Tegan ffug yn niweidio llygaid bachgen, 4, ar ôl 'byrstio yn ei wyneb'

HudsonFfynhonnell y llun, Jodanna Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid mynd â Hudson i'r ysbyty ar ôl iddo ddioddef niwed i'w lygaid

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi dweud ei bod hi'n teimlo'n euog ar ôl iddi brynu tegan meddal ffug a wnaeth fyrstio yn wyneb ei mab, gan arwain ato'n derbyn triniaeth ysbyty.

Prynodd Jodanna Bevan y teganau o gwmni Shein wedi iddi eu gweld ar werth yn rhad.

Roedd Hudson, sy'n bedair oed, yn gwasgu ei degan pan y "byrstiodd dros ei wyneb", gyda Jodanna yn disgrifio'r cynnwys fel "sylwedd tew, gwyn," a theimlad fel tywod.

Esboniodd fod ei lygaid yn goch, ond ei fod yn ymddangos yn "iawn" ar ôl eu golchi, tan iddo ddeffro drannoeth yn methu agor ei lygaid - roedden nhw wedi "chwyddo'n ofnadwy".

Dywedodd cwmni Shein eu bod yn trin yr honiadau o ddifrif ac nad oedd y cynnyrch bellach ar werth.

'Erchyll'

Roedd angen i ddŵr gael ei arllwys drwy lygaid Hudson, er mwyn cywiro'r lefel PH - "rhywbeth erchyll i'w weld fel rhiant", medd Jodanna.

Cafodd Hudson, fel nifer o blant, ei ddenu at y teganau wedi iddynt ddod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok, Instagram ac YouTube.

Maen nhw'n debyg i dwmplenni (dumplings), ond tydi plant "ddim yn gallu gweld be' sy'n y bocs, felly maen nhw'n cynhyrfu i weld pa un maen nhw'n ei gael".

Y teuluFfynhonnell y llun, Graham Davies Photography
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jodanna na fyddai hi "fyth" yn prynu teganau gan Shein na manwerthwyr eraill ar y we eto

Mae poblogrwydd y teganau wedi arwain at rai ffug yn cael eu gwerthu ar y we, mewn siopau a stondinau.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod mwy na 260,000 o deganau ffug wedi cael eu rhwystro gan Lu'r Ffiniau yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Ni wnaeth Jodanna ganfod bod y teganau ffug yn cynnwys cemegau fel phthalates a benzenes tan iddi chwilio ar y we.

Mae Llywodraeth y DU yn categoreiddio phthalates a benzenes fel cemegau peryglus ond maen nhw'n cael eu defnyddio mewn colur, persawrau a deunyddiau pecynnu bwyd.

Dywedodd Jodanna ei bod hi'n "hurt" nad oes rheoliadau na gwiriadau llymach ar gyfer teganau sy'n cael eu mewnforio.

"Dyw e' ddim yn gwneud synnwyr," meddai gan ychwanegu na fyddai hi "fyth" yn prynu teganau gan Shein na manwerthwyr eraill ar y we eto.

"Ti'n teimlo cymaint o euogrwydd fel rhiant am ei brynu e'. Peidiwch â phrynu'n rhad," meddai.

Marchnata ar gyfer plant gyda gorbryder

Mae Vicki Worrall, o Gaerdydd, yn fam i fachgen niwrowahanol saith oed sy'n hoff o chwarae gyda theganau synhwyraidd.

Dywed bod teganau o'r fath yn aml yn cael eu marchnata ar gyfer plant gyda gorbryder, fel modd o "dynnu sylw neu roi rhyddhad."

Mae'r ddynes 47 oed yn gweld nifer o'r teganau ar werth ar Amazon a Temu, "ond wna' i ddim prynu o'r gwefannau rheiny", meddai.

Ei barn hi ydy mai'r peth gorau i'w wneud ydy prynu teganau o siop ag enw da a chwilio am farc diogelwch CE, fel eich bod yn gwybod ei fod yn degan diogel i'ch plentyn.

Mae'r cynnydd mewn teganau ffug yn golygu, hyd yn oed os y cawn nhw eu gwerthu fel brand ag enw da, "y dylid gwirio'r cynnyrch bob tro cyn ei roi i blentyn", ychwanegodd Vicki.

Marc CEFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae marc CE (Conformité Européenne/Cydymffurfiad Ewropeaidd) ar gynnyrch sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar iechyd, diogelwch ac amddiffyn yr amgylchedd

Dywedodd Shein: "Mae ein timau diogelwch cynnyrch a chydymffurfiaeth wedi adolygu'r achos hwn, ac nid yw'r cynnyrch o dan sylw ar gael ar ein platfform bellach.

"Mae ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid hefyd wedi cysylltu â'r teulu dan sylw, ac rydym yn dymuno gwellhad cyflym i'r plentyn.

"Mae'n ofynnol i bob gwerthwr gydymffurfio â chod ymddygiad Shein, ein safonau diogelwch cynnyrch, y deddfau a'r rheoliadau perthnasol yn y marchnadoedd lle rydym yn gweithredu.

"Yn gynharach eleni, ymhell cyn i ni ddod i wybod am y digwyddiad hwn, cymerodd Shein y penderfyniad rhagofalus i gryfhau ein rheolaethau yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion 'squishy dumpling' ar ein platfform.

"Rydym yn parhau i ymgyrchu dros rannu gwybodaeth yn well ar draws llwyfannau ynghylch rhestrau a gwerthwyr problematig."

Sut i wybod os yw'n ffug?

Mae'r Adran Busnes a Masnach yn cynghori pobl i brynu teganau gan fanwerthwyr ag enw da ac i sicrhau eu bod wedi'u marcio'n glir â chyfyngiadau oedran.

Gall defnyddwyr hefyd wirio a yw teganau wedi'u galw'n ôl.

Y cyngor gan y Swyddfa Eiddo Deallusol oedd i bobl chwilio am farc diogelwch UKCA neu CE a chyfeiriadau cyswllt yn y DU.

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Diogelwch plant yw ein prif flaenoriaeth ac mae'n rhaid i unrhyw degan sy'n cael ei werthu'n y DU gydymffurfio â'n deddfau llym.

"Dylai pobl gysylltu â'u hadran safonau masnach leol os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ynghylch diogelwch."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.