Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Caroline Jones

Caroline JonesFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Caroline Jones fe wnaeth hi deimlo ei bod hi'n "hanfodol" dysgu Cymraeg er mwyn "dangos parch" wrth symud i fyw yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Wrth gyfarfod â'i gŵr mewn prifysgol yn Llundain y daeth Caroline Jones yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg, gan gael ei "swyno" meddai gan arwyddion dwyieithog a'r Gymraeg roedd yn ei chlywed o'i chwmpas wrth ymweld â Chymru.

Yn wreiddiol o Lundain, ond bellach yn byw yng Ngwynedd, mae'n dweud iddi deimlo ei bod hi'n "hanfodol" iddi ddysgu'r Gymraeg "er mwyn dangos parch" wrth iddi symud i fyw i Gymru.

Mae hi'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos yma i gwrdd â'r ymgeiswyr.

Dywedodd Caroline ei bod yn "fraint enfawr" bod ar y rhestr fer, a bod hynny'n "gyfle gwych i ddathlu a hyrwyddo dysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg".

Yn 2004 symudodd Caroline i ogledd Cymru, lle dechreuodd ddysgu'r iaith wrth astudio ar gyfer gradd meistr a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Pan oedd yn disgwyl ei phlentyn cyntaf, aeth Caroline a'i gŵr ar gyrsiau Cymraeg babanod gyda'i gilydd gan ymuno â chwrs lefel canolradd, ac mewn cyfweliad ar Dros Frecwast dywedodd ei bod yn "benderfynol o fagu fy mhlentyn yn ddwyieithog".

Bellach mae'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae hi wedi ymuno â chyrsiau er mwyn "gwella fy ngallu siarad Cymraeg gyda fy nghydweithwyr a phlant a theuluoedd sydd yn defnyddio ein gwasanaethau".

Mae'n dweud ei bod yn ffodus i gael llawer o gyfleoedd bob dydd i siarad Cymraeg yn ei bywyd personol a phroffesiynol.

'Awydd i siarad yn berffaith yn fy rhwystro'

Dywedodd Caroline bod ei hawydd i fod yn "berffaith" yn ieithyddol wedi ei rhwystro am gyfnod.

"Cam pwysig ar gyfer fy nysgu oedd gollwng fy mherffeithrwydd a defnyddio'r Gymraeg oedd gen i yn barhaus, heb boeni am wneud camgymeriadau."

"Roedd rhaid i mi ollwng gafael ar boeni am swnio'n dwp neu gymryd gormod o amser i bobl eraill wrth i mi brosesu'r hyn a ddywedon nhw a meddwl am sut y gallaf ymateb.

"Yn hollbwysig roedd rhaid i mi ollwng gafael ar ddeimlo'n euog am ddiffyg rhuglder ar hyd y ffordd, neu am orfod gofyn i rywun ddweud rhywbeth eto."

Mae'n dweud hefyd bod parodrwydd eraill i gynnal sgyrsiau gyda hi yn Gymraeg wedi ei helpu.

Caroline Jones Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caroline Jones yn dweud bod dysgu Cymraeg wedi "trawsnewid" pob agwedd o'i bywyd

Yn ôl Caroline mae dysgu Cymraeg wedi bod o "fudd aruthrol" iddi, gan drawsnewid pob agwedd o'i bywyd.

"Mae wedi newid sut ydw i'n meddwl ac yn rhyngweithio.

"Y budd mwyaf i mi ydy'r cysylltiadau dwfn a pharhaol y mae hyn wedi eu meithrin.

"Mae fy mywyd teuluol, fy mywyd cymdeithasol, fy mherthnasoedd â chydweithwyr, a'm hymarfer clinigol wedi newid am byth er gwell."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.