Ymgyrch i godi £100,000 i brynu taflunydd newydd i sinema yn Sir Gâr

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei godi yn yn 1904 er mwyn diolch am gyfraniadau glowyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch yn Sir Gaerfyrddin yn gobeithio codi £100,000 ar gyfer prynu taflunydd newydd sbon mewn sinema ym mhentref Cross Hands.
Y rheswm am hynny, meddai'r trefnwyr, yw oherwydd ei bod hi'n mynd yn fwy anodd cynnal a chadw'r hen daflunydd, a bod cael gafael ar ddarnau sbâr yn profi'n her.
Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei godi yn yn 1904 a'i adnewyddu yn 1932, ond mae yn nwylo'r gymuned ers blynyddoedd bellach.
Dywedodd Ifan Elias, un sy'n gwirfoddoli fel tafluniwr yn y sinema, mai "parts yw'r broblem" ar hyn o bryd, a bod bwlb yn unig yn costio £500 y tro.

Cafodd yr adeilad ei godi er mwyn diolch am gyfraniadau glowyr oedd yn cyfrannu o'u cyflogau yn wythnosol.
Yn ôl y fenter, "mae hi wedi bod yn galed yn y blynyddoedd diweddar ond ymdrechwn ymlaen".
"Mae gennym grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr sy'n dod â llu o sgiliau gwahanol i'r tîm."

Cafodd y sinema ei hadnewyddu yn 1932
"Nid yn unig y'n ni'n goroesi ar hyn o bryd, ond ry'n ni'n dechrau ffynnu," meddai trefnwyr yr ymgyrch.
"Mae ein gwirfoddolwyr, ein codwyr arian a'n gweithwyr wedi ymroi i ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol i ddod at ei gilydd, i leihau unigrwydd ac i gefnogi ein cymuned ddifreintiedig."
Ychwanegodd y fenter eu bod "yn daer" am daflunydd yno, ac y byddai technoleg ddigidol wedi'i ddiweddaru yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn bodloni safonau a gofynion y diwydiant ffilm cyfoes.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, eglurodd Ifan Elias mai adeilad hardd, "traddodiadol", ydy'r sinema.
Er bod yr adeilad wedi bod yn cynnig gwahanol adloniant, "y sinema sy'n cadw ni fynd", meddai.
"Ma' 'da ni ffilmie' tair gwaith yr wythnos, yn dangos pob nos Wener, nos Lun a Mawrth."

Mae pentref Cross Hands wedi'i leoli ger Rhydaman yn Sir Gâr
Ychwanegodd Ifan fod y taflunydd y maen nhw'n gobeithio ei brynu yn "beiriant mawr ac yn costio".
Esboniodd bod "crowd funder" wedi cael ei greu ar y we, a bod gwobrau gwahanol yn cael eu rhoi am y rhoddion.
Mae'r gwobrau hynny'n cynnwys cyfle i gael eich enw ar blac arbennig, neu hyd yn oed fod mewn sefyllfa i wylio ffilmiau am ddim yno am weddill eich hoes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd4 Awst

- Cyhoeddwyd17 Mehefin
