sefyllfa fisoedd cyn iddo farw.
Dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno strategaeth Gymru gyfan ar gyfer adfer tir ôl-ddiwydiannol y mae Llywodraeth Cymru.
Dyw Monsanto ddim yn bodoli bellach a ni wnaeth cwmni cemegau Eastman - sy'n gyfrifol am rai o'u cyn safleoedd yn y Deyrnas Unedig - ymateb i gais y BBC am sylw.

Roedd Michael Phillips yn arfer chwarae ger pwll dŵr Llwyneinion pan yn blentyn
Fe dreuliodd Michael Phillips ei blentyndod yn y 1980au yn chwarae gyda'i ffrindiau ger pwll dŵr Llwyneinion, nid ymhell o ffatri Monsanto yn Rhiwabon - heb sylweddoli bod yna gemegau niweidiol wedi'u tywallt yno.
Roedden nhw'n arfer tanio gynau aer at hen gasgenni rhydlyd ar y safle, meddai gan weld cymylau o bowdr lliwgar.
Ddegawdau yn ddiweddarach, mae Mr Phillips a nifer o'i ffrindiau wedi datblygu mathau prin o ganser, ac maen nhw'n credu bod yna gysylltiad.
"Fe golles i ran fawr o fy ysgwydd - ardal mor llydan â fy llaw," eglurodd wrth y rhaglen Buried: With Michael Sheen.
Cafodd ffrind arall yr un fath o ganser yn union a Michael, a'i feddyg yn dweud wrtho y byddai gweld dau achos o'r fath "fel ennill y loteri".
"I dy ffrind sy'n byw lawr stryd gael union yr un peth, fe ddywedodd bod hynny fel ennill y loteri bob dydd am chwe mis. Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad."
Ffrind yn 'marw o ganser'
Buodd ffrind arall "oedd yn arfer bod [wrth y lagŵn] drwy'r amser, yn fwy na fi" farw o ganser y fron, ac un arall eto o ganser yr ymennydd.
"Mae un arall o fy ffrindiau yn trio ymladd canser yr ymennydd ar hyn o bryd," meddai Mr Phillips.
Mae'r safle'n un o 14 drwy Gymru a gogledd orllewin Lloegr lle y cafodd profion eu cynnal ar gyfer y rhaglen ddogfen, gyda 13 yn dangos lefelau uwch o bresenoldeb biffenylau polyclorinedig - neu gemegau PCB - na fyddai i'w ddisgwyl yn yr amgylchedd.
Roedd Monsanto yn cynhyrchu'r cemegau yma, gyda galw mawr ddegawdau yn ôl amdanyn nhw mewn amryw o brosesau diwydiannol, am nad oedden nhw'n dirywio'n hawdd.
Bellach ry'n ni'n deall eu bod nhw'n medru achosi canser ac maen nhw wedi'u gwahardd yn fyd eang.

Bu farw Douglas Gowan yn 2018, ddeufis ar ôl dweud ei stori wrth yr actor Michael Sheen
Roedd y cyn-ymgynghorydd amaethyddol, Douglas Gowan, wedi bod yn codi pryderon ers degawdau am y sefyllfa.
Roedd hynny ar ôl iddo gael ei alw i fferm ger chwarel Brofiscin yn Rhondda Cynon Taf, lle roedd gwartheg wedi'u gwenwyno.
Daeth Michael Sheen ar draws ei stori ar hap tra'n edrych ar dudalen Wicipedia y sir, cyn cysylltu ag ef i holi mwy am yr hanes.
Fe dreuliodd ddeuddydd yn recordio'r cyfweliad olaf gyda Mr Gowan, cyn i'r ymgyrchydd farw ddeufis yn ddiweddarach.
Daeth yr actor wedyn i gysylltiad â'r newyddiadurwyr amgylcheddol, Lucy Taylor a Dan Ashby, oedd wedi etifeddu dogfennau ac ymchwil Gowan - gan arwain maes o law at bodlediad ac yna'r rhaglenni teledu newydd.

