Bachgen chwe oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llanfairfechan

Cerbydau'r heddlu yn Llanfairfechan
  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen chwe oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn yn Llanfairfechan, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ychydig ar ôl 17:00 ddydd Iau, 1 Hydref.

Mae dyn 39 oed wedi'i arestio ac yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.

Mae'r teulu'n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

Cerbydau'r heddlu yn Llanfairfechan

Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod y bachgen wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Tim Evans o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru fod eu "meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r bachgen ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Cerbydau'r heddlu yn Llanfairfechan

Mae'r ymchwiliad i amgylchiadau'r gwrthdrawiad yn parhau.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw.

Roedd nifer o ffyrdd yn ardal Ffordd Pen-y-Bryn a Ffordd Bryn ar gau yn gynharach tra bod y gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig