'Mwy i addysg nag arian' - pryder y gallai llai o blant olygu llai o ysgolion

Caeodd Ysgol Clydau ar ddiwedd y tymor er gwaethaf ymgyrch gan rieni fel Sarah
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai gostyngiad mewn niferoedd disgyblion dros yr 15 mlynedd nesaf olygu y bydd yn rhaid i gynghorau ledled Cymru wynebu "dewis" i gau ysgolion ai peidio.
Yn ôl rhagamcan Llywodraeth Cymru, fe allai cyfanswm disgyblion y wlad ostwng 70,000 erbyn 2041.
Wrth i un ysgol fach yn Sir Benfro gau ei drysau am y tro olaf, dywedodd rhiant bod yna "fwy i addysg nag arian".
Mae un undeb addysg yn dadlau y dylai'r gostyngiad mewn disgyblion arwain at ddosbarthiadau llai o faint.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol sy'n cynllunio llefydd ysgol.
'Fydd y pentref ddim yr un fath'
Ychydig dros 20 o ddisgyblion oedd yn Ysgol Clydau yng ngogledd Sir Benfro erbyn diwedd y tymor, ond roedd rhai wedi gadael oherwydd y bygythiad i ddyfodol yr ysgol, yn ôl un o'r rhieni.
Dywedodd Sarah ei fod yn gyfnod "trist iawn, iawn".
"Fydd ein cymuned ddim yr un fath eto, ac fydd y pentref ddim yr un fath eto chwaith," meddai.
"Dwi eisiau iddyn nhw roi'r plant yn gyntaf. Nhw yw ein dyfodol ni, ac mae angen i ni fuddsoddi ynddyn nhw.
"Dwi'n gwybod bod nifer y disgyblion yn gostwng a bod cyllid yn rhan fawr o'r ddadl, ond mae mwy i addysg nag arian, a dylid buddsoddi mewn ysgolion."
Mae ei mab Tristan, 11, yn mynd i'r ysgol uwchradd, ond mae'n poeni am ei chwaer chwech oed fydd yn gorfod mynd i ysgol newydd.
Dywedodd Tristan: "Mae tipyn bach yn drist achos bod yn rhaid i fy chwaer i symud i ysgol arall nawr, a bydd hynny'n eithaf anodd iddi hi."
Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Dwy ysgol gynradd yn Sir Benfro i gau ar ddiwedd tymor yr haf
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
Cau drysau Ysgol y Garreg am byth
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Wrth ymateb i ffigyrau disgyblion yn fwy cyffredinol, dywedodd Cyngor Sir Penfro bod y boblogaeth yno'n heneiddio, ond bod y sefyllfa'n amrywio o ardal i ardal, gyda gostyngiad "sylweddol" yn nifer y disgyblion "mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd twristiaeth y sir".
"Mae'n cael effaith sylweddol ar ysgolion bach ac yn arwain at fwy o gystadleuaeth rhwng ysgolion i ddenu disgyblion", meddai'r cyngor, gan ychwanegu eu bod yn gweithio ar drefnu a moderneiddio ysgolion.
Roedd 460,091 o ddisgyblion mewn ysgolion awdurdod lleol yng Nghymru yn Ionawr 2025 - i lawr 5,749 ar y flwyddyn.
Mae rhagamcan Llywodraeth Cymru yn nodi gostyngiad i 390,900 o ddisgyblion erbyn 2041.

"Mae llai o ddisgyblion yn golygu llai o arian yn mynd i gyllidebau ysgolion," meddai Luke Sibieta
Dywedodd Luke Sibieta o'r Institute for Fiscal Studies fod gostyngiadau sylweddol yn nifer y disgyblion eisoes i'w gweld mewn ysgolion cynradd ar draws y Deyrnas Unedig.
"Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cael eu hariannu ar sail nifer y disgyblion, felly mae llai o ddisgyblion yn golygu llai o arian yn mynd i gyllidebau ysgolion," meddai.
Dywedodd fod yna ddewis rhwng naill ai "gynnal y lefelau gwariant presennol a chael ysgolion llai a dosbarthiadau llai", neu "leihau nifer yr athrawon a lleihau nifer yr ysgolion yn unol â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion".
Ond mae pwysau ar gyllid cyhoeddus o bosib yn gwneud yr opsiwn i dorri gwariant yn fwy atyniadol, ychwanegodd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo adolygu'r polisi o ragdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig "er mwyn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu harwain gan fuddiannau gorau'r dysgwyr".
Ond mae'r gostyngiad mewn niferoedd disgyblion i'w gweld ledled Cymru, a Chyngor Blaenau Gwent wedi penderfynu fis yma i gau safle ysgol gynradd sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri.

Mae Sir Gaerfyrddin, Powys, Gwynedd a Chonwy ymhlith y cynghorau sydd wedi ymgynghori am gau ysgolion yn ddiweddar
Mae amcangyfrifon poblogaeth yn awgrymu y bydd pob awdurdod lleol, ac eithrio Casnewydd, yn gweld gostyngiad yn nifer y plant hyd at 15 oed rhwng canol 2022 a chanol 2032.
Ynys Môn (i lawr 16.6%), Wrecsam (i lawr 14.5%) a Chaerffili (i lawr 13.4%) sy'n debygol o weld y gostyngiadau mwyaf.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod disgwyl i boblogaeth y ddinas dyfu, ond y gallai rhai ysgolion cynradd weld nifer eu disgyblion yn gostwng tua 20% erbyn 2029.
Yn ôl Cyngor Gwynedd roedd bron i chwarter capasiti ysgolion y sir yn wag yn 2024, sy'n cyfateb i fwy na 4,700 o lefydd.
"O ganlyniad, mae'n debygol y bydd rhai ysgolion yn wynebu heriau cynyddol yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys niferoedd dysgwyr is, dosbarthiadau llai gydag ystod ehangach o oedrannau, a phwysau cynyddol ar gyllidebau ysgolion," meddai llefarydd.
Ac mae Cyngor Caerffili wedi sefydlu gweithgor arbennig i ystyried yr her sy'n wynebu ysgolion.

Mae Stuart Williams o undeb athrawon yr NEU yn galw am gynnal lefelau gwariant ysgolion
Yn ôl Stuart Williams o undeb yr NEU, cafodd nifer fawr o athrawon eu diswyddo rhwng Chwefror a Mai eleni oherwydd bod nifer y disgyblion yn gostwng.
"Mae hyn yn gyfle i'r llywodraeth gadw'r cyllid fel mae o neu godi'r cyllid er mwyn sicrhau bod dosbarthiadau'n llai, bod plant yn cael yr addysg maen nhw'n haeddu - yn enwedig y plant hefo anghenion dysgu ychwanegol - a hefyd bod lles staff yn cael ei edrych ar ei ôl trwy ddysgu llai o blant," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod nifer o ffactorau'n dylanwadu ar dueddiadau demograffig, a'r "ffordd orau o gryfhau rhagolygon hirdymor Cymru yw creu mwy o gyfleoedd economaidd".
"Drwy ein cenhadaeth i hybu cynhyrchiant, ein nod yw creu cymunedau ffyniannus lle gall pobl gael mynediad at swyddi da a chyflogau uwch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.