Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Halfpenny ei yrfa ar yr asgell cyn symud i safle'r cefnwr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r chwaraewr rygbi Leigh Halfpenny wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Mae'r cefnwr 37 oed wedi ennill 101 cap dros Gymru ac wedi sgorio 801 o bwyntiau dros ei wlad.

Mae hynny'n ei osod yn drydydd ar restr prif sgorwyr Cymru y tu ôl i Neil Jenkins a Stephen Jones.

Bu hefyd yn cynrychioli'r Llewod bedair gwaith gan gael ei enwi'n chwaraewr y gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013.

Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

"Bydd hi wastad yn anodd gadael gêm sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd am gyfnod mor hir," meddai Leigh Halfpenny mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Ond pan fyddwch chi'n gwybod, rydych chi'n gwybod a nawr rwy'n gwybod mai'r amser iawn i mi a fy nheulu yw hwn."

Dechreuodd a gorffennodd Halfpenny ei yrfa gyda Chaerdydd, gan chwarae hefyd i Toulon, y Scarlets, y Crusaders ac Harlequins.

Yn ystod ei yrfa, enillodd Gwpan Pencampwyr Ewrop a'r Cwpan Her.

Dim ond dwywaith y chwaraeodd Halfpenny dros Gaerdydd y tymor hwn, y ddwy gêm yn erbyn Ulster.

Mae gan y clwb ddwy gêm gynghrair yn weddill yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, ynghyd ag unrhyw gemau pellach posibl.

Mae ei gyhoeddiad yn dilyn penderfyniadau Liam Williams a George North, sydd wedi cyhoeddi eu hymddeoliadau hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

'Hollol broffesiynol a gweithgar iawn'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd ei ffrind a'i gyn-gyd chwaraewr gyda Chaerdydd, Y Scarlets a Chymru, Rhys Patchell, bod Leigh Halfpenny yn paratoi yn drylwyr ar gyfer pob gêm.

"Byddet ti'n gwybod oeddet ti'n gallu drychyd rownd stafell newid cyn gêm yn gwybod bydde Leigh Halfpenny yn gwybod ei waith.

"Bydde fe 'di amserlennu bob awr o bob dydd o bob wythnos wrth baratoi ar gyfer gemau fel bod e'n gallu troi lan ar bnawn dydd Sadwrn neu nos Wener neu pryd bynnag oedd y gêm, yn y lle cywir er mwyn gallu cael y job wedi ei wneud dros y tîm."

Cyfeiriodd Patchell hefyd at hiwmor Halfpenny.

"O'dd dim diddordeb 'da fe bod yng nghanol yr hwyl, o'dd e'n eitha hapus i fod ar gyrion yr hwyl, ond o'dd ei sense of humour e'n brilliant, o'dd ei amseru fe'n fantastic pan oedd 'da fe rywbeth doniol i'w ddweud, a gallet ti ddim cwrdd â person mwy ffein o'dd yn fwy parod i wneud unrhyw beth dros unrhyw un.

"Cymaint â wi'n gwerthfawrogi'r atgofion ar y cae, y pethe i ffwrdd o'r cae yw'r bits really special."

Cyfeiriodd cyn-faswr a chyn-gapten Cymru, Gareth Davies hefyd at agwedd "broffesiynol a gweithgar" Halfpenny, a'i ddawn fel maswr.

"Odd Leigh Halpenny i fi yn gallu gweithio mas yn aml ble oedd y maswr neu pwy bynnag arall yn mynd i gicio'r bêl...mae'r gêm yn amlwg wedi datblygu dros y degawd diwethaf, ond odd e o hyd yn lle iawn...odd hwnna'n rhywbeth special amdano fe...odd e ddim yn cael ei ddala mas, neu ddim yn aml iawn beth bynnag, a odd hwnna falle yn un elfen odd pobl ddim wedi cweit wedi deall mewn ffordd a gwerthfawrogi."

Pynciau cysylltiedig