Cadarnhad mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai

Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ger Ffordd Siliwen, Bangor brynhawn Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai ym Mangor dros y penwythnos.
Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ger Ffordd Siliwen toc cyn 17:00 ddydd Sul.
Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd Heddlu'r Gogledd fod archwiliad post mortem wedi datgelu mai merch oedd y babi, a bod arwyddion cychwynnol yn awgrymu y gallai fod wedi bod yn y dŵr am ychydig wythnosau.
Ychwanegodd y llu fod rhagor o brofion yn cael eu cynnal er mwyn darganfod mwy am y ferch.
Heddlu'r Gogledd yn cadarnhau mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai
Dywedodd yr uwch-arolygydd Llinos Davies: "Yn dilyn darganfyddiad trasig o gorff babi ym Mangor ar ddydd Sul, 27 Medi, mae post mortem bellach wedi'i gwblhau.
"Rydym nawr yn gwybod mai merch oedd y babi bach.
"Rydym yn deall y gall y fam fod yn ofnus o ddod ymlaen ond rydym yn ei hannog i gysylltu â ni. Hoffwn roi sicrwydd iddi mai ei lles a'i diogelwch yw ein pryder pennaf.
"Dylai unrhyw un sydd â phryderon am ferch neu fenyw rydych chi'n meddwl y gallai wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad wedi bod yn anarferol neu allan o gymeriad yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys tynnu'n ôl o ffrindiau, teulu neu gysylltiadau cymdeithasol, gysylltu â ni.
"Plîs gwnewch y peth iawn i sicrhau bod y fam hon yn cael y cymorth iechyd sydd ei hangen arni.
"Bydd pob enw a dderbynnir yn cael ei drin hefo'r disgresiwn mwyaf ac fe ellir eu dileu fel y fam heb oedi."
Apêl ar ran Heddlu’r Gogledd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau i Ferched ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai'r fam yw eu blaenoriaeth o hyd.
Gan apelio at y fam yn uniongyrchol, dywedodd: "Ein prif bryder o hyd yw eich iechyd, diogelwch a lles.
"Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych unrhyw le i droi, neu na allwch siarad ag unrhyw un am yr hyn sydd wedi digwydd. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.
"Nid ydym eto yn gwybod yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â marwolaeth eich babi, ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn dod o hyd i chi, yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, ac yn sicrhau eich bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth y gallai fod ei angen arnoch.
"Rwy'n gofyn i chi'n bersonol, plîs cymerwch y cam cyntaf a chysylltwch â ni. Mae yna bobl i'ch helpu chi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