Roedd tân ar bwll dŵr Llwyneinion yn y 1980au - gyda 60 o ddiffoddwyr yn brwydro'r fflamau
"Y sialens wrth greu rhaglen o'r fath yw nad wyt ti'n medru gweld PCBs - maen nhw'n rhyw fath o elyn cudd sy'n parhau i fod yn yr amgylchedd," eglura Steffan Griffiths, oedd yn rhan o dîm cynhyrchu'r rhaglen.
"Felly 'naethon ni gymryd samplau o amgylch Cymru a gogledd-orllewin Lloegr sy'n dangos mewn du a gwyn fod y PCBs yn ein dyfroedd, yn ein priddoedd, maen nhw yn y gadwyn fwyd, maen nhw yng ngerddi cefn pobl yn llythrennol."
Bu'r tîm hefyd yn clywed hanesion pobl leol oedd wedi bod yn ceisio codi pryderon am lygredd ar eu stepen drws, gan gymryd profion gwaed yn ogystal.
'Canlyniadau yn shocking'
Daethpwyd o hyd i gemegau PCB yng ngwaed bob un a wirfoddolodd am brawf gwaed - gan gynnwys Michael Sheen ei hun - er bod cynhyrchu'r cemegau wedi'i wahardd yn y DU ers 1981.
Roedd gan ddau o'r gwirfoddolwyr oedd yn byw ger safleoedd lle cafodd y cemegau eu dympio - gan gynnwys Michael Phillips - lefelau uwch o PCBau yn eu gwaed na'r cyfartaledd a recordiwyd mewn astudiaeth fawr yn yr Unol Daleithiau.
"Mae'r canlyniadau yn shocking i ddweud y lleiaf," meddai Griffiths.
"Maen nhw'n ganlyniadau sydd yn gobeithio yn rhoi sylfaen i weithio arno fe i wneud mwy o brofion a glanhau'r amgylchfyd."

Roedd Steffan Griffiths yn rhan o dîm cynhyrchu'r rhaglenni dogfen
Mae'r rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ddydd Llun 17 Awst ar BBC One a'r iPlayer.
Gobaith ymgyrchwyr amgylcheddol yw y bydd yn arwain at sgwrs genedlaethol am wastraff diwydiannol.
"Gyda newid hinsawdd ni'n gweld mwy o lifogydd ac mae hyn yn dod â mwy o risg i'r cymunedau sy'n byw ger y safleoedd yma," meddai Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru.
"Ni'n galw am ymchwiliad cyhoeddus i edrych mewn i'r mater yma ar draws Cymru so ni'n gallu adfer y safleoedd yma ar gyfer y cymunedau sy'n cael eu heffeithio."

Y newyddiadurwyr Dan Ashby a Lucy Taylor etifeddodd holl ddogfennau Douglas Gowen ar ôl ei farwolaeth
Dywedodd Cyngor Wrecsam wrth y rhaglen bod yna ymchwiliadau wedi'u cynnal i bwll dŵr Llwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw.
Tra bod difwynwyr yn bresennol, roedd asesiadau risg manwl wedi dod i'r casgliad nad oedd y tir yn cyfateb a diffiniad cyfreithiol 'tir llygredig'.
Does yna ddim gofyn statudol felly ar y cyngor i adfer y safle.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael a thir llygredig yn flaenoriaeth.
"Daeth arolwg o awdurdodau lleol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2015 i'r casgliad bod mwy na 9,000 o safleoedd posib angen ymchwiliadau pellach.
"Tra na fydd bob un o'r safleoedd yma yn peri risg i iechyd y cyhoedd na'r amgylchedd, mae'r ffigwr yma yn dangos graddfa'r sefyllfa sy'n wynebu rheoleiddwyr yng Nghymru."
"Ry'n ni nawr yn bwriadu datblygu strategaeth Gymru gyfan er mwyn adfer tir ôl-ddiwydiannol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr

- Cyhoeddwyd22 Chwefror
